Yr Wythnos Gyda Rob

01 Mawrth 2024

Prynhawn da pawb,

Schools celebrating St Davids Day

Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi i gyd.

Cafwyd dathliadau ar draws y Fro heddiw a hoffwn ddechrau trwy ddiolch i bawb yn ein hysgolion a’n gwasanaethau eraill sydd wedi ein helpu i nodi ein diwrnod cenedlaethol. Rwyf wedi mwynhau gweld lluniau o'n hysgolion a’n lleoliadau eraill yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Diolch yn fawr i chi i gyd.

Bythefnos yn ôl, fe wnes i rannu'r newyddion bod Paula Ham, ein Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, yn ymddeol. Heddiw, gallaf rannu'r newyddion am ymadawiad arall o’r Uwch Dîm Arwain. Ar ôl 33 o flynyddoedd gyda'r awdurdod, bydd Debbie Marles, ein Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a’n Swyddog Monitro yn gadael y Fro yn ddiweddarach eleni i ymgymryd â rôl gyda Chyngor Caerdydd.

Mae Debbie wedi gwasanaethu’r Fro yn rhagorol ac mae wedi datblygu gyrfa wych mewn gwasanaeth cyhoeddus gyda'r Cyngor. Ar ôl dechrau ei gyrfa yn y sector preifat, ymunodd Debbie â Chyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg fel cyfreithiwr newydd gymhwyso ym mis Hydref 1990. Datblygodd yn gyflym yn yr adran, trwy rolau Uwch Gyfreithiwr Cynorthwyol, Uwch Gyfreithiwr, Prif Gyfreithiwr a Phennaeth Cynorthwyol Cyfreithiol cyn dod yn Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol ym mis Mehefin 2000. Yn 2015, cymerodd Debbie gyfrifoldeb llawn am y gwasanaeth fel Swyddog Monitro a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.

Debbie Marles

Mae hi wedi rhoi cyngor amhrisiadwy i mi a llawer o bobl eraill ar faterion cyfreithiol a llywodraethu dros y blynyddoedd. Wrth gymryd cyfrifoldeb am lawer o swyddogaethau statudol megis Swyddog Monitro, Prif Swyddog Cyfreithiol, a Swyddog Priodol, mae wedi sicrhau nad yw ein sefydliad byth yn ddiffygiol o ran ei ddyletswyddau cyfreithiol.

Gwaith Debbie a alluogodd y cyngor i ennill achrediad Sicrwydd Ansawdd Cymdeithas y Gyfraith (Lexcel) yn ôl yn 2005 ac mae wedi bod yn ffigwr canolog yn cadw ein hachrediad ar y safon aur ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol byth ers hynny.

Hi hefyd oedd Swyddog Canlyniadau'r Fro am dros 7 mlynedd ac yn 2021 gofynnodd Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion iddi ymgymryd â rolau'r Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer Etholiadau'r Senedd a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Fel aelod o’r UDA, mae gwaith Debbie yn ymestyn y tu hwnt i'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ac mae wedi chwarae rhan fawr yn datblygu llawer o'r prosiectau mawr sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau preswylwyr, gan gynnwys ein rhaglenni adeiladu tai, adfywio ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Bydd yn anodd iawn dilyn Debbie a bydd colled fawr ar ei hôl. Rwy'n dymuno'r gorau iddi ym mhennod nesaf ei gyrfa gyda Chyngor Caerdydd.

Am y tro, fodd bynnag, mae Debbie yn dal i fod yn aelod o Dîm y Fro ac yn ei rôl fel Swyddog Monitro, wythnos nesaf bydd yn rhoi cyngor cyfreithiol a llywodraethu i gyfarfod y Cyngor Llawn nos Fercher, pan fydd rownd derfynol cynigion cyllideb 2024/25 yn cael eu trafod, gyda’r cynghorwyr yn pleidleisio arnynt. Cytunodd y Cabinet ar y cynigion ddoe.

Families First Networking Event poster CY

Mae'r Arweinydd a minnau yn cynllunio neges ar y cyd i'r holl staff ar gyfer yr wythnos nesaf unwaith bydd cyllideb wedi'i chytuno'n ffurfiol. Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch unwaith eto i'r holl gydweithwyr hynny sydd wedi chwarae rhan yn llunio'r gyllideb fwyaf heriol o dipyn yr wyf wedi'i goruchwylio yn ystod fy nghyfnod fel Prif Weithredwr. Diolch. 

Wrth edrych ymlaen at 2024/25 gyda ffocws ychydig yn wahanol, hoffwn dynnu sylw cydweithwyr at y Cynllun prynu gwyliau blynyddol sy'n cau ar gyfer ceisiadau ddydd Llun. Mae'r cynllun yn gyfle i chi brynu wythnos neu ddwy o wyliau blynyddol ychwanegol. Dyma un o fanteision gweithio hyblyg sydd wedi'i gynllunio i'w gwneud hi'n haws i gydweithwyr gael y cydbwysedd bywyd gwaith hollbwysig hwnnw.

Dyddiad arall yn y dyddiadur ar gyfer yr wythnos nesaf yw dydd Iau 07 Mawrth pan fydd tîm Teuluoedd yn Gyntaf y Cyngor yn cynnal digwyddiad rhwydweithio ym Memo y Barri rhwng 10am a 2pm. Mae'r digwyddiad wedi'i anelu at gydweithwyr a phartneriaid sy'n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a phlant. Bydd gweithwyr proffesiynol o'n timau Gwasanaethau Cymdeithasol a Dysgu a Sgiliau yn bresennol ynghyd â nifer o sefydliadau'r trydydd sector.

Gall deall mwy am y gwasanaethau y mae'r Cyngor a'n partneriaid yn eu darparu ein helpu ni i gyd i fod yn fwy effeithiol yn ein rolau a dylai'r digwyddiad fod yn gyfle i unrhyw un ddysgu am y cymorth sydd ar gael i deuluoedd yn y Fro a sut i gyfeirio preswylwyr tuag ato.

Dave Williams memorial tree

Ar nodyn mwy lleddf, yn gynharach yr wythnos hon, cefais y fraint o allu ymuno â chydweithwyr o'n Cyfarwyddiaeth Lle i blannu coeden ym Mharc Sirol Porthceri er cof am Dave Williams, y soniais amdano fis diwethaf. Roedd yn foment deimladwy i lawer o gyn-gydweithwyr Dave, gan gynnwys fi, ac roedd yn gyfle i bob un ohonom a oedd wedi gweithio'n agos gydag ef i fyfyrio. Hoffwn dalu teyrnged arbennig i Eleri a Natasha o'r tîm Adfywio a arweiniodd y digwyddiad.  Diolch yn fawr i chi eich dwy.  Fel rhywun sydd â chefndir mewn Cynllunio ac Adfywio, gwn yn rhy dda yr effaith gafodd Dave drwy ei waith fel rhan o'r tîm Adfywio.  Roedd yn weithiwr proffesiynol arbennig, yn cynhyrchu gwaith o safon eithriadol o uchel a gellir gweld llawer o'i waith yn y rhaglenni a’r prosiectau adfywio niferus yn y Barri a'r cyffiniau.  Yn fras, mae'n gadael etifeddiaeth barhaol yn y dref ac i'r rhai a weithiodd yn agos gydag ef. 

 

Day of reflection 2024 CYMewn ysbryd tebyg, ddydd Sul byddwn yn goleuo'r lloches yn Ynys y Barri a thwnnel Hood Road yn felyn i nodi Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod Marie Curie. Dyma'r pedwerydd Diwrnod o Fyfyrdod i gofio pawb fu farw yn ystod pandemig Covid-19. Mae'r trefnwyr yn annog pawb i gymryd rhan mewn munud o dawelwch, rhannu enw’r person y maent yn ei gofio ar y diwrnod, a chynllunio digwyddiad neu weithgaredd o fyfyrdod.

Mae'r pandemig bellach yn teimlo fel amser maith yn ôl ond mae'n amser y byddwn i gyd yn ei gofio, ac i mi, yn anad dim, oherwydd y gwaith rhyfeddol wnaeth y sefydliad hwn i gadw pobl yn ddiogel a gwasanaethau i redeg.

Yn 2020 a 2021, fe wnaethon ni ddysgu cymaint am yr hyn yr oeddem yn gallu ei wneud gyda'n gilydd. Fe wnaeth ein gwasanaethau i gyd addasu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i anghenion newidiol ein cymunedau ac mewn cymaint o ffyrdd, mae hyn wedi llywio ein trawsnewidiad fel Cyngor yn y blynyddoedd ers hynny. Byddaf yn sicr yn dod o hyd i amser i fyfyrio ar hyn.

Diolch fel arfer am eich ymdrechion yr wythnos hon.  Diolch yn fawr iawn.  

Rob.