Graddedigion Cymraeg Gwaith yn Dathlu Cyflwyniad yn Swyddfa’r Arweinydd

Cyflwynwyd tystysgrifau cyflawniad i'r cyfranogwyr a gwblhaodd gyrsiau Cymraeg Gwaith gan Lis Burnett, arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Rob Thomas, y Prif Weithredwr.

Mae cyrsiau Cymraeg ar gael am ddim i staff y Cyngor ac fe'u trefnir gyda Sarian Thomas-Jones, cydlynydd Cymraeg Gwaith a thiwtor Cymraeg.

Trafododd y grŵp yr hyn yr oeddent wedi'i ddysgu gyda'i gilydd a sut y gallant ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd proffesiynol a phersonol.

Dywedodd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae dysgu sut i siarad Cymraeg yn sgil gydol oes ac yn rhoi mwy o gyfleoedd gwaith i gyfranogwyr.

"Mae’r iaith hefyd yn eich galluogi i werthfawrogi diwylliant a threftadaeth Cymru a byddem yn annog pawb i'w dysgu lle bo'n bosibl."

Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru, ni fydd yn rhaid i chi ddefnyddio gwyliau blynyddol na'ch amser eich hun i fynychu'r cyrsiau ond gwiriwch gyda'ch rheolwr ymlaen llaw.

Mae pedwar dosbarth Lefel Mynediad ar wahân ar gael. Dim ond un fydd angen i chi gofrestru ar ei gyfer. Bydd eich dosbarth ar y diwrnod a’r amser hwnnw drwy gydol y cwrs.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sarian Thomas-Jones neu’r Swyddog Cydraddoldeb a'r Gymraeg Elyn Hannah.