Staffnet+ >
Global Inclusion Week: Nicole Duddridge on the fight to tackle discrimination
Wythnos Cynhwysiant Byd-eang: Nicole Duddridge am y frwydr i fynd i'r afael â gwahaniaethu
13 Mehefin 2024
Mae Nicole Duddridge yn cofio’n glir un digwyddiad yn fuan ar ôl iddi ymuno â'r Cyngor yn 2003 a wnaeth ei gadael yn teimlo'n ynysig ac yn agored i niwed.
O dras gymysg, cafodd Nicole ei geni a'i magu yn y Barri gan ei mam a'i llystad a oedd yn Gymry gwyn, ond mae ei thad biolegol yn ddu ac o Sierra Leone.
"Pan ddechreuais yma gyntaf, prin roedd nifer y bobl o'r mwyafrif byd-eang," mae’n cofio. "Weithiau roedd pethau'n cael eu dweud mewn amgylchedd swyddfa oedd yn sarhaus, ond gan fy mod yn y lleiafrif, doeddwn i ddim yn teimlo'n ddigon hyderus i geryddu neb am eu hymddygiad gwael, yn enwedig os oedd pawb arall yn chwerthin. Roeddwn i'n teimlo mai ychydig iawn o gynghreiriaid oedd gen i.
"Un tro, roedd rhywun wedi mynd ar gyfnod mamolaeth ac wedi gwneud y peth arferol lle mae’n dod i mewn gyda'i babi. Roedd y babi yma wedi cymryd ata i am ryw reswm ac, fel roeddwn i'n ei dal hi, dywedodd rhywun ei fod oherwydd ei bod hi'n meddwl bod bysedd Nicole wedi'u gwneud o siocled.
"Chwarddodd pawb ac roeddwn i'n teimlo mor ofnadwy, ond roeddwn i'n teimlo na allwn ddweud unrhyw beth neu bydden nhw’n fy nghyhuddo o ddal dig.
"Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw'n hiliol, dim ond yn anwybodus ac yn annysgedig. Roedd yn teimlo ei fod yn dderbyniol, ond nawr rwy'n gwybod na fyddwn yn derbyn yr ymddygiad hwnnw a byddwn yn bendant yn tynnu sylw’r person ato.
"Doedd gen i ddim hyder bryd hynny. Roeddwn i'n Gynorthwy-ydd Clerigol ac roedd y rhan fwyaf o bobl eraill yn uwch na mi, felly roedd anghydbwysedd pŵer llwyr."
Ar ôl gorffen yn y brifysgol a threulio cyfnod byr fel cynrychiolydd cyrchfan ym Mallorca, cafodd Nicole swydd gyda'r Cyngor ac mae wedi bod yma byth ers hynny.
Treuliodd ddeng mlynedd fel Swyddog Cymorth Myfyrwyr a degawd arall gyda'r Tîm Cefnogi Busnes mewn Dysgu a Sgiliau cyn ymgymryd â'i rôl bresennol fel Rheolwr Busnes yn Ysgol Gynradd Heol Holltwn.
Byddai'n anghywir awgrymu bod achosion fel yr un a ddisgrifir gan Nicole yn gyffredin 20 mlynedd yn ôl, ond mae'r ffaith y gellid gwneud sylw o'r fath o gwbl yn un o weithleoedd y Cyngor yn dal i fod yn gywilyddus.
Mae'n amlwg bod camau sylweddol wedi'u cymryd i godi ymwybyddiaeth am hiliaeth a'i heffaith ers dechrau'r 2000au, o fewn y sefydliad hwn a'r gymdeithas ehangach.
Ond wrth i'r Cyngor nodi Wythnos Cynhwysiant Byd-eang, mae'n bwysig cofio bod cynnydd pellach i'w wneud o hyd.
"Mor ddiweddar â 2017, fe geisiodd rhywun gyffwrdd fy ngwallt dro ar ôl tro oherwydd fy mod wedi’i ddadorchuddio ac roedd yn gyrliog," meddai Nicole.
"Bu ambell sefyllfa lle dwi wedi gorfod dweud rhywbeth, ond yr hynaf rydych chi'n mynd, y mwyaf hyderus yr ydych chi fel eich bod yn gallu gofalu amdanoch eich hun.
"Rhaid i mi ddweud bod dechrau'r Rhwydwaith Amrywiol yn rymusol ynddi’i hun oherwydd eich bod chi'n gwybod bod ‘na bobl oedd yn meddwl fel chi ac a oedd yn gynghreiriaid. Roedd rhai wedi cael yr un fath o brofiadau.
"Mae 'na gymaint o ddiffyg athrawon o’r mwyafrif byd-eang yn ysgolion y Fro - mae’r niferoedd mor fach.
"Rhaid i ni edrych ar sut rydym yn newid hyn. Ydyn ni'n gweithio gyda phrifysgolion i gael pobl o grwpiau â nodweddion gwarchodedig i ddod i dreulio'r diwrnod yn ein hysgol i weld sut mae hi?
"Beth gallwn ni ei wneud yn well i ddenu mwy o aelodau o'r mwyafrif byd-eang?"
Wedi'i ffurfio yn 2020, mae'r Rhwydwaith Amrywiol yn grŵp yn y Cyngor sy'n hyrwyddo achos pobl o bob cefndir ethnig.
Ei nod yw hyrwyddo gweithle cynhwysol, gan ddathlu treftadaeth amrywiol staff a'r rhai sy'n byw yn ein cymunedau.
Ac yntau’n agored i bawb, mae’n ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb ac yn cynnig amgylchedd cymdeithasol a chefnogol i'r aelodau.
"Roeddwn i wedi gweld rhywbeth bod gan Gyngor Caerdydd Rwydwaith Amrywiol ac roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n hen bryd i ni sefydlu un hefyd," meddai Nicole.
"Dywedais, beth sy'n digwydd os ydych chi wedi mynd trwy brofiad lle mae rhywun wedi dweud rhywbeth hiliol? Dydych chi ddim eisiau ei godi fel cwyn, ond rydych chi am i rywun gael gair gyda’r person hwnnw a delio â'r sefyllfa. Mae angen rhyw fath o hyfforddiant ond doedd dim byd ar gael mewn gwirionedd. Doedd unman i'r person hwnnw gael ei gyfeirio.
"Gwelsom lwyddiant y Rhwydwaith Glam (i gydweithwyr a chynghreiriaid LHDTC+), felly fe benderfynon ni ddechrau'r grŵp hwn.
"Oherwydd ein bod yn gymaint o gymysgedd o bobl sy'n gweithio mewn gwahanol adrannau ac ar wahanol lefelau, mae rhywun wastad ar gael i roi cyngor mewn maes penodol, boed hynny'n AD neu’n unrhyw beth arall.
"Mae gennych chi bobl sy'n gallu cydymdeimlo a dweud bod yr un peth wedi digwydd i mi ac mae gennych chi arweiniad proffesiynol hefyd.
"Mae cael sylw yn ffactor hefyd - cael eich gweld. Mae pobl yn tanbrisio hynny.
"Rwy'n cofio fel plentyn nad oeddwn yn gallu dod o hyd i ddol Barbie hil gymysg, ac yna fe wnes i ddod o hyd i un yn fy ugeiniau a’i phrynu oherwydd nad oedd gen i erioed un a oedd yn edrych fel fi.
"Mae cwrdd â phobl eraill sydd yr un fath â chi yn grymuso."
Mae'r Rhwydwaith Amrywiol yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ac yn ddiweddar derbyniodd wobr arloesi efydd gan Race Equality Matters i gydnabod ymdrechion i hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle.
Mae'n trafod materion sy'n ymwneud â hil a chydraddoldeb a chysylltiadau ag Uwch Dîm Arwain y Cyngor i nodi sut y gellir gwella ymdrechion i frwydro yn erbyn hiliaeth.
"Eglurwyd yn y cyfarfod hwnnw, os yw'n orfodol i staff wneud hyfforddiant asbestos a hyfforddiant diogelwch tân, y dylai fod yn orfodol gwneud hyfforddiant gwrth-hiliaeth. Mae hynny'n cael ei weithredu nawr," esboniodd Nicole.
"Bob mis, rydyn ni'n trafod pwnc penodol. Weithiau mae gofyn i ni edrych ar bolisi a'r mis nesaf y duedd yw i ni wylio neu ddarllen rhywbeth a siarad amdano.
"Rhaid i mi ddweud, mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Y cyfan sydd ei angen arnom yw denu mwy o aelodau.
"Rydym am dargedu staff mewn ysgolion a staff nad oes ganddynt fynediad i'r Swyddfeydd Dinesig gan y gallant fynd ar goll yn aml.
"Rydym yn meddwl am ffyrdd o wneud hynny, megis bore coffi, ac rydym wedi gofyn i’r UDA esbonio wrth reolwyr y dylai pobl gael yr amser hwnnw i fynychu.
"Efallai na fydd rheolwyr bob amser yn teimlo y dylai pobl gael awr i ffwrdd ar gyfer cyfarfod fel hyn, ond mae hyn yn rhan o ddatblygiad proffesiynol."
“Managers may not always feel people should have an hour off for a meeting like this, but this is part of professional development.”
Ers dechrau ei rôl yn Ysgol Gynradd Holton, mae Nicole hefyd wedi sefydlu Rhwydwaith Amrywiol yno.
Mae hynny'n cynrychioli ystod eang o genhedloedd disgyblion, gyda thua 18 iaith yn cael eu siarad gan blant gartref.
Yn ddiweddar, helpodd Nicole i drefnu dathliad o Ddiwrnod Windrush yn yr ysgol, sy'n nodi'r cyfraniad y mae ymfudwyr, yn benodol y rhai o Affrica a'r Caribî, wedi'i wneud i Brydain.
Roedd hynny'n cynnwys llunio portreadau o staff ysgolion â chefndiroedd amrywiol a’i harweiniodd i fynd i barti gardd brenhinol i gydnabod yr ymdrechion hynny.
Mae enghreifftiau fel hyn yn dangos y gwaith sy'n digwydd i chwalu rhwystrau a hyrwyddo cynhwysiant.
Mae'r Fro bellach yn Sir Noddfa, gyda nifer o ysgolion hefyd â statws noddfa, gan adlewyrchu agwedd groesawgar at y rhai sydd wedi cael eu dadleoli’n orfodol o'u gwledydd.
Mae Martine Booker-Southard, Rheolwr Grwpiau Agored i Niwed y Cyngor, hefyd yn gweithio i ddadwladychu cwricwlwm yr ysgol, gan helpu i sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu o safbwynt mwy cytbwys.
Eto, er gwaethaf yr arwyddion cadarnhaol hyn, mae llawer i'w wneud o hyd.
"Rydym yn mynd ati i fod yn ysgol wrth-hiliol yn Holton,” meddai Nicole. "Mae bod yn yr amgylchedd hwn yn eithaf dyrchafol.
"Mae pethau wedi gwella ond dydyn ni ddim lle mae angen i ni fod.
"Rwy'n poeni weithiau nad oes digon o feddwl yn cael ei wneud o ran sut y gallwn recriwtio mwy o aelodau o'r mwyafrif byd-eang, yn enwedig i'r prif rolau.
"Gallem hefyd gynnig prentisiaethau i bobl â nodweddion gwarchodedig. Gallen ni wneud mwy.
"Byddai gan berson o'r mwyafrif byd-eang a ddechreuodd weithio i'r Cyngor yn 2024 brofiad hollol wahanol i'r un a gefais innau yn 2003.
"Ond mae fy merch yn 14 oed. Pe bai hi'n cael swydd yn y Cyngor yn y dyfodol, byddwn i eisiau i’r sefyllfa fod yn well nag ydyw ar hyn o bryd.
"Byddwn i eisiau wwahaniaethau pobl gael eu cydnabod a'u dathlu.
"Y nod terfynol yw i’r Cyngor fod yn llawn cynghreiriaid gwrth-hiliol sy'n deall ac yn cefnogi ei gilydd."
Mae Wythnos Cynhwysiant Byd-eang yn ddigwyddiad pum niwrnod sy'n rhedeg tan ddydd Gwener, 14 Mehefin, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant mewn cyd-destun byd-eang.
Wedi'i threfnu gan Inclusive Employers, y thema eleni yw Deallusrwydd Ddiwylliannol: Cynhwysiant ar draws Diwylliannau.
Gall unrhyw un sy'n gweithio i'r Cyngor ymuno â’r Rhwydwaith Amrywiol beth bynnag y bo'i gefndir ethnig a diwylliannol. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Staffnet.