Staffnet+ >
Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu 2024
Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu 2024
13 Mai 2024
Mae Wythnos Cynhwysiant Du 2024 yn para o 13 Mai i 17 Mai. Y thema ar gyfer 2024 yw Grymuso ar gyfer Newid: Adeiladu Dyfodol Gwell gyda'n Gilydd."
Dyma amcanion yr Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu:
- Ein gwneud ni'n gryfach fel un gymuned.
- Creu ymrwymiad at newid.
- Bod yn ddathliad o bobl ddu mewn cymdeithas.
- Grymuso pawb a hwyluso gweithredu.
- Ymgysylltu drwy gydweithredu.
Mae Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu yn ein hatgoffa na ddylid anghofio'r heriau sy'n wynebu pobl Ddu. Mae'n annog dealltwriaeth, dysgu ac ymdrechion parhaus i wneud newidiadau ystyrlon fydd yn gwneud gwahaniaeth.
Mae Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu yn gyfle i ni ddangos ymrwymiad i gynhwysiant a gweithio tuag at greu diwylliant gwrth-hiliol. Dywed Ruth-Anne Eghan, Ymgynghorydd Cynhwysiant ac Amrywiaeth yn Inclusive Employers:
“Mae gennym ffordd bell i fynd o hyd i gyflawni cydraddoldeb hiliol mewn gwahanol sectorau a chymdeithas yn gyffredinol. Mae pobl ddu yn dal i ddioddef hiliaeth ac mae'n gyfrifoldeb ar bawb waeth beth eich safle mewn sefydliad, i godi llais."
Gallwch weld mwy am Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu ar y wefan swyddogol.
Mae cyfres o ddigwyddiadau ar-lein am ddim ar gael i nodi Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu. I weld rhestr lawn o ddigwyddiadau ac i gofrestru, ewch i Digwyddiadau WCPDd 2024 - Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu.
Bydd cydweithwyr ym Mro Morgannwg yn mynychu digwyddiad Cynghreiriad effeithiol i'r gymuned ddu ar 15 Mai am 12 – 1:30pm, ymhlith eraill.
Bydd mynd i un o'r sesiynau hyn yn helpu i ehangu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth – mae dysgu am brofiadau a straeon pobl eraill yn hanfodol er mwyn dod yn fwy cynhwysol. Os byddwch yn mynychu sesiwn, cofiwch ei drafod yn eich cyfarfodydd #Amdanafi– mae'n cyfrif fel dysgu/hyfforddiant proffesiynol.
Rhywbeth arall y gallwch chi ei wneud yw ymuno â’r Rhwydwaith Staff Amrywiol. Mae’r Rhwydwaith Staff Amrywiol ar gyfer cydweithwyr a chynghreiriaid sydd am gefnogi cenhadaeth cydraddoldeb hiliol y Cyngor. Mae’r Rhwydwaith Staff Amrywiol yn dathlu amrywiaeth ac yn gweithio i greu effaith gadarnhaol ar gymunedau Du, Asiaidd a Mwyafrif Byd-eang yn y gweithle.
Mae croeso i'r holl staff ymuno, gan gynnwys staff ysgol a staff dros dro. Gallwch hefyd ymuno fel cynghrair.
Gall cyfarfodydd y Rhwydwaith Staff Amrywiol hefyd gyfrannu at eich dysgu proffesiynol. Mae'r cyfarfodydd misol yn cynnwys partïon gwylio, trafod llyfrau, rhannu dysgu, a chyflwyniadau o'r 'llyfrgell ddynol' lle mae aelodau'n rhannu eu profiadau a'u straeon. Mae’r Rhwydwaith Staff Amrywiol hefyd wedi chwarae rhan allweddol mewn cyfarfodydd Mannau Diogel a chyflawni statws Awdurdod Arloesi.
Cadwch lygad allan am fanylion y cyfarfod nesaf.
Llenwch y ffurflen hon i ymuno â’r Rhwydwaith Staff Amrywiol:
Ffurflen Aelodaeth Amrywiol
Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel i bobl weithio ynddo ac i sicrhau bod ardal Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol. Os ydych chi’n pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion Cyngor Bro Morgannwg.