Staffnet+ >
Newidiadau i ailgylchu yn y gweithle
Newidiadau i ailgylchu yn y gweithle
O 6 Ebrill 2024, bydd yn rhaid i bob gweithle yng Nghymru wahanu eu gwastraff i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o gartrefi’n ei wneud nawr.
Er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd, o 05 Ebrill bydd gan holl swyddfeydd y Cyngor gynwysyddion ailgylchu ar wahân.
Bydd gofyn i staff ddidoli eu gwastraff ailgylchadwy yn ôl:
Ailgylchwch lle bo’n bisibl
Mae cyfraddau ailgylchu yng Nghymru ymhlith y gorau yn y byd, ac mae’r Fro yn un o'r Awdurdodau Lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru.
Rydym yn awyddus i adeiladu ar lwyddiant y broses o gyflwyno ailgylchu ar wahân i gartrefi a lleihau gwastraff cyffredinol yn ein swyddfeydd gymaint â phosibl.
Ychydig iawn o eitemau na allwn eu hailgylchu dan y system newydd, plastigau meddal a phecynnau brechdanau wedi'u gorchuddio â phlastig yw dau ohonynt. Os nad ydych chi’n siŵr a ellir ailgylchu eitem ai peidio, neu pa gynhwysydd y dylid ei rhoi ynddo, gallwch gyfeirio at ein canllawiau A-Y ar-lein.
Mae rhai eitemau a ddefnyddir yn gyffredin o amgylch y swyddfa yn cynnwys:
-
Papur gwyn (nad yw’n gyfrinachol) – paper container
-
Cylchgronau a thaflenni gwybodaeth – paper container
-
Ffoil – metals, plastics and cartons container
-
Caniau diod – metals, plastics and cartons container
-
Cartonau a photeli plastig – metals, plastics and cartons container
-
Papur brown a chardfwrdd – brown paper and cardboard container
-
Bwyd dros ben / Pilion bwyd – cadi gwyrdd
-
Bagiau te a gwaddodion coffi - cadi gwyrdd
-
Pecynnau creision - Mae gan rai adeiladau finiau ailgylchu pecynnau creision pwrpasol. (Os nad oes biniau o’r fath yn eich adeilad chi, gallwch eu rhoi yn y gwastraff cyffredinol.)
Golchwch yr holl becynnau bwyd a diod cyn eu hailgylchu.