Staffnet+ >
Yr Wythnos gyda Tracy 09 Chwefror 2024

Yr Wythnos gyda Tracy
09 Chwefror 2024
Annwyl gydweithwyr,
Mae Rob wedi cymryd peth amser i ffwrdd yr wythnos hon felly gofynnodd i mi ysgrifennu'r neges heddiw ar ei ran.
Rwy'n falch iawn o fanteisio ar y cyfle hwn, ond arweiniodd hefyd at ychydig ddyddiau o fyfyrio gen i gan ei bod yn dasg hynod anodd. Mae Rob yn eiriolwr mor gryf dros gyfathrebu cryf ac roeddwn i eisiau sicrhau fy mod yn gwneud cyfiawnder drwy ddangos y gwaith rhagorol sy'n digwydd ar draws ein sefydliad bob wythnos.
Rwyf wrth fy modd yn darllen neges wythnosol Rob, gan bori dros y llu o brosiectau sydd ar y gweill a darllen straeon am gymaint o ymrwymiad personol sy’n mynd i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau. Mewn cyfnod gwaith mor anodd, mae darllen y neges wythnosol yn fy ngwneud yn falch o fod yn rhan o’r fath dîm.
Yn gyntaf, peth newyddion trist gan ein bod wedi colli dau aelod o staff yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Roedd Bill Lucas yn Weithiwr Cymorth Gwasanaeth Dydd poblogaidd a ddechreuodd ei gyflogaeth gyda ni pan sefydlwyd Cyngor y Fro ym 1996. Roedd hyd ei wasanaeth llywodraeth leol yn ymestyn dros 30 mlynedd. Cyn ymuno â'r Cyngor, gwasanaethodd Bill gyda'r Fyddin Brydeinig yng Nghatrawd Coedwigwyr Swydd Gaerwrangon a Sherwood.
Roedd Bill yn gydweithiwr a ffrind tawel, meddylgar a chefnogol. Bydd y tîm yn trysori eu hatgofion gwych am ei synnwyr digrifwch ffraeth, ei garedigrwydd a'i sgiliau trefnu ynghyd â’i sdeil 'crocs a siorts' bob tywydd. Roedd Bill yn mwynhau coginio ac roedd ei ginio llysieuol cartref blasus yn destun eiddigedd y Tîm Gwasanaethau Dydd cyfan.
Doedd dim pen draw i ymroddiad Bill i'w rôl ac yn ystod y pandemig roedd yn un o wir Arwyr Enfys y Fro, ar ôl cael ei ddargyfeirio i Wasanaethau Adnoddau Cymunedol y Fro pan gaeodd ein canolfannau dydd dros dro. Roedd y gefnogaeth a gynigiodd i'w gydweithwyr a'i ffrindiau, yn ogystal â'r dinasyddion y bu'n gweithio gyda nhw, heb ei ail a bydd yn aros gyda ni i gyd.
Bydd dathliad o fywyd Bill yn cael ei gynnal yn Amlosgfa’r Barri ar 16 Chwefroram 4pm. Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y gwasanaeth yn The Cherry Orchard, Barry Road, Y Barri.

Bu farw Dave Williams o'r Tîm Datblygu Economaidd yr wythnos diwethaf ar ôl bod yn sâl ers peth amser.
Rwy'n gwybod y bydd gan lawer o aelodau staff atgofion melys o Dave o'i 30 mlynedd a mwy gyda'r Cyngor.
Ymunodd yn wreiddiol fel Cynllunydd cyn symud i adfywio trefol fel Prif Swyddog Adfywio.
Roedd gan Dave law yn y rhan fwyaf o brosiectau sydd wedi ffurfio strydlun y Barri, a bydd y gwaith hwn yn waddol hirhoedlog ganddo
Roedd yn un o Dîm y Fro o’i gorun i’w sawdl a bydd llawer o gydweithwyr yn ei gofio yn feistr ar fanylion a hefyd am ei synnwyr digrifwch hynod sych.
Dewisodd Dave beidio â chael angladd, ond gall cydweithwyr rannu unrhyw atgofion sydd ganddyn nhw ohono drwy e-bostio economic@valeofglamorgan.gov.uk.
Bydd y tîm yn defnyddio'r rhain i greu llyfr atgofion ar gyfer teulu Dave.
Fel Pennaeth Adnoddau Dynol, rwy'n awyddus iawn bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i'w helpu i ymdopi â newyddion fel hyn ac ystod o faterion eraill.
Mae gan holl weithwyr y Fro bellach fynediad at Linell Cyngor a Gwybodaeth 24 awr, a ddarperir gan Westfield Health.
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi arweiniad cyfrinachol i chi ar faterion meddygol, cyfreithiol a domestig gan gwnselwyr, cynghorwyr cyfreithiol a nyrsys cymwys.
O straen, profedigaeth neu anawsterau perthynas i bryderon iechyd ac arian, mae cyngor proffesiynol ar gael unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.
Gellir manteisio ar y gwasanaeth drwy ddeialu 0800 092 0987, gan ddyfynnu rhif cynllun Iechyd Westfield sef 72115 a Cyngor Bro Morgannwg.

Gan fod mis Chwefror yn Fis Hanes LHDT+, roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n amserol rhannu diweddariad ar ddogfen ganllaw rydyn ni wedi'i chyhoeddi i ysgolion.
Mae'r Pecyn Cymorth Cynhwysiant Trawsryweddol yn rhan o gyfres ehangach o ddogfennau canllaw ar gyfer ysgolion a ysgrifennwyd gan gydweithwyr yn ein hadran Dysgu a Sgiliau.
Ei nod yw helpu pob plentyn i deimlo'n gyfforddus ac wedi eu gwerthfawrogi yn yr ysgol beth bynnag yw eu hunaniaeth rhywedd ac mae'n cynnwys camau y gellir eu cymryd all helpu i gyflawni hyn.
Fe gyhoeddon ni becyn cymorth cynhwysiant traws am y tro cyntaf yn 2018 ond fe benderfynon ni adolygu a diweddaru'r ddogfen ac ymgynghori arni y llynedd.
Ar ôl ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus a diwygio'r ddogfen, mae wedi cael ei hystyried gan bwyllgorau craffu cyn cael ei chymeradwyo gan y Cabinet.
Ers hynny mae wedi'i rhannu'n uniongyrchol gydag ysgolion a rhanddeiliaid eraill a bydd hefyd yn cael ei chyhoeddi ar Staffnet pe byddai unrhyw un am gyfeirio ati.
Hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion am y gwaith caib a rhaw i orffen y ddogfen, ac yn arbennig i David Davies a Jason Redrup sydd wedi treulio llawer o oriau diflino yn adolygu'r cynnwys. Mae'r ymdrech hon yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr.

Ers dydd Llun, rydym hefyd wedi bod yn nodi Wythnos Cydraddoldeb Hiliol ac Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.
Thema’r Wythnos Cydraddoldeb Hiliol eleni yw #GwrnadoGweithreduNewid sy’n gofyn i bobl gymryd rhan mewn Her Pum Diwrnod.
Gyda chefnogaeth Rhwydwaith Amrywiaeth y Cyngor, yr her fydd cymryd rhan mewn pum munud o hunanfyfyrio bob dydd a gwneud ymrwymiad i newid.
Mae hon yn ffordd syml, effeithlon o ran amser, a phwerus i unigolion ddysgu am anghydraddoldeb hiliol mewn camau byrion.
Bob dydd cafwyd thema wahanol i'w hystyried, cwestiwn i ysgogi'r meddwl, fideo byr, enghraifft wyddonol o sut y gall gweithredoedd ac ymddygiad effeithio ar deimladau o gynhwysiant a pherthyn, awgrymiadau syml ar sut i weithredu a chael gafael ar adnoddau i bobl eu harchwilio ymhellach.
Themâu’r wythnos oedd:
Mae'r ffocws heddiw, Yr Addewid Mawr, yn annog sefydliadau i gynnal momentwm ar gydraddoldeb hiliol a gwneud ymrwymiadau cyhoeddus i fod yn rhagweithiol wrth-hiliol.

Rwyf i a fy nghydweithwyr yn yr uwch Dîm Arwain wedi gwneud addewidion personol yn hyn o beth, pob un yn dewis un o'r rhestr isod.
- Gosod polisi o ddim goddefgarwch tuag at hiliaeth a microymosodiadau, gyda chanlyniadau cyhoeddedig, clir i'r rhai nad ydynt yn glynu wrth y polisi.
- Meddu ar y mecanweithiau i nodi, datblygu a hyrwyddo pobl y mwyafrif byd-eang i ddatblygu'r biblinell dalent.
- Cyhoeddi bwlch cyflog ethnigrwydd yn flynyddol, gosod targedau a gosod cynllun gweithredu i'w cyrraedd.
- Sicrhau bod pob elfen o wobr a chydnabyddiaeth, o arfarniadau i fonysau, yn deg ac yn adlewyrchu amrywiaeth hiliol y sefydliad.
- Noddi talent (du yn enwedig) o blith y mwyafrif byd-eang yn ein gweithle.
- Cymryd rhan mewn Gofod Diogel (deialog gyda chydweithwyr o’r Mwyafrif Byd-eang i greu newid) a monitro deilliannau.
- Gosod targedau ymestynnol a choladu'r wybodaeth ganlynol: Targedau Hil y Bwrdda’r UDA: Dadansoddiad o weithwyr yn ôl Hil a band cyflog.
Mae hyrwyddo gwerthoedd cydraddoldeb, cynhwysiant, goddefgarwch a derbyniad yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor ac mae llawer o waith wedi'i wneud yn y maes hwn.
Rydym wedi ffurfio grwpiau ar gyfer mwyafrif byd-eang, LHDT+ ac aelodau staff anabl, tra bod cydweithwyr yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweminarau Materion Cydraddoldeb Hiliol.
Trefnwyd cyfarfodydd gofod diogel, gan gynnig cyfle i gydweithwyr amrywiol eu hethnigrwydd godi materion sy'n effeithio arnynt.
Mae'r rhain wedi arwain at amrywiaeth o gamau gweithredu, gan gynnwys hyfforddiant gorfodol ar ymwybyddiaeth hil i'r holl staff a gweithio i godi proffil staff o gefndiroedd mwyafrif byd-eang.
I gydnabod y gwaith hwn, dyfarnwyd statws Safe Space Plus Trailblazer i'r Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cymryd rhan mewn diwrnodau ymwybyddiaeth ar gyfer grwpiau amrywiol, wedi penodi Pencampwr Cydraddoldeb, yn edrych i greu Pencampwr Hil ar yr UDA, datblygu Pecyn Cymorth Trawsryweddol, tra bod is-adran amrywiaeth a chynhwysiant ar y dudalen recriwtio.
Mae gwaith gwych yn digwydd mewn ysgolion hefyd.

Ddiwedd y llynedd, dathlodd YSgol Gyfun Sant Cyres Wythnos Diwylliannau, a gynigai gyfle i gyflwyno agwedd ddiwylliannol a oedd yn gysylltiedig â phwnc.
Er enghraifft, dysgodd plant am fardd llawryfog o Jamaica a Ffisegydd enwog o Bacistan, gyda'r nod o amlygu'r ffaith nad yw addysg yn ddiwylliannol benodol.
Cafwyd noson lle cafodd disgyblion eu cyflwyno i gerddoriaeth a mathau eraill o gelf o ystod wledydd a diwrnod dim gwisg ysgol pan oeddent yn gwisgo dillad o bob cwr o'r byd.
Er gwaethaf yr holl weithgarwch hwn, mae'n bwysig peidio mynd yn hunanfodlon.
Mae mwy o waith i'w wneud bob amser ac ni fydd y Cyngor yn gorffwys ar ei rwyfau lle mae cydraddoldeb dan sylw.
Byddwn yn parhau i bwyso am fwy o newid a pharhau i ddadansoddi ein sefydliad ein hunain am ffyrdd eraill i wella.

Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau eleni yn dathlu Sgiliau am Oes, gan annog pawb i ystyried sut y gall prentisiaethau helpu unigolion i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfa werth chweil, a chyflogwyr i ddatblygu gweithlu sydd â sgiliau sy'n barod ar gyfer y dyfodol.
Rydym wedi cael rhai llwyddiannau gwych gan ddefnyddio prentisiaethau o fewn y cyngor ar gyfer recriwtio ac fel modd o hyrwyddo hunanddatblygiad.
Gan edrych ymlaen felly, yr wythnos nesaf mi fydd hi’n Wythnos CaruUndebau, sy'n cynnig cyfle i arddangos pwysigrwydd undebau wrth roi llais i staff. Rwy'n falch o'r berthynas gref sydd gennym gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur a'r ffordd gydweithredol yr ydym yn gweithio gyda'n gilydd. Dyma gyfle i godi eu proffil a chydnabod pwysigrwydd ein partneriaeth gymdeithasol.

Mae gan Gyngres yr Undebau Llafur amrywiaeth o adnoddau digidol i helpu i gyfleu'r neges, gyda stoc gyfyngedig o ddeunydd dwyieithog ar gael ar gais.
Ar y cyfryngau cymdeithasol, byddant yn defnyddio'r hashnod #CaruUndebau i ddweud yn uchel a balch - mae undebau'n wych i bobl sy'n gweithio ac mae angen undeb ar bob gweithiwr.
Yn olaf, hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i rannu lleoliad newydd ein Hystafell Hyfforddi Codi a Chario, ar ôl symud yn ddiweddar o BSC ac sydd bellach wedi'i leoli yn y Swyddfeydd Dinesig, gyferbyn ag Iechyd Galwedigaethol.
Diolch yn fawr iawn i Phil Chappell a'i dîm am wneud i hyn ddigwydd, ochr yn ochr â gwaith gwych gan ein Cydlynydd Codi a Chario, Elspeth Cameron. Mae Elspeth yn cael ei chydnabod fel arweinydd yn ei maes ac mae'n gweithio ar draws y sefydliad, ac yn allanol, o ysgolion i wasanaethau cymdeithasol, gan ddarparu hyfforddiant codi a chario hanfodol i'n gwasanaethau rheng flaen. Diolch yn fawr Elspeth.
Diolch i chi gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon – mae eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi'n fawr gen i a'r holl gydweithwyr ar yr UDA.
Gobeithio y bydd y glaw yn cilio fel y gallwn ni gyd fwynhau'r dyddiau nesaf.
Beth bynnag rydych chi'n ei wneud, gobeithio y cewch benwythnos gwych.
I'n cydweithwyr yn yr ysgolion, mwynhewch eich gwyliau hanner tymor. Edrychwn ymlaen at glywed gan y rhai fydd yn cymryd rhan yng nghamau rhagbrofol Eisteddford yr Urdd pan ddewch yn ôl.
Diolch Yn Fawr ac edrychaf ymlaen at efallai ysgrifennu'r neges hon yn Gymraeg yn y dyfodol (Dwi'n dysgu )
Tracy.