Mae’r Pythefnos Gofal Maeth yma
Mae'r Fro yn un o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, gan gydweithio i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol.
Mae tîm Maethu Cymru Bro Morgannwg yn gweithio'n galed i sicrhau bod gofalwyr maeth yn y Fro yn cael eu cefnogi, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u 4bod yn cael y dysgu a'r datblygiad angenrheidiol i fod y gorau y gallant fod.
Cwrdd â Simon, un o'r gofalwyr maeth anhygoel yn ein cymuned sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn yn bywydau plant. Mae ei stori'n dystiolaeth i gariad, ymroddiad, a grym teulu:
Mae Simon, perchennog busnes lleol llwyddiannus sy’n gwerthu bwyd yr enaid Caribïaidd, wedi dod yn ofalwr maeth sydd newydd ei gymeradwyo. Gwnaethon ni gwrdd â Simon i drafod ei resymau dros fod eisiau maethu, dilyn hynt ei daith faethu a sut mae’n parhau i redeg ei fusnes ochr yn ochr â maethu.
Beth ysgogodd eich diddordeb mewn maethu i ddechrau?
“Sbardunwyd fy niddordeb mewn maethu gan awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant sydd angen amgylchedd cartref sefydlog a chariadus. Sylweddolais y gallai fy nawn am droi anhrefn yn rhywfaint o drefn ddod yn ddefnyddiol y tu allan i drefnu fy nrôr hosanau. Hefyd, pwy na fyddai eisiau bod yn arwr go iawn gyda grym cariad?”
Mae angerdd Simon dros uno pobl drwy fwyd a’i arbenigedd yn y busnes arlwyo wedi rhoi cyfle gwerthfawr i’r person ifanc dan ei ofal feithrin sgiliau newydd, ennill profiad ymarferol, ac i ddod i gysylltiad â sefyllfaoedd yn y byd go iawn yn y diwydiant.
Cysylltodd Simon â’r person ifanc trwy goginio, ac roedd yn agored i fyd hollol newydd o wahanol ddiwylliant a bwyd. Cyn aros gyda Simon, nid oedd erioed wedi rhoi cynnig ar afr mewn cyrri, bellach dyma’i hoff bryd o fwyd i goginio!
Sut mae maethu yn gweddu i ymrwymiadau eich bywyd?
“Mae maethu yn cyd-fynd â’m hymrwymiadau bywyd trwy gynllunio a chyfathrebu gofalus ynghyd â hyblygrwydd. Mae’n bwysig blaenoriaethu anghenion y plentyn maeth wth gydbwyso cyfrifoldebau eraill hefyd.”
Mae gennym amrywiaeth o bobl yn maethu ar gyfer Bro Morgannwg, o berchnogion busnes prysur fel Simon i gyplau sydd wedi ymddeol. Os ydych chi’n teimlo’n angerddol dros gymryd y cam hwnnw i faethu ond yn ansicr a oes gennych chi’r amser i faethu, mae gennym dîm gwych a all eich helpu i ddarganfod ai dyma’r amser iawn i chi.
Beth mae maethu yn ei olygu i chi?
“Mae maethu yn golygu darparu amgylchedd diogel, meithringar a chefnogol i blant a allai fod wedi profi trawma neu ansefydlogrwydd yn eu bywydau. Mae’n ymwneud â chynnig sefydlogrwydd, cariad a’r cyfle iddynt ffynnu.”
Mae’r person ifanc wedi dechrau hyfforddiant ar gyfer cymwysterau diogelwch bwyd ac wedi penderfynu ei fod yn llwybr gyrfa y mae am ei ddilyn. Mae darganfod ei angerdd dros goginio wedi trawsnewid ei agwedd ar fywyd ac wedi rhoi persbectif newydd iddo.
Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried maethu?
“Fy nghyngor i rywun sy’n ystyried maethu fyddai addysgu eu hunain am y system gofal maeth, bod yn barod ar gyfer yr heriau a’r gwobrwyon a ddaw yn ei sgil, ceisio cefnogaeth gan rieni maeth neu asiantaethau profiadol, ac yn anad dim, mynd at faethu gyda chalon a meddwl agored.”
Os yw stori Simon wedi eich ysbrydoli, cysylltwch â ni yma am sgwrs gyfeillgar ac anffurfiol am faethu.