Yr Wythnos Gyda Rob

22 Mawrth 2024

Annwyl gydweithwyr,

Mae hon wedi bod yn wythnos arall lle rwyf wedi bod yn ffodus i weld drosof fy hun y gwaith rydym yn ei wneud i wneud ein sefydliad a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu'n fwy cynhwysol.

International Womens Day 2024

Yn y cyfarfod UDA ddydd Mawrth, ymunodd Emma Ford, Rheolwr Prosiect Braenaru’r Blynyddoedd Cynnar, a Rachel Protheroe, ein Rheolwr Gwasanaethau Cofrestru, a gyflwynodd y canfyddiadau a'r adborth o'n digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gynharach y mis hwn.

Roedd Emma a Rachel yn rhagorol a chawsom gipolwg go iawn ar brofiadau ein cydweithwyr. Gwnaethant hefyd gyflwyno nifer o gynigion ar gyfer gweithredu y gellid eu cymryd i wella cynwysoldeb. Rwy'n falch iawn o allu lansio y cyntaf o'r rhain heddiw: cynllun mentora gwrthwyneb newydd i'r Cyngor.

Mae mentora gwrthwyneb, y cyfeirir ato weithiau fel mentora tuag i fyny, wedi'i gynllunio i alluogi mwy o aelodau staff iau i gwrdd â'r rhai ar lefelau uwch yn strwythur y sefydliad a rhannu budd eu profiad gyda nhw. Mae llawer o fuddion i droi deinameg draddodiadol y gweithle ar ei phen. Yn ein hachos ni, gobeithiwn y bydd yn helpu mwy o reolwyr i ddeall y profiadau a'r heriau sy'n wynebu aelodau iau o'r tîm a menywod ac yn eu helpu i weithio'n fwy effeithiol i greu gweithle mwy cynhwysol.

Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yn dangos i'n mentoriaid faint yr ydw i ac uwch arweinwyr eraill yn y Cyngor hwn yn gwerthfawrogi barn a phrofiadau ein cydweithwyr. Rydym i gyd yn dysgu ac yn gwella bob dydd ac rwy'n awyddus iawn i fod yn rhan o'r cynllun hwn. Diolch yn fawr i bawb a helpodd i ddatblygu'r cynnig yn dilyn ein digwyddiad DRhM 2024 ac i Emma a Rachel am ei gyflwyno mewn ffordd mor ddymunol yr wythnos hon. 

Os hoffech chi chwarae rôl fel un o'n mentoriaid, yna cysylltwch â exofintrmo@valeofglamorgan.gov.uk a bydd ein tîm Adnoddau Dynol yn rhoi gwybod i chi am y camau nesaf. Edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi i gyd ar ganlyniadau eraill DRhM 2024 mewn negeseuon yn y dyfodol.

Abi Warburton with the Armed Forces Flag

Mae gennym nifer o gydweithwyr yn ein Cyngor y mae eu rolau yn eirioli dros y grwpiau hynny a allai fel arall gael eu tangynrychioli neu eu hanwybyddu. Un o'r rheiny yw Abi Warburton sy'n gweithio i gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd yn y Fro. Mae Abi wedi cael llwyddiant arall yr wythnos hon, gan helpu Race Council Cymru i gael gafael ar gyllid hanfodol i gefnogi Cyn-filwyr o leiafrifoedd ethnig a'u teuluoedd.

Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ac ohonom ni fel Cyngor yn defnyddio ein harbenigedd i gefnogi grwpiau cymunedol a'r trydydd sector i ddarparu eu gwasanaethau - ffordd o weithio a fydd yn fwyfwy pwysig yn y blynyddoedd i ddod.

Fe wnaeth Abi gysylltu â'r grŵp ar ôl ein digwyddiad ar gyfer Hynafiaid Windrush yn y Swyddfeydd Dinesig y llynedd. Ar ôl clywed mwy am yr hyn yr oeddent yn ceisio ei gyflawni, nododd Abi ffynhonnell cyllid grant, helpu'r grŵp i wneud eu cais, a defnyddio ei holl arbenigedd i gynnwys y partneriaid iawn ar yr adeg iawn.

Y canlyniad yw gwasanaeth newydd i Fro Morgannwg a Chaerdydd, rhwydwaith cymorth hanfodol, a digwyddiad dathlu blynyddol ar gyfer cyfraniad y cyn-filwyr hyn.

Ageism Action Day 2024

Trwy gyd-ddigwyddiad, daeth y llwyddiant hwn yn yr un wythnos â'r newyddion body Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am Safon Pride in Veterans (PiVS) am ei waith i gefnogi Cyn-filwyr LHDT+, milwyr presennol a'u teuluoedd. Gwaith da ar y ddwy law Abi!

 

Ni ddylid byth ystyried nodweddion unigolion fel penderfynydd o’r hyn y gallant ac na allant ei wneud ac yn yr un ysbryd â'r gwaith hwn, mae’r Cyngor wedi cefnogi Diwrnod Heneiddio Heb Gyfyngiadau yr wythnos hon.  

Nod ymgyrch Heneiddio Heb Gyfyngiadau yw sbarduno sgyrsiau am wahaniaethu ar sail oedran a newid y ffordd yr ydym i gyd yn meddwl am heneiddio. Fel rhan o'n Hymgyrch Heneiddio'n Dda, mae ein timau Polisi a Chyfathrebu yn llunio fideo i arddangos y ffyrdd y mae preswylwyr y Fro yn herio ystrydebau o ran tyfu’n hŷn. Mae croeso mawr i staff gymryd rhan yn hyn hefyd, felly os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ffordd ddiddorol o "heneiddio'n dda" yna cysylltwch â'r timau a'u helpu i rannu hyn gydag eraill.

Vale Telecare team

Mae ein tîm Teleofal y Fro yn gwneud gwaith ardderchog i gefnogi pobl hŷn yn y Fro a'u helpu i gynnal eu hannibyniaeth. Mae'r tîm yn darparu cymorth 24 awr drwy Ganolfan Gyswllt Un Fro a chydnabuwyd effaith eu system larwm argyfwng wrth gefnogi lles eu cwsmeriaid yr wythnos hon mewn seremoni wobrwyo ryngwladol.

 

Cafodd Teleofal y Fro a TEC Cymru eu cyd-enwebu yng nghategori Arloesedd GAD Newydd yng Nghynhadledd Gofal a Alluogir gan Dechnoleg Ryngwladol 2024. Fe'u henwebwyd am eu gwaith yn datblygu dangosfwrdd sy'n cael ei sbarduno gan ddata sy'n symleiddio prosesu data ac yn rhoi trosolwg amser real o'r dechnoleg y mae'r gwasanaeth yn dibynnu arni.

Er nad y tîm oedd yr enillwyr ar y noson, mae eu henwebiad yn dangos y parch tuag at y gwaith ac mae'n enghraifft arall o arloesedd digidol gwych yma yn y Fro. Hoffwn longyfarch tîm cyfan Teleofal ar eu llwyddiant.

Oracle details review - SN Slider

Un o'n prosiectau digidol mwyaf hyd yma oedd lansiad Oracle Fusion y llynedd. Fel rhan o'r broses barhaus o integreiddio'r llwyfan newydd gyda'n gwasanaethau swyddfa gefn mae angen i bob aelod o staff adolygu a diweddaru eu manylion personol. Mae hyn yn fwy nag ymarfer cymhennu yn unig i'r Cyngor. Mae cadw gwybodaeth gywir am ein staff hefyd yn hanfodol er mwyn i ni fonitro cydraddoldeb y rhywiau, cyflog ac ethnigrwydd yn y sefydliad. Mae gennych tan 15 Ebrill 2024 i adolygu a diweddaru eich manylion. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i wneud hyn ar gael ar StaffNet +.

Hoffwn hefyd dynnu sylw pawb at eitem newyddion arall a gyhoeddwyd ar ein mewnrwyd yr wythnos hon. Bydd etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ar 2 Mai 2024 ac mae canllawiau newydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer staff y cyngor ac aelodau etholedig. Dylai pob aelod o staff gymryd yr amser i adolygu hyn.

Yn olaf, rwy'n gwybod y bydd llawer o staff yn derbyn y neges hon ar y diwrnod olaf cyn eu gwyliau Pasg. Heddiw yw diwrnod olaf tymor ysgolion y Fro. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sy'n gweithio yn ein hysgolion ar ddiwedd tymor prysur arall rwy’n siŵr. Ac i bawb sydd ar fin cael amser i ffwrdd, rwy'n gobeithio y byddwch yn mwynhau eich gwyliau.

Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith yr wythnos hon. Diolch yn fawr, bawb. 

Rob.