Tim CMAC Cyngor Bro Morgannwg yn cyrraedd Rownd Derfynol Hacathon Mor 2023

Mae gwyddonwyr proses arfordirol o CMAC (Canolfan Monitro Arfordirol Cymru), sy’n sefydliad a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gynhelir gan Gyngor Bro Morgannwg, wedi cyrraedd rownd derfynol fawreddog yr Hacathon Môr a gynhaliwyd yn Brest, Ffrainc, ar ôl ennill cymal Prifysgol Plymouth o'r gystadleuaeth.

Dros benwythnos heriol, bu timau o bob cwr o'r byd yn cydweithio i ddatblygu atebion arloesol i heriau pwysig y cefnforoedd.

Ceisiodd y tîm ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ddadansoddi lluniau traeth a mesur newid gwaddod wrth gysylltu newidiadau i weithgarwch meteorolegol 

Ocean Hackathon Finalists

Cynhaliwyd y Rownd Derfynol Ryngwladol ar 19 Ragfyr 2023, yn yr Atelier des Capucins yn Brest, lle buont yn cystadlu yn erbyn 13 tîm arall, pob un yn cystadlu am gydnabyddiaeth ac un o'r tair gwobr fawreddog a gynigiwyd gan Lysgenhadon Hacathon Môr 2023.

Mae CMAC yn gyfrifol am reoli’r gwaith o gasglu a dosbarthu data monitro arfordirol strategol ar gyfer Cymru gyfan ac fe'i harweinir gan gonsortiwm a ffurfiwyd o Gyngor Bro Morgannwg, Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a CLlLC. 

Mae rheolwr y rhaglen, Gwyn Nelson, wedi llwyddo i ddatblygu tîm bach ond sy'n perfformio'n dda, gan hyrwyddo arloesedd yn ogystal â gwelliannau cyson yng ngwaith beunyddiol y tîm.  Mae cydweithrediad diweddar gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, dan arweiniad Ben Ranson (Gwyddonydd Proses Arfordirol) hefyd wedi arwain at ddatblygu offer newydd ar y we yn gyflym i helpu i ddadansoddi data proffil traethau, sydd nid yn unig o fudd i ddefnyddwyr yng Nghymru ond hefyd yn arwain y ffordd ymhlith y rhwydwaith ehangach o ganolfannau monitro arfordirol rhanbarthol yn y DU. 

Mae CMAC hefyd yn cynorthwyo awdurdodau rheoli risg arfordirol ledled Cymru i gaffael arolygon arbenigol y tu allan i'r rhaglen fonitro strategol, gan gynnwys yr enghraifft ddiweddaraf sef yr arolwg LiDAR sy'n seiliedig ar ddronau o'r clogwyni o amgylch Penarth sy’n darparu delweddau Point Cloud lliw â dros 261 miliwn o bwyntiau data. Bydd tîm llifogydd ac amddiffyn yr arfordir mewnol y Cyngor yn defnyddio’r rhaglen i fonitro a rheoli'r arfordir hwn sy'n newid yn gyson.

Byddem wrth ein bodd yn casglu cymaint o ddelweddau newydd trwy CoastSnap os oes unrhyw un yn ymweld ag Ynys y Barri, Promenâd Penarth neu'n teithio ymhellach i ffwrdd.