Mis Treftadaeth De Asia 2024

Beth yw Mis Treftadaeth De Asia?

south asian heritage month 2023Cynhelir Mis Treftadaeth De Asia o 18 Gorffennaf i 17 Awst, gan orffen ar ben-blwydd y Rhaniad.

Mae Mis Treftadaeth De Asia yn codi proffil treftadaeth a hanes De Asiaidd Prydeinig yn y Deyrnas Gyfunol drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant a choffáu, gyda'r nod o helpu pobl i ddeall amrywiaeth gwledydd Prydain heddiw yn well.

Mae'r mis hwn yn gyfle i ddathlu effaith a chyfraniadau diwylliannau De Asia a choffáu hanes De Asia yma.

Beth a olygwn wrth De Asia?

De Asia yw rhanbarth deheuol Asia, sy'n cynnwys Afghanistan, Bangladesh, Bhutan, India, Ynysoedd y Maldives, Nepal, Pacistan, a Sri Lanka. Mae eu perthynas â Phrydain wedi effeithio ar y gwledydd hyn i gyd - rhyfel, gwladychiad, ymerodraeth.  Mae gan Brydain gymuned helaeth o ddinasyddion y mae eu treftadaeth yn deillio o'r gwledydd hyn - tua 5% o'r boblogaeth gyfan, gyda bron i 1 o bob 5 o bobl yn Llundain o dreftadaeth De Asia. 

Y thema eleni yw RHYDD I FOD YN FI sy’n ceisio dathlu’r ffyrdd unigol ac amrywiol y mae pobl yn anrhydeddu eu gwreiddiau a’u hamrywiaeth.

Rhannwch straeon y Fro!

Os ydych chi’n uniaethu fel rhywun o Dde Asia ac eisiau rhannu’r hyn y mae #RhyddiFodYnFi yn ei olygu i chi gyda’ch cydweithwyr, cysylltwch â ni a  byddem yn falch iawn o ddathlu Mis Treftadaeth De Asia trwy rannu eich stori.

Ewch i’r gwefannau canlynol i gael rhagor o wybodaeth:

Mis Treftadaeth De Asia

Cyflogwyr Cynhwysol

Diverse-Staff-NetworkEfallai yr hoffech hefyd ymuno â Diverse, ein rhwydwaith staff ar gyfer cydweithwyr du, Asiaidd a’r mwyafrif byd-eang.

I ymuno, cwblhewch y ffurflen aelodaeth neu e-bostiwch diverse@valeofglamorgan.gov.uk

Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel, pleserus a chynhwysol i bobl weithio ynddo ac i sicrhau bod ardal Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar. 

Os ydych yn pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion Cyngor Bro Morgannwg.