Diweddariad pwysig ynglŷn â ffonau 

Yn ddiweddar, gofynnwyd i bob aelod o staff y swyddfa gwblhau arolwg teleffoni i helpu ein tîm Digidol i ddeall eu hanghenion a gwella mynediad at ffonau a negeseua. 

O ganlyniad i'r adborth a ddaeth i law, bydd y Cyngor yn disodli ei ffonau bwrdd gwaith cyfredol gyda Microsoft Teams Phone. Mae disgwyl i'r newid hwn ddigwydd ym mis Ebrill.

Fel rhan o Strategaeth Ddigidol y Cyngor, rydym yn bwriadu defnyddio technoleg fodern i wella'r ffordd yr ydym yn rhyngweithio â'n cwsmeriaid a'n cydweithwyr.

Bydd defnyddio Microsoft Teams Phone yn ein galluogi i symleiddio ein defnydd o dechnoleg ffôn a negeseua, gan gynnig un ateb ar gyfer sgyrsiau llais a thestun fel ei gilydd.

Mae nifer o fanteision i ddefnyddio Microsoft Teams Phone:

  • Mae llawer o staff eisoes yn gyfarwydd â gwneud galwadau gyda Microsoft Teams 
  • Mae Teams Phone yn llwyr gefnogi'r defnydd o weithio hybrid ac yn galluogi newid rhwng dyfeisiau’n hawdd
  • Bydd staff yn gallu gwneud a derbyn galwadau waeth pa ddyfais maen nhw'n ei defnyddio 
  • Mae cyfuno galwadau a negeseuon yn un system yn ein galluogi i gyfathrebu â’n cwsmeriaid a’n sefydliadau partner mewn modd hyblyg
  • Bydd rhyddhau staff o linellau sefydlog yn helpu i gyflawni rhaglen Eich Lle
  • Galwadau digidol o ansawdd gwell

Bydd staff yn cael y feddalwedd a'r galedwedd i ddiwallu eu hanghenion, yn seiliedig ar eu hymatebion i'r arolwg. 

Er enghraifft, bydd ffôn bwrdd gwaith a thrwydded Cisco Jabber y rheiny nad ydynt yn gwneud neu’n derbyn galwadau’n rheolaidd y tu allan i’r sefydliad yn cael eu dileu. Gellir defnyddio Microsoft Teams o hyd i wneud a derbyn galwadau y tu mewn i'r sefydliad, i gynnal cyfarfodydd ac i gadw mewn cysylltiad trwy’r swyddogaeth negeseua. A gellir defnyddio ffonau symudol i wneud a derbyn galwadau y tu allan i'r sefydliad yn ôl yr angen.

I'r rhai sy'n gwneud neu'n derbyn galwadau y tu allan i'r sefydliad yn rheolaidd, bydd clustffonau yn cymryd lle eu ffôn desg traddodiadol presennol a byddant yn gallu defnyddio meddalwedd Microsoft Teams ar eu dyfais i wneud a derbyn galwadau allanol. Bydd angen ffôn desg mewn nifer fach o sefyllfaoedd a chysylltir â'r defnyddwyr hynny sydd ei angen i drefnu ei osod.

Bydd pawb y mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnynt yn derbyn e-bost cyn bo hir i’w hysbysu am y trefniadau o fis Ebrill ymlaen. 

Yn y cyfamser, cysylltwch â'r tim trwy'r ffurflen Halo yma os oes gennych unrhyw gwestiynau.