Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 05 Ionawr 2024
Yr Wythnos Gyda Rob
05 Ionawr 2024
Annwyl gydweithwyr,
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!
Er bod rhai ohonom wedi dychwelyd i'r gwaith ar ôl gwyliau’r Nadolig yr wythnos hon, mae staff eraill ar draws llawer o'n gwasanaethau rheng flaen wedi bod ar ddyletswydd dros yr ŵyl i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus pwysig yn parhau i weithredu. Diolch yn fawr iawn i chi gyd am eich ymroddiad.

Mae wedi bod yn gyfnod arbennig o brysur i'n timau gwastraff ac ailgylchu gan eu bod wedi gorfod ymdopi â chynnydd mawr yn swm y deunydd sy’n cael ei gyflwyno gan breswylwyr yr adeg hon o'r flwyddyn.
Mae llawer wedi gweithio ar benwythnosau i reoli'r llwyth, a byddant yn parhau i wneud hynny nes bod y sefyllfa'n dychwelyd i normal.
Rwy'n gwybod bod nifer fawr o breswylwyr yn hynod ddiolchgar am yr ymdrechion hynny, yn enwedig o ystyried y tywydd gwlyb a stormus iawn rydym wedi'i brofi rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Diolch, bawb.
Mae nifer o enghreifftiau ar y cyfryngau cymdeithasol o'n gweithwyr gwastraff yn cael eu canmol am eu hagwedd siriol, gan fynd yr ail filltir i gynorthwyo ynghanol amodau ofnadwy. Afraid dweud, rwy'n ailadrodd y ganmoliaeth honno – da iawn, bawb.
Mae cydweithwyr mewn gofal cymdeithasol, priffyrdd, parciau a llu o feysydd eraill hefyd wedi bod yn y gwaith dros gyfnod y gwyliau. Diolch yn fawr iawn am eich ymrwymiad - gwn ei fod yn cael ei werthfawrogi gan yr Uwch Dîm Arwain a'r preswylwyr rydych chi'n eu helpu.
Yn y cyfamser, mae'r Tîm Digidol yn gweithio'n galed i sicrhau bod gennym ni yr offer cywir ar gyfer ein gwaith, felly rydym yn awyddus i ddarganfod beth sydd ei angen ar staff.
Gan adeiladu ar ddarn cynharach o waith a wnaed gan y Tîm Prosiect Teleffoni yn 2022, maen nhw eisiau dysgu mwy am y caledwedd rydyn ni'n ei ddefnyddio cyn i ni newid i system ffôn newydd, a fydd hefyd yn newid y ffordd y mae ein gliniaduron a'n cyfrifiaduron yn cael eu cefnogi.
Bydd ffurflen arolwg yn cael ei hanfon allan yn gynnar yr wythnos nesaf a byddwn yn ddiolchgar pe gallai pob cydweithiwr ei chwblhau.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn derbyn y cymorth digidol mwyaf priodol wrth symud ymlaen.
Bydd yr arolwg yn rhedeg am wythnos ac mae'r tîm yn gweithio i derfynau amser tynn felly byddem hefyd yn gwerthfawrogi ymateb prydlon. Diolch yn fawr am eich cymorth gyda hyn.

Roedd 2023 yn flwyddyn anodd i Awdurdodau Lleol, ond rwy'n hynod falch o'r ffordd yr ymatebodd staff y Fro i'r her a pharhau i wneud gwaith gwych.
Y llynedd, enillon ni wobrau, agoron ni ysgolion newydd, adfywion ni adeiladau, helpon ni i greu cymunedau, diogelon ni’r rhai bregus a darparon ni’r gwasanaethau y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.
Mae myfyrio ar yr ymdrechion hynny'n rhoi llawer o optimistiaeth i mi ar gyfer y dyfodol oherwydd mae'n profi beth y gall y grŵp ymroddedig a gweithgar hwn o staff ei gyflawni mewn amgylchiadau heriol.
Fel y soniais mewn negeseuon blaenorol, bydd 2024 yn 12 mis heriol arall wrth i gyllidebau gael eu gwasgu hyd yn oed ymhellach. Y ffocws ar ddechrau'r flwyddyn fydd gosod cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn i ddod, a gwn fod cydweithwyr yn ein Tîm Cyllid wedi bod yn brysur dros gyfnod y Nadolig yn cwblhau'r gyllideb ddrafft yn barod ar gyfer yr ymgynghoriad a fydd yn dilyn yn fuan.
Hoffwn hefyd ailadrodd fod gennym ni yma yn y Fro hanes cryf o ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu ein gwasanaethau. Wrth i ni ddechrau'r flwyddyn, byddwn yn canolbwyntio o'r newydd ar ein Hagenda Ail-lunio wrth i ni geisio trawsnewid y ffordd rydym yn gwneud pethau yn hytrach na dim ond torri gwasanaethau a lleihau safonau.
Bydd y dull hwn yn parhau fel y bydd ein huchelgais i wella ymhellach fyth wrth i ni herio'n dulliau mwy traddodiadol yn briodol a cheisio trawsnewid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau allweddol.
Er bod rhwystrau i'w goresgyn, rwy'n hyderus y byddwn mewn sefyllfa gryfach ar ddiwedd y flwyddyn, yn gallu gweithredu'n fwy effeithiol a gwasanaethu ein trigolion yn well.
Unwaith eto, diolch yn fawr iawn am eich ymdrechion yr wythnos hon - gobeithio y cewch chi a'ch teulu 2024 hapus ac iach.
Diolch yn fawr iawn,
Rob