Mae'n Wythnos y Lluoedd Arfog
Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos eich cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog: milwyr sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr, wrth gefn, cadetiaid a theuluoedd gwasanaeth.
Gwahoddir staff i fynychu gwasanaeth byr y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig ddydd Gwener 28 Mehefin, 10.30am i ddangos cefnogaeth.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog ac mae ein Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr yn cynnig amrywiaeth o gymorth i gymuned y Fro.
Yn y cyfnod cyn Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 29 Mehefin mae Baner y Lluoedd Arfog yn hedfan y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig ac mae twnnel Heol Hood wedi'i oleuo'n goch, gwyn a glas.