Cwblhewch yr Arolwg Teithio Staff

Bob blwyddyn, ynghyd â holl gyrff Sector Cyhoeddus Cymru, mae'n rhaid inni roi gwybod am ein hallyriadau carbon i Lywodraeth Cymru.

Mae sut mae staff yn teithio i'r gwaith ac o'r gwaith wedi'i gynnwys yn ein hôl troed carbon sefydliadol.

Mae'r adroddiad yn ein helpu ni a Llywodraeth Cymru i olrhain ein cynnydd tuag at y nod o gyrraedd sero net erbyn 2030.

Wrth i ni barhau i gefnogi teithio llesol a hyrwyddo'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, bydd yr arolwg hwn hefyd yn ein helpu i ddeall arferion cymudo staff presennol a lle y gallai fod angen mwy o gefnogaeth i ddatgarboneiddio sut rydym yn cymudo.

Cymerwch 5 munud i ddweud wrthym am sut y gwnaethoch chi deithio i'r gwaith ac o'r gwaith rhwng Ebrill 2023 ac Ebrill 2024:

Cwblhewch yr arolwg byr

Cynllun Teithio Cyngor Bro Morgannwg

Nod Cynllun Teithio y Cyngor yw cynorthwyo staff i ddewis dulliau teithio cynaliadwy ar gyfer eu taith i'r gwaith.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud i ostwng ei ôl troed carbon ar Hyb Prosiect Zero.Staff Travel Survey