Staffnet+ >
Family Information Service Launches Summer 2024 Activity Programme
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn Lansio Rhaglen Gweithgareddau Haf 2024
O sesiynau galw heibio am ddim i wersylloedd chwaraeon wythnos o hyd, mae llawer o weithgareddau i deuluoedd a phlant gymryd rhan ynddynt yr haf hwn.
Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled y Fro, mae’r tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi llunio calendr o ddigwyddiadau sy'n addas ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ochr yn ochr â nifer o weithgareddau teuluol.
Bydd Rhaglen Gweithgareddau Haf 2024 yn cychwyn ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf a bydd yn rhedeg trwy gydol yr haf tan 01 Medi.
Fel y soniwyd, mae amrywiaeth o weithgareddau am ddim ac â thâl i gymryd rhan ynddynt.
Bydd Llyfrgelloedd y Fro yn cynnal nifer o ddigwyddiadau adrodd straeon a chrefft am ddim neu am bris rhesymol bob dydd yn ystod yr haf.
Mae yna hefyd nifer o wersylloedd chwaraeon wythnos o hyd fel tennis a nofio yn ogystal â sesiynau pêl-droed am ddim ar ddydd Gwener, dosbarthiadau dawns, a sesiynau blasu chwaraeon dŵr y gall plant a phobl ifanc ymuno â nhw.
Bydd y rhaglen yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda gweithgareddau newydd, cyffrous, felly cofiwch edrych.
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) i gael gwybodaeth am ofal plant, cymorth gyda chostau gofal plant (gan gynnwys y Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant 3 i 4 oed), gweithgareddau a gwasanaethau i blant a phobl ifanc (gan gynnwys y Mynegai ar gyfer plant ag anableddau neu anghenion ychwanegol):
Ffoniwch 01446 704704
fis@valeofglamorgan.gov.uk
www.valeofglamorgan.gov.uk/GGD
www.facebook.com/VOGFIS