Staffnet+ >
Diwrnod Gweithredu Heneiddio Heb Gyfyngiadau 2024
Diwrnod Gweithredu Heneiddio Heb Gyfyngiadau 2024
Nod ymgyrch Heneiddio Heb Gyfyngiadau yw sbarduno trafodaeth a sgwrs am beth yw gwahaniaethu ar sail oedran a newid y ffordd yr ydym i gyd yn meddwl am heneiddio.
Mae’r Diwrnod Gweithredu yn gyfle i unigolion, chymunedau a gweithleoedd ddysgu, gweithredu a helpu i newid y ffordd yr ydym yn meddwl am heneiddio. Y Diwrnod Gweithredu yw eich cyfle i wneud gwahaniaeth.
Yn wahanol i unrhyw nodwedd warchodedig arall, mae oedran yn effeithio ar bawb. Waeth beth fo'n hil, rhywedd, gallu, cyfeiriadedd rhywiol - rydym i gyd yn heneiddio. Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn effeithio ar bawb. Mae gan bawb, ym mhob man ran yn newid hyn.
Y Thema Eleni yw ‘Gweld a Chael Eich Gweld’
Gall y ffordd yr ydym yn cael ein cynrychioli wrth i ni fynd yn hŷn gael effaith ddwys ar gredoau, agweddau ac ymddygiad pobl eraill tuag atom ni – mae hyn yn arbennig o bwysig os yw rhai neu'r holl sylwadau hynny'n negyddol neu'n ystrydebol.
Mae hyn i gyd yn ymwneud â herio'r ffordd gul, negyddol ac ystrydebol yn aml y mae pobl hŷn a heneiddio’n cael eu portreadu yn ein cymdeithas.
Heneiddio Heb Gyfyngiadau
Beth ydych chi'n ei wneud i herio ystrydebau heneiddio?
Fel rhan o'n hymgyrch Heneiddio'n Dda, rydym yn llunio fideo i arddangos y ffyrdd y mae trigolion y Fro yn herio ystrydebau heneiddio. Hoffem wybod mwy am yr hyn rydych chi (neu rywun rydych chi'n ei adnabod) yn ei wneud i "heneiddio'n dda". P'un a yw'n dysgu sgil newydd, mynd i'r gampfa, neu gwrdd â'ch ffrindiau am goffi - mae yna lawer o ffyrdd o herio ystrydebau bob un dydd!
Rydym yn chwilio am drigolion i ymddangos yn ein fideo. Cyflwynwch fideo ohonoch eich hun neu berson hŷn rydych chi'n ei adnabod sy'n dangos sut rydych chi'n herio ystrydebau oedran. Bydd y fideos gorau hefyd yn cael cyfle i ennill pecyn gwobrau Y Fro Sy’n Dda i Bobl Hŷn, felly peidiwch â theimlo ofn bod yn greadigol.
Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i ddechrau eich fideo:
- Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i bobl eraill i'w helpu i heneiddio'n dda?
- Beth yw'r peth gorau am dyfu'n hŷn?
- Beth sydd bwysicaf i chi wrth fynd yn hŷn?
Cyflwno Fideo