Yr Wythnos Gyda Rob

08 Mawrth 2024

IWD 2024 logo

Annwyl gydweithwyr,

Mae heddiw, fel yr wyf yn siŵr bod llawer ohonoch eisoes yn ymwybodol, yn Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod. Mae DRhM yn ddiwrnod sy’n dathlu llwyddiant cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol menywod yn fyd-eang. Gydol yr wythnos mae cydweithwyr wedi gallu amlygu rhywun sy'n eu hysbrydoli ar ein tudalen bwrpasol ar StaffNet. Mae wedi bod yn wych gweld y rhain yn dod i mewn wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen.  Does dim byd mwy calonogol na gweld ein cydweithwyr yn dathlu dylanwad a gwaith ein gilydd. 

International Womens Day 2024

Mae’r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu cydraddoldeb i fenywod yn gyflymach.   Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i feithrin gweithle sy'n amrywiol, yn deg ac yn gynhwysol. Un lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi a'i ddathlu. Er mwyn helpu i'n gwthio ymlaen ar y daith hon mae Arweinydd y Cyngor heddiw yn cynnal digwyddiad gyda chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad.  Y thema eleni yw 'Ysbrydoli Cynhwysiant' ac mae'r grŵp yn dod at ei gilydd i drafod materion cydraddoldeb rhwng y rhywiau, sut y gall cydweithwyr gefnogi ei gilydd yn well, a sut y gall y sefydliad ein cefnogi ni i gyd yn well.

Ar ddiwedd y sesiwn heddiw, bydd Tracy Dickinson, ein Pennaeth Adnoddau Dynol, yn casglu'r holl wybodaeth a rennir yn y sesiynau gweithdy ac yn ei gyflwyno i’r UDA mewn cyfarfod yn y dyfodol. Ein bwriad wedyn yw gosod amcanion clir i'n hunain ar sut y gallwn fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y sefydliad dros y deuddeg mis nesaf. Edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl i chi gyda'r newyddion diweddaraf am hyn.

Mae'r digwyddiad a'r dathliadau heddiw yn crynhoi'r hyn sydd wedi bod yn wythnos arbennig o ysbrydoledig.  Ddydd Llun ymunais â chydweithwyr o’r UDA a'n tîm Cydraddoldeb i gymryd rhan mewn cyfarfod gofod diogel Amrywiol Iau yn ysgol Sant Cyres ym Mhenarth. Mae'r grŵp Amrywiol Iau yn cynnwys disgyblion yn yr ysgol ac yn cael ei gefnogi gan ein rhwydwaith staff Amrywiol ein hunain. Rhoddodd y sesiwn gyfle i'r rhai ohonom a oedd yn bresennol glywed o lygad y ffynnon am brofiadau pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol.

Gallaf siarad yn hyderus dros bawb yn yr ystafell wrth ddweud ein bod ni i gyd wedi dysgu llawer iawn.  Mae’r hyn a rannwyd yn y gofod diogel wrth gwrs yn cael ei ddweud mewn cyfrinachedd ond yr hyn y gallaf ei rannu yw bod y gonestrwydd a'r aeddfedrwydd sy'n cael ei arddangos gan y bobl ifanc yn anhygoel. Roedd clywed yn uniongyrchol am yr hyn y mae rhai pobl ifanc yn dod ar ei draws, a'u positifrwydd ynghylch sut y gallwn fynd i'r afael â'r anwybodaeth sy'n ei achosi yn rhoi llawer iawn i ni feddwl amdano. 

Mae'r ysgol yn gwneud gwaith ardderchog i gefnogi ei disgyblion a hoffwn ddiolch iddynt am ein gwahodd i ymweld â phawb yn Sant Cyres sy'n gweithio i gefnogi'r grŵp Amrywiol Iau, yn ogystal â'r rhai yn Dysgu a Sgiliau ac yn Adnoddau Corfforaethol a luniodd y sesiwn. Rydym yn mynychu sesiwn debyg yn Ysgol Gynradd Heol Holltwn yn ddiweddarach y mis hwn ac rwy'n awyddus i glywed beth arall y gellir ei wneud i helpu i wneud ein gwasanaethau'n fwy cynhwysol. 

Cosmeston filming

Gan gadw at thema cynhwysiant, roedd yn wych gweld ein Cyngor yn cael sylw ar Newsround yr wythnos hon am ein gwaith parhaus i sicrhau bod ein holl ardaloedd chwarae yn gwbl hygyrch i blant ag anableddau. Roedd y darn yn edrych ar ymrwymiad diweddar gan Lywodraeth y DU i wella meysydd chwarae a cafodd ei ffilmio yn yr ardal chwarae newydd ym Mharc Gwledig Cosmeston i ddangos y gwaith gwych sydd eisoes wedi'i gwblhau yn y Fro i sicrhau bod hyn yn digwydd. Diolch i'r timau Gwasanaethau Cymdogaeth sy'n cadw ein hardaloedd chwarae mewn cyflwr mor wych ac i'r tîm yn y Parc Gwledig am sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau un o fannau awyr agored gorau'r Fro.  

Nid hon oedd yr unig enghraifft o'n gwaith ar y sgrin fach yr wythnos hon chwaith.  Roedd ein prosiect Strydoedd Chwarae yn gefnlen i ddarn ar ITV Cymru nos Fawrth oedd yn edrych ar lwyddiant cynlluniau a gynlluniwyd i roi cyfle i blant chwarae yn yr awyr agored a helpu tuag at dargedau sero-net. Mae Tîm Chwarae'r Fro wedi bod yn gweithio ar y cyd â Chwarae Cymru a thrigolion lleol er mwyn gweithredu’r cynllun cau strydoedd ar gyfer chwarae tu allan mewn dau leoliad yn y Fro.

Play Streets in Barry

Mae dwy stryd ar gau i draffig am ddwy awr ar un dydd Sul y mis, fel bod plant yn gallu beicio, sgwtera, cymdeithasu a chwarae.  Mae wedi cael derbyniad gwych yn lleol - fel mae'r darn yn ei ddangos - ac yn ddiweddar bu i i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Derek Walker, ganmol hynny. Mae Strydoedd Chwarae yn arddangosiad gwych o sut y gallwn fynd i'r afael â sawl mater gydag un prosiect pan fyddwn yn gweithio'n greadigol.  Mae Joanne Jones yn ein tîm Byw'n Iach wedi bod yn allweddol yn ei lwyddiant.  Gwaith da Jo a gweddill y tîm. 

Cafodd nos Fercher ei neilltuo wrth gwrs i gyfarfod llawn y Cyngor lle pennwyd cyllideb y Cyngor a lefelau treth gyngor y Fro gan ein haelodau etholedig. Ysgrifennodd yr Arweinydd a minnau at yr holl staff ddoe i nodi beth mae hyn yn ei olygu i ni fel sefydliad. Ni fyddaf yn ailadrodd hynny yma ond hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddweud diolch i'r holl gydweithwyr a weithiodd mor galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod y cyfarfod yn mynd yn esmwyth.  

Mae ein llwyfan cyfarfodydd hybrid newydd yn gwneud democratiaeth leol yn y Fro yn fwy hygyrch nag erioed.  Mae ein cyfarfodydd yn cael eu ffrydio'n fyw, gyda chyfieithu ar y pryd, ac mae lluniau trwy Youtube ar gael i ddinasyddion eu gweld eto o fewn oriau.  Mae hyn ond yn bosibl oherwydd gwaith caled cydweithwyr yn ein Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a'n timau TGCh.  Nid yw sefydlu'r system a sicrhau ei bod yn gweithio mor effeithlon ac effeithiol â phosibl wedi bod heb heriau.   Yn y dyddiau cyn y cyfarfod, profodd y timau y platfform yn drylwyr, gan ddarparu canllawiau wedi'u diweddaru i gefnogi defnyddwyr, ac ar y noson roeddent wrth law yn y swyddfa Ddinesig ac o bell rhag ofn i unrhyw faterion godi.  Roedd y cyfarfod pennu cyllideb cyntaf gyda'r llwyfan newydd yn gam arall ar ein taith ddigidol a hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth hyn yn bosibl. Diolch i bawb am eich holl waith caled a'ch ymrwymiad i sicrhau bod y cyfarfod hybrid pwysig hwn yn gweithio'n union fel y dylai. 

Yn olaf, hoffwn orffen yr wythnos hon gyda diolch arall.  Ar ôl gwasanaethu ein trigolion am dros 20 mlynedd yn nerbynfa’r Swyddfeydd Dinesig ac fel rhan o'r tîm yn C1V, mae Siân Wingar yn ymddeol o Gyngor Bro Morgannwg ar 13 Mawrth.

Rwy'n siŵr y bydd pawb sydd wedi gweithio yn y Swyddfeydd Dinesig yn adnabod Siân. Yn ogystal â'n cyfarch ni i gyd pan fyddwn yn mynd i mewn i'r adeilad, bydd Siân hefyd wedi helpu miloedd lawer o drigolion yn ystod ei gyrfa. Mae ein tîm derbynfa yn cefnogi'r rhai sydd angen ein gwasanaethau mewn cymaint o ffyrdd. Maen nhw'n wyneb y Cyngor i gymaint o bobl ac rwy'n gwybod bod Siân bob amser wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu, ac ni chafodd ei thaflu fyth gan unrhyw un o'r ymholiadau mwy anarferol a y bu’n delio â nhw.

Mae hi wedi gwneud ffrindiau di-ri ar draws y Cyngor yn ei hamser yn y Fro ac rwy'n siŵr y bydd nifer yr ymwelwyr â’r dderbynfa Ddinesig yn cynyddu’r wythnos nesaf wrth i gydweithwyr alw draw i ddymuno ymddeoliad hapus iawn iddi. Diolch yn fawr iawn Siân am bopeth rwyt ti wedi'i wneud i'r Fro dros y blynyddoedd. Gobeithio y byddi di'n mwynhau dy bennod nesaf.

Fel bob amser, diolch am eich gwaith yr wythnos hon.  Gobeithio y cewch gyfle i ymlacio ac ailwefru’r batris dros y penwythnos. Diolch yn fawr.  

Rob.