Staffnet+ >
Neges gan yr Arweinydd ar Prif Weithredwr am y gyllideb

Neges gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr am y gyllideb
Annwyl gydweithwyr,
Roeddem am roi’r diweddaraf i chi am gam olaf y broses o bennu’r gyllideb, a gynhaliwyd neithiwr.
Pleidleiswyd o blaid cynigion y gyllideb mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn a byddant yn dod i rym o ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd ar 1 Ebrill.
Mae hynny'n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, ystyriaeth gan bwyllgorau craffu a gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys undebau llafur.
Rydym wedi cyrraedd y cam hwn ar ôl misoedd o waith caled gan gydweithwyr ar draws y sefydliad. Fodd bynnag, hoffem sôn yn benodol am Matt Bowmer, Gemma Jones a’r timau Cyllid ac Arweinyddiaeth Strategol. Ymroddiad y cydweithwyr hyn sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y cam hwn ac mae'r ymdrechion hynny’n cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
Fel y gwyddoch o ddiweddariadau blaenorol, rydym wedi wynebu her ariannol ddigynsail i gydbwyso'r gyllideb hon.
Yn syml, mae costau'n cynyddu ar gyfradd llawer cyflymach na chyllid sy'n ei gwneud yn amhosibl parhau fel yr ydym ni.
Mae hyn yn rhannol oherwydd prisiau ynni, chwyddiant a chyfraddau llog cynyddol.
Ar ben hyn, mae angen gwasanaethau Cyngor hanfodol ar nifer cynyddol o bobl gan fod gan y Fro boblogaeth sy'n heneiddio a bod nifer y Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynyddu.
Mae hyn i gyd yn golygu bod y Cyngor yn gorfod rheoli toriad sylweddol o gyllid 'termau real'.
Byddwn yn derbyn ychydig o dan £209 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ffigur sy'n cyfrif am hanner ein hincwm. Bydd y gweddill yn dod o’r dreth gyngor, taliadau am wasanaethau a chyfran o ardrethi busnes o bob rhan o Gymru.
O'r cychwyn cyntaf, mae gofalu am yr aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau - sef plant, yr henoed a'r rhai ag anghenion ychwanegol - wedi bod yn flaenoriaeth lwyr.
Wrth gofio hynny, rydym wrth ein boddau y bu cynnydd mewn cyllid ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Dysgu a Sgiliau, er gwaethaf y rhwystrau.
Bydd cynnydd o 13 y cant ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a chynnydd o 5% mewn Addysg.
Fodd bynnag, rhaid i'r arian hwnnw ddod o feysydd eraill ac, ar ôl iddo gael ei ddidynnu, dim ond 25 y cant o'r gyllideb sydd ar ôl ar gyfer yr holl ddarpariaeth arall.
Ar y cyfan, roedd y Cyngor yn wynebu pwysau ariannol gwerth cyfanswm o £38 miliwn ac, yn dilyn camau torri costau cychwynnol, mae angen gwerth £7.7 miliwn o arbedion i ddod â gwariant yn unol ag incwm.
Byddant yn cael eu cyflawni trwy godi tâl am rai gwasanaethau, cynnydd o 6.7 y cant yn y dreth gyngor, llai o wariant mewn meysydd penodol a ffyrdd blaengar a chreadigol o greu incwm.
Bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yn sylweddol is na’r hyn sy’n cael ei gyflwyno gan lawer o Awdurdodau Lleol eraill Cymru a bydd yn golygu bod trigolion y Fro yn parhau i dalu llai na'r cyfartaledd sy'n cael ei godi yng Nghymru.
Nid oes modd gwadu bod hyn yn sefyllfa anodd gan nad oes arian i gynnal yr holl wasanaethau ar y lefelau presennol.
Rwy'n gwybod o brofiad yn union faint y gall y grŵp hwn o staff ei gyflawni mewn amgylchiadau heriol ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd cydweithwyr yn ymateb i'r her.
Er y bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac annymunol, mae cyfle hefyd i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu ein gwasanaethau a gwasanaethu ein trigolion yn well.
Mae'r dull trawsnewidiol hwn yn faes lle mae gan y sefydliad hwn hanes llwyddiant profedig.
Rydym yn gwbl hyderus y bydd hynny’n parhau wrth i ni ymdrechu i roi'r Cyngor mewn sefyllfa gryfach nag erioed o'r blaen.
Diolch yn fawr iawn
Lis a Rob.