Yr Wythnos Gyda Rob

15 Mawrth 2024

Annwyl gydweithwyr,

Fel erioed, mae wedi bod yn wythnos brysur i'r Cyngor gyda llawer iawn o waith gwych yn cael ei wneud ar draws pob adran.

Roeddwn i am ddechrau'r diweddariad dydd Gwener hwn trwy roi sylw i'r Tîm Cyfleusterau a'r gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud gyda'n hysgolion i drefnu contractau glanhau.

Mae ysgolion wedi dirprwyo cyllidebau a gallant ddefnyddio unrhyw gwmnïau ar gyfer gwasanaethau fel glanhau, felly roedd yn wych clywed bod Lynne Armstrong a'i chydweithwyr wedi llwyddo i sicrhau y cofrestrir am ein gwasanaeth glanhau yn eang cyn busnesau allanol.

Mae'r ymdrechion hynny'n golygu y bydd Ysgol Dewi Sant, Ysgol y Ddraig, Ysgol Illtud Sant, Ysgol Iau Dinas Powys, ac Ysgol Gynradd y Wig a Marcroes i gyd bellach yn cael ei gwasanaethu gan ein tîm glanhau mewnol.

Mae hyn yn dod ar adeg hanfodol.  Ar ôl gosod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, rydym i gyd yn gwerthfawrogi bod arian yn dynn. Mae gwybod bod ein hysgolion yn ymddiried yn y gwasanaeth a gynigir gan ein tîm glanhau yn hwb gwirioneddol gan ei fod yn cadw'r gwariant hwn o fewn yr Awdurdod, yn hytrach na'i weld yn mynd i drydydd partïon.

Diolch i'r ysgolion sydd wedi cofrestru ac sy’n cefnogi'r gwasanaethau hynny a ddarperir gan y Cyngor a diolch i Lynne a'i thîm, gan gynnwys y Goruchwylwyr Ardal Paul Edwards a Hayley Fellows am eu gwaith.

project zero logo

Gan gadw at ffyrdd arloesol o weithio, bydd Bwrdd Cronfa Proseict Sero yn cyfarfod y mis nesaf i ystyried casgliad newydd o geisiadau am gyllid.

Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer prosiectau a gyflwynwyd gan staff unigol a thimau sy'n cyfrannu at ein hymrwymiad Prosiect Sero i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Mae amrywiaeth o gynigion gwahanol wedi'u cymeradwyo o'r blaen, gyda chynlluniau arbed ynni, prosiectau bwyd a mentrau beicio i'r gwaith yn eu plith.

Mae modd gwneud ceisiadau o hyd at £5,000 ar unrhyw adeg, tra bod yn rhaid gwneud cynigion ar gyfer symiau mwy erbyn 1 Ebrill i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y bwrdd dair wythnos yn ddiweddarach.

Byddwn yn annog pawb i feddwl a oes unrhyw beth y gallen nhw ei roi gerbron y panel wrth i ni i gyd geisio lleihau ein hôl troed carbon.

Ar y thema honno o ofalu am yr amgylchedd, mae Partneriaeth Natur Leol Bro Morgannwg yn cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol mis Mawrth a thu hwnt.

Yfory, rhwng 11am a 2pm, bydd Draenog Countrysied and Wildlife yn cynnal sesiwn sgiliau gwrychoedd am ddim ar White Farm yn y Barri.

Hedgerow Skills workshop

Bydd cyfle i ddysgu am bwysigrwydd plannu, gosod a chynnal ein gwrychoedd brodorol a'u buddion bioamrywiaeth o ran darparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt a rhwystr naturiol i dda byw.

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad dan do a chyfle i blannu rhai chwipiaid gwrychoedd, gyda chyfel i gadw lle ar-lein.

Mae gweminar hyfforddi amffibiaid ac ymlusgiaid, sesiwn adnabod bywyd gwyllt a dangosiad o Kiss the Ground ymhlith y digwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal, ochr yn ochr â gweithgareddau sy'n gysylltiedig â menter Adfer y Ddawan.

Wedi ei reoli gan Mel Stewart, gyda chefnogaeth Ceri Williams, mae prosiect Adfer y Ddawan yn rhaglen waith dair blynedd i wneud gwelliannau bioamrywiaeth ar hyd Afon Ddawan, y nentydd sy’n ei bwydo, a'r dirwedd gyfagos. 

Y nod yw bod bywyd gwyllt lleol, tirfeddianwyr a'r gymuned oll yn elwa, ac mae’n cynnig cyfleoedd amrywiol i sefydliadau, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr gymryd rhan yn y gwaith cadwraeth.

Cynhaliwyd clirio ffosydd a phrysgwydd yn Nhrwyn y Rhws ar 6 Mawrth a glanhau traeth yng Ngwarchodfa Natur Aberddawan ddydd Sul diwethaf.

Trefnwyd gweminar sy'n cynnig Cyflwyniad i Ecoleg Dyfrgwn ar gyfer dydd Iau, 21 Mawrth rhwng 18.30 a 20.00, gyda hyfforddiant ar Arwyddion maes dyfrgwn ac arolygu a gynhelir yn Aberogwr ddydd Sul, 28 Ebrill o 10am tan 3pm.

Ochr yn ochr ag arian o gronfa Prosiect Sero Cyngor Bro Morgannwg, cafodd Adfer y Ddawan gyllid gan Sefydliad Waterloo a’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, sy’n dod drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yw cryfhau gwytnwch safleoedd tir a morol gwarchodedig Cymru, cefnofi adferiad byd natur, ac annog cymunedau i gymryd rhan mewn cadwraeth natur.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect, naill ai fel gwirfoddolwr neu fel grŵp, e-bostio Mel i ddarganfod mwy.

Mae'r digwyddiadau a gefnogir gan Bartneriaeth Natur y Fro yn tynnu sylw at ba leoliadau awyr agored gwych sydd gennym yn y Fro.

Ac mae'r pwynt hwn wedi'i danlinellu ymhellach gyda newyddion cenedlaethol ITV ar fin darlledu rhagolygon eu tywydd o Ynys y Barri heno.

Buttrils community centre Hive Guys graffiti project

Helpodd gwaith cyflym gan Nia Hollins a'r Tîm Twristiaeth i sicrhau'r archeb hon, sy'n gyfle i arddangos cyrchfan fawr yn y Fro i gynulleidfa ledled y DU. Da iawn, Nia.

Rwy'n credu y gallai ITV hefyd ymweld â Phafiliwn Pier Penarth a Thwnnel Hood Road yn y dyfodol i roi proffil gwell fyth i rai prosiectau rhagorol eraill y Cyngor.

Mewn mannau eraill, mae aelodau Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni dylunio Hurts So Good ar gwpl o furluniau yn Y Barri.

Mae'r cyntaf yng Nghanolfan Gymunedol Buttrills lle mae Prosiect Ieuenctid Hive Guys, un o grwpiau cyfranogi'r gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc 11 i 17 oed, yn cyfarfod bob wythnos.

Mae'r dyluniad yn cynnwys tag graffiti a oedd gynt ar y wal a chafodd ei ddadorchuddio’r penwythnos diwethaf.

Barry RFC mural

Mae cydweithrediad tebyg rhwng y Gwasanaeth Ieuenctid, Hurts So Good ac aelodau lleol clwb ieuenctid wedi gweld murlun arall yn cael ei baentio ar wal tŷ clwb Clwb Rygbi’r Barri.

Mae Rhys Jones wedi bod yn sbardun y tu ôl i'r prosiectau hyn, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i olwg a theimlad y cymunedau hyn yn ogystal â'r bobl ifanc a fu'n rhan o'u creu. Gwaith gwych Rhys a'r tîm.

Ar fater cysylltiedig, roeddwn am sôn am yr ail o ddau arolwg Estyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar.

Ar ôl i'r Gwasanaeth Ieuenctid fod yn destun y cyntaf, mae archwiliad Gwasanaeth Addysg yr Awdurdod Lleol wedi bod yn digwydd yr wythnos hon, gydag amser yn arwain ato yn cael ei ddefnyddio i gasglu tystiolaeth.

Er bod angen i ni aros am adborth ffurfiol yn yr adroddiad, mae gennyf bob hyder y byddwn yn cael canlyniad cadarnhaol.   Rwy'n dweud hyn oherwydd yn ystod yr wythnos (a chyn hyn) rwyf wedi gweld fy hun yr holl waith caled a wnaed i baratoi ar gyfer yr arolwg yn ogystal â'r holl waith rhagorol sy'n digwydd ar draws y Gyfarwyddiaeth, y Cyngor ehangach ac yn ein hysgolion. 

Estyn inspection - David Paula and Morwen

Hoffwn dalu teyrnged arbennig i Paula Ham, ein Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, ei Thîm Arwain Cyfarwyddiaeth a'r nifer fawr o gydweithwyr ar drwas y gwasanaeth a thu hwnt sydd wedi cyfrannu at y broses. Mae hyn wedi cynnwys cyfweliadau ag arolygwyr, trafodaethau ehangach ar bynciau cysylltiedig a chasglu tystiolaeth a gwybodaeth.  Mae sôn arbennig hefyd ar gyfer Trevor Baker a wasanaethodd fel pwynt cyswllt yr Awdurdod Lleol â thîm Arolygu Estyn yn ystod yr arolwg gan sicrhau bod eu holl anghenion a'u ceisiadau am wybodaeth yn cael eu diwallu.  Diolch i bawb ac rydym yn aros am yr adroddiad gyda diddordeb.

Ymunais â'r tîm ar ddiwedd yr Arolwg yn gynharach heddiw a dylech i gyd fod yn hynod falch o'r ffordd yr ydych wedi ymateb i'r broses Arolygu yn ogystal â'ch gwaith ehangach fel rhan o'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Diolch pawb a da iawn i chi i gyd.

Estyn inspection - David Davies

Ar y diwrnod y cwblhaodd Estyn yr arolygiad, roedd hefyd yn bryd ffarwelio â chydweithiwr hirsefydlog o'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau.  Ymunodd David Davies â'r Cyngor yn fuan ar ôl Ad-drefnu Llywodraeth Leol ddiwedd y 1990au ac am lawer o'r amser hwnnw bu'n swyddog arweiniol y Cyngor ar Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles. Heddiw, mae'n dechrau ei ymddeoliad haeddiannol ac roedd yn wych bod yn bresennol pan ddymunai ei gydweithwyr y gorau iddo.  Diolch David am dy waith dros y blynyddoedd.  Diolch i David a dymuniadau gorau am ymddeoliad hir ac iach.

Yn ddiweddar, gofynnwyd i bob aelod o staff y swyddfa gwblhau arolwg teleffoni i helpu ein tîm Digidol i ddeall eu hanghenion a gwella mynediad at ffonau a negeseua.

O ganlyniad i'r adborth a ddaeth i law, bydd y Cyngor yn disodli ei ffonau bwrdd gwaith cyfredol gyda Microsoft Teams Phone. Bydd defnyddio Microsoft Teams Phone yn ein galluogi i symleiddio ein defnydd o dechnoleg ffôn a negeseua, gan gynnig un ateb ar gyfer sgyrsiau llais a thestun fel ei gilydd.

Mae disgwyl i'r newid hwn ddigwydd ym mis Ebrill. Bydd pawb y mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnynt yn derbyn e-bost cyn bo hir i’w hysbysu beth i’w ddiswgwyl.

Ffôn desg yw’r ateb mwyaf addas mewn nifer fach o sefyllfaoedd a chysylltir â'r defnyddwyr hynny sydd ei angen i drefnu ei osod.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Staffnet+.

Fel bob tro, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon.

Er fy mod yn dweud hyn yn rheolaidd, nid yw'n llai diffuant. Rwyf i a'm cydweithwyr o’r UDA yn gwerthfawrogi eich ymroddiad a'ch ymrwymiad yn fawr.

Gobeithio y cewch chi benwythnos braf a hwyliog.

Diolch yn fawr iawn,

Rob