Yr Wythnos Gyda Rob

19 Ionawr 2024

Annwyl gydweithwyr,  

Dechreuodd yr wythnos hon gyda chyhoeddiad yr ydym wedi bod yn ei ddisgwyl ers peth amser; y bydd ein gwasanaethau ieuenctid ac addysg yn cael arolwg ffurfiol gan Estyn, yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, dros y ddau fis nesaf. 

Mae hyn ymhell o fod yn ddigwyddiad pob dydd - cafodd y cyngor ei arolygu ddiwethaf yn 2013 - ond mae arolygiadau fel hyn yn rhai arferol ac mae nifer o'n cydweithwyr wedi treulio'r misoedd diwethaf yn paratoi ar gyfer y cyhoeddiad.   

Cyn yr arolygiadau, mae Estyn yn arolygu staff lleol, dysgwyr, pobl ifanc, rhieni a thrigolion lleol eraill sydd â buddiant yn y gwasanaeth ieuenctid a’r gwasanaethau addysg. Efallai y gofynnir i rai staff hefyd gwrdd â'r arolygwyr neu ddarparu gwybodaeth iddynt.   Gallai hyn gynnwys cydweithwyr o rannau eraill o'r sefydliad yn ogystal â Dysgu a Sgiliau.  Bydd dau uwch-swyddog yn ein tîm Dysgu a Sgiliau, Trevor Baker a Martin Dacey, yn gweithredu fel y cyswllt rhwng y cyngor ac Estyn. Byddant yn cydlynu ein gwaith gyda'r arolygwyr ac rwy'n gwybod y bydd yr holl staff hynny y bydd galw arnynt yn rhoi'r holl gymorth a chefnogaeth y gallant i helpu Martin a Trevor i ddangos ansawdd ein gwaith.   Hoffwn ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu hymdrechion. 

 

Smart space

Mae ein timau Dysgu a Sgiliau yn gwneud gwaith gwych.  Mae'r negeseuon wythnosol hyn yn aml yn rhannu straeon am yr effaith y mae eu gwaith yn ei chael ar blant a phobl ifanc.   Nawr mae gennym gyfle i ddangos hyn i Estyn.  Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r arolygwyr i ddod o hyd i ragor o ffyrdd y gallwn gefnogi plant a phobl ifanc a gweld gwaith rhagorol ein timau'n cael ei gydnabod yn eu canfyddiadau.   Gan gadw at y thema honno, hoffwn longyfarch Ysgol Gynradd Palmerston, sef yr ysgol gyntaf i gwblhau'r rownd gyntaf o brosiectau a ariennir gydag arian a greir gan Big Fresh Catering Limited - ardal eistedd awyr agored wych i'r disgyblion fwynhau bwyta a chael gwersi yn yr awyr agored.  

Mae'r ardal awyr agored wedi'i henwi'n 'Lle Smart' er anrhydedd i Reolwr y Gegin a’r Cogydd, Tracey Smart, sydd, ochr yn ochr â'i thîm, yn darparu prydau cytbwys maethlon i bob disgybl beth bynnag yw eu hoffterau a'u casbethau.  

Smart space - big fresh kitchen staff

Mae rhoddion gan y gymuned leol, busnesau a rhieni i gyd wedi helpu i wneud hyn yn bosib. Bydd ‘Lle Smart’ yn gwneud yr ysgol yn fwy pleserus i ddisgyblion ei mynychu ac yn lle brafiach i'n cydweithwyr weithio ynddi. 

Mewn ysgol lle rwy'n gwybod bod y tîm cyfan yn gweithio i gefnogi ei gilydd i wneud bywyd ysgol yn bleser i'r disgyblion, dyma enghraifft wych o sut y bydd gweithio'n wahanol o fudd i bawb.  Mae'r Pennaeth, Sarah Cason, wrth ei bodd gyda'r canlyniad, ac rwyf fi hefyd. Gwaith gwych, bawb ac rwy’n mynd i ychwanegu cymryd fy amser cinio yn y ‘Lle Smart’ yn fuan at fy rhestr o addunedau'r Flwyddyn Newydd.

The Big Volunteering Fayre 2024 poster - WelshOs ydych chi hefyd yn chwilio am ffyrdd newydd o gael effaith gadarnhaol eleni, yna efallai y byddwch am alw heibio i'r ffair wirfoddoli a gynhelir yn y Memo ddydd Mercher nesaf (24 Ionawr).   Bydd sefydliadau cymunedol ac elusennau lleol yn ymuno â Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM) i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo yn y Barri rhwng 10am a 2pm.

Bydd dros 40 o sefydliadau ar gael yn y digwyddiad gwirfoddoli ar gyfer sgwrs anffurfiol a pheidiwch ag anghofio bod polisi gwirfoddoli newydd y cyngor yn caniatáu i'r holl staff dreulio diwrnod yn cefnogi menter gymunedol.  

Hoffwn dynnu sylw cydweithwyr hefyd at yr ymgynghoriad a lansiwyd ddoe ar gynigion cyllideb y flwyddyn nesaf.   Gobeithio y bydd cydweithwyr bellach yn gyfarwydd â'n strategaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf ond yn ogystal â rhoi cyfle i drigolion (gan gynnwys staff) a phartïon â diddordeb eraill ddweud eu dweud, mae'r hwb ymgynghori yn rhoi esboniad taclus iawn o sefyllfa’r cyngor a sut rydym yn ceisio mynd i'r afael â hi. 

Mae dod o hyd i ragor o ffyrdd i bobl gymryd rhan mewn polisïau a gwneud penderfyniadau yn un o'r ffyrdd y byddwn yn dod â'r cyngor yn agosach at y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn ystod y blynyddoedd nesaf a hoffwn ddiolch i'r tîm polisi cynllunio sydd wedi bod yn cynnal sesiynau galw heibio ar y strategaeth ddrafft ar gyfer ein Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) dros y pythefnos diwethaf.   Pan fyddwch chi'n darllen y neges hon, bydd y tîm yng Nghanolfan Gymunedol Sant Paul ym Mhenarth ar gyfer eu sesiwn olaf. 

RLDP Drop in sessions

Fel cynllunydd, rwy'n gwybod yn iawn a gallaf dystio bod y CDLlN yn fater sy'n gallu ysgogi teimladau cryf mewn llawer o breswylwyr.   Daeth llawer i’r sesiynau galw heibio ac rwy'n gwybod bod y sgyrsiau sydd wedi’u cynnal wedi bod yn gefnogol iawn ar adegau, ar brydiau eraill maent wedi bod yn eithaf heriol, ac ar adegau eraill ychydig o’r ddau. 

Hoffwn ddiolch yn fawr i Andy, Chloe, John, Marcus, Victoria, a Zoe am gymryd yr amser i fynd â'u gwaith i'r gymuned a rhoi cyfle i gynifer o bobl ddweud eu dweud.  Bydd y CDLlN yn arwyddocaol iawn wrth lunio datblygiad y Fro dros ei hoes a bydd yr ymgynghoriad yn parhau ar-lein tan 14 Chwefror. 

Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl staff hynny sydd wedi bod yn gweithio y tu allan mewn tymereddau isel iawn yr wythnos hon i sicrhau nad yw'r cyfnod oer yn amharu ar ein gwasanaethau.   Mae wedi bod yn is na’r rhewbwynt y rhan fwyaf o foreau'r wythnos hon ac er y bydd llawer ohonom wedi troi’r gwres canolog ymlaen er mwyn ymdopi â hyn mae cannoedd o gydweithwyr yn ein cymunedau bob dydd heb y moethusrwydd hwnnw.     Diolch yn fawr, bawb. 

Yn olaf, hoffwn rannu rhywfaint o adborth a gefais yr wythnos hon am ein cydweithwyr ym mhafiliwn parc Belle Vue.   "Roedd y staff o'r radd flaenaf" oedd y ganmoliaeth syml a basiwyd ymlaen i mi ac yn un rwy’n teimlo sy'n berthnasol i gynifer o Dîm y Fro.  Da iawn i'r tîm ym Mhafiliwn Belle Vue !

Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon.  Diolch yn fawr, bawb. 

Rob.