Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 28 Mawrth 2024
Yr Wythnos Gyda Rob
28 Mawrth 2024
Annwyl Gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau'r neges hon trwy ddymuno Pasg hapus iawn i chi i gyd.
Gobeithio bydd y tywydd yn sych ar gyfer Penwythnos Gŵyl y Banc, a gallwn ni i gyd fwynhau rhywfaint o heulwen y gwanwyn.
Er bod hon yn wythnos gywasgedig, ni fu prinder gwaith gwych ar draws y Cyngor a digon i'ch diweddaru yn y neges gynharach hon ddydd Iau.
Yn gyntaf, rhywfaint o newyddion chwerwfelys, gyda'r cyhoeddiad bod Tîm Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y Cyngor yn cael ei ddiddymu.
Sefydlwyd y grŵp hwn tra roeddem yng ngafael pandemig Covid, felly mae'n amlwg yn gadarnhaol bod y dyddiau hynny y tu ôl i ni ac nad oes angen ymateb o'r fath gan y Cyngor mwyach.
Fodd bynnag, cafodd perthnasoedd proffesiynol cryf eu meithrin allan o adfyd o'r fath ac rwy'n gwybod mai gyda rhywfaint o dristwch y mae'n rhaid i gydweithwyr oedd yn gysylltiedig fynd eu ffyrdd eu hunain.
Dan arweiniad Sharon Miller, daeth y Tîm PPE at ei gilydd ym mis Mawrth 2020 a daeth yn rhan annatod o ymateb y Cyngor i Covid.
Daeth hefyd i symboleiddio popeth oedd yn dda am ein hymateb sefydliadol a'n cefnogaeth gymunedol yn ystod y cyfnod anodd hwnnw.
Gyda'r gwasanaeth bellach i fod i gau ddiwedd y mis, hoffwn dalu teyrnged i bawb oedd yn rhan ohono am yr holl waith anhunanol a wnaethoch i helpu pobl yn ystod cyfnod mor dywyll.
Roedd y tîm yn cynnwys gwirfoddolwyr o sawl adran arall, cynllun Greenlinks, disgyblion Ysgol Gyfun Stanwell, staff Ysgol Y Deri a llawer mwy.
Gan weithio allan o garej dros dro yn y Swyddfa Ddinesig, aeth y tîm yn wirioneddol y tu hwnt i hynny, gan weithio'n galed yn y gwres a'r oerfel i sicrhau bod PPE yn cyrraedd y rhai mwyaf anghenus mewn cartrefi gofal a thu hwnt.
Fe wnaeth eich ymdrechion helpu pobl pan oedd ei angen arnynt fwyaf a byddant yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy nag y byddwch chi'n ei wybod.
Mae'r ymrwymiad a ddangoswyd gennych yn greiddiol i’r hyn y mae gwasanaeth cyhoeddus yn ei olygu a'r rheswm ein bod yn y sector hwn.
Mae gormod o lawer o staff ar draws y sefydliad i sôn amdanynt yn unigol, ond da iawn a diolch o galon. Diolch yn fawr iawn.
Nesaf, hoffwn annog pob adran i ystyried a allen nhw gymryd rhan yn y trydydd cynllun QuickStart, sy'n cael ei lansio eto y gwanwyn hwn.
Bydd y fenter hon, a ariennir gan Lywodraethau'r DU a Chymru, a'i darparu gan y Tîm Cymunedau Dysgu a Chyflogaeth (CELT+), yn darparu hyd at bum lleoliad gwaith â thâl ar gyfer pobl ifanc wedi eu lleoli yn y Fro. Y nod yw rhoi sgiliau cyflogaeth hanfodol i bobl ifanc i wella eu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.
Ystyriwch a oes cyfle i berson ifanc 18-24 oed sy’n byw yn y Fro weithio yn eich adran chi.
Mae’n rhaid i'r swydd fod yn swydd wag newydd a pheidio â disodli unrhyw swyddi gwag presennol neu wedi'u cynllunio.
Ni ddylai chwaith beri i weithwyr, prentisiaid neu gontractwyr presennol golli gwaith na lleihau eu horiau gwaith.
Byddai chwe mis cyntaf y cyfle yn cael ei ariannu gan QuickStart, gyda'r ddealltwriaeth y byddai'r ymgeisydd yn cael cynnig cyflogaeth fwy parhaol os yw'n bodloni gofynion prawf.
Mae’r cyllid ar gyfer lleoliad chwe mis, 25 awr yr wythnos, ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y cyfnod o 6 mis.
Bydd hyd at £500 ar gael ar gyfer hyfforddiant ac adnoddau hefyd, tra byddai'r ymgeisydd yn derbyn hyfforddiant sgiliau cyn cyflogaeth drwy'r rhaglen CELT+ a Chymunedau am Waith Plus mewn partneriaeth â Dysgu Oedolion yn y Gymuned.
Agorodd y cyfnod ar gyfer mynegi diddordeb ddydd Llun ac mae'n para tan 12 Ebrill, gyda'r pum swydd wag yn cael eu hysbysebu o ddydd Llun 15 Ebrill.
Ar ôl derbyn ffurflen datganiadau o ddiddordeb, bydd cydlynydd QuickStart mewn cysylltiad gyda mwy o wybodaeth.
Wythnos diwethaf, daeth y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc ynghyd ar gyfer ei Ddiwrnod Gwasanaeth cyntaf, gan ganolbwyntio ar thema Datblygu ein Cryfderau.
Cynhaliwyd tair sesiwn drwy gydol y dydd lle siaradodd cydweithwyr yn yr adran am yr hyn y maent yn ei wneud yn dda a'u nodau ar gyfer y dyfodol.
Ar ddiwedd pob sesiwn, roedd y rhai a gymerodd ran yn llenwi ffurflen oedd yn dechrau fel hyn.... 'Rwyf wedi gwneud gwahaniaeth i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr drwy.....' ac yna roeddent yn cael eu dal i fyny i eraill eu gweld.
Gall gwaith yn y sector hwn fod yn anodd ac mae ymarfer o'r fath yn helpu i atgoffa'r rhai sy'n gysylltiedig o’r cyfraniad gwerth chweil y maent yn ei wneud.
Da iawn i bawb a gymerodd ran – rydych yn cael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau plant a phobl ifanc yn ein cymunedau.
Hefyd yr wythnos hon, lansiodd ein Tîm Gwastraff wasanaeth ailgylchu masnachol newydd i helpu busnesau i fodloni rheoliadau ailgylchu diweddaraf Llywodraeth Cymru.
O 6 Ebrill 2024, bydd yn rhaid i bob gweithle yng Nghymru wahanu eu gwastraff yn ôl math i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o gartrefi’n ei wneud nawr.
Cyflwynwyd cynwysyddion ailgylchu newydd i'n swyddfeydd yn gynharach y mis hwn a nawr rydym yn helpu eraill i wneud yr un peth.
Gall busnesau yn y Fro danysgrifio i dderbyn casgliadau ailgylchu ar wahân gyda gwasanaeth gwastraff masnachol rhad, hyblyg a chynaliadwy newydd y Cyngor.
Mae'r gwasanaeth yn cynnig tri opsiwn tanysgrifio, sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion busnesau o bob math a maint, gyda phrisiau'n dechrau o £104 y flwyddyn.
Opsiwn un yw bag cwad, sy'n addas ar gyfer busnesau bach nad ydynt yn cynhyrchu llawer o wastraff ailgylchadwy.
Dewis dau yw dewis o hyd at bedwar cynhwysydd ailgylchu ar wahân, sy'n addas ar gyfer busnesau bach i ganolig sy'n cynhyrchu swm tebyg o wastraff i aelwyd safonol.
Mae cyfraddau ailgylchu yng Nghymru ymhlith y gorau yn y byd, tra bod gwaith caled ein Tîm Gwastraff wedi gwneud y Fro yn un o'r Awdurdodau Lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru.
Rwy'n siŵr y bydd y cynllun diweddaraf hwn yn datblygu’r gwaith da sydd wedi arwain at y statws hwnnw ymhellach.
Diolch yn fawr iawn i Colin Smith a phawb sy'n chwarae rhan yn ein gwaith gwastraff rhagorol.
Yn olaf, hoffwn sôn am Sue Alderman, sy'n ymddeol ar ôl 21 mlynedd gyda'r Cyngor.
Dechreuodd Sue gyda'r sefydliad ym mis Mawrth 2003 fel swyddog personél yn y gyfarwyddiaeth gwasanaethau cymunedol cyn symud i'w rôl bresennol fel Prif Bartner Busnes Adnoddau Dynol (AD), yn cynnwys Ysgolion a Dysgu a Sgiliau yn bennaf.
Yn aelod poblogaidd o'r tîm, mae cydweithwyr agos yn disgrifio gweithio gyda Sue fel pleser, gan ei galw'n "fentor gwych, yn ffrind ac yn ffynhonnell cymorth cyson."
Bydd yn golled i’r Cyngor ond bydd Sue yn elwa wrth iddi gynllunio i fwynhau teithiau beicio hir, penwythnosau i ffwrdd ac amser gwerthfawr gyda'i theulu a'i ffrindiau unwaith y bydd wedi ymddeol.
Felly pob dymuniad da ar gyfer y dyfodol Sue.
I bawb arall fydd yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl y penwythnos hir, mwynhewch bedwar diwrnod tawel a hamddenol.
Unwaith eto, diolch i chi am eich ymdrechion yr wythnos hon – cânt eu gwerthfawrogi'n fawr.
Diolch yn fawr iawn,
Rob