Bydd yr ŵyl Gymraeg boblogaidd, Gŵyl Fach y Fro, a drefnir gan Fenter Bro Morgannwg, yn cael ei chynnal ar Bromenâd Ynys y Barri Ddydd Sadwrn 18 Mai o 11am - 8pm.
Bydd:
Cerddoriaeth fyw
Perfformiadau a gweithdai dawns
Bwyd a diod
Gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd
Stondinau crefft
Bydd yr holl adloniant yn cael ei ddarparu yn yr iaith Gymraeg, gan gynnig trochi diwylliannol gwirioneddol i'r mynychwyr.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac nid oes angen tocyn arnoch i fod yn bresennol.