Yr Wythnos Gyda Rob

23 Chwefror 2024

Annwyl gydweithwyr,

Youth Service Estyn inspection

Mae dau dîm Estyn wedi bod yn y Swyddfeydd Dinesig yr wythnos hon ar gyfer eu hadolygiad o'n Gwasanaeth Ieuenctid a chamau rhagarweiniol eu harolwg ehangach o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL).

Hyd yn hyn, mae'r ddau arolwg wedi mynd yn esmwyth iawn ac mae hyn yn dyst i'r gwaith paratoi enfawr a wnaed gan gydweithwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf. 

Mae cyfarfodydd gyda'r arolygwyr wedi cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos a hoffwn ddiolch i'r holl gydweithwyr yn ein timau Dysgu a Sgiliau, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Adnoddau Corfforaethol, ein hysgolion – staff cymorth, athrawon, a phenaethiaid – ein cyrff llywodraethu, a'r rhai o'n sefydliadau partner sydd wedi bod yn rhan o'r broses hyd yma. Mae'r adborth cychwynnol a gawsom wedi bod yn galonogol iawn.

Her Voice Wales at the Youth Service Excellence awards

Mae'r arolwg o’r Gwasanaeth Ieuenctid bellach wedi'i gwblhau ac, ar ôl cyfarfod cychwynnol yn gynharach yn yr wythnos, cefais fudd o gyfarfod â'r Arolygwyr eto heddiw lle roeddent yn gallu rhannu eu hadborth a'u canfyddiadau cychwynnol gyda mi. Rwy'n gwybod bod y tîm cyfan wedi bod yn gweithio'n ddiflino i dynnu ynghyd bopeth sydd ei angen i ddangos maint ac effaith eu gwaith. Mae eu hymrwymiad, eu hangerdd a'u hymroddiad i weithio gyda phobl ifanc ledled y Fro yn amlwg i bawb ei weld. Mae'r gefnogaeth anhygoel y maent yn ei darparu wedi cael ei arsylwi a'i chydnabod gan arolygwyr.

Her Voice Wales Michaela and Alex at the Youth Service Excellence awards

Nid oes enghraifft well o'r gwaith y mae'r tîm yn ei wneud i gefnogi a grymuso pobl ifanc na phrosiect Ei Llais Cymru. Rwyf wedi ysgrifennu amdano sawl gwaith yn y bwletinau hyn wrth iddo barhau i gael canmoliaeth ac ennill gwobrau. Fis diwethaf cafodd ei gynnwys mewn rhaglen ddogfen ar y teledu. Fis yma, neithiwr i ddweud y gwir, enillodd wobr Dathlu Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn Llandudno. Rhaid canmol Michaela O'Neill ac Alex Thomas yn arbennig, sydd wedi cefnogi'r merched sydd yn greiddiol i’r prosiect. Yn fwy eang, mae'n enghraifft berffaith o weithgaredd gwaith ieuenctid yr ydym wedi'i alluogi sy'n cael ei ddyfeisio a'i arwain gan y bobl ifanc eu hunain – yr union ffordd y gallwn weithio gyda'r rhai sydd ein hangen i ddatblygu cymunedau cryfach ar gyfer y Fro. Rwy'n siŵr y bydd sawl enghraifft wych o hyn y gallaf eu rhannu mewn negeseuon yn y dyfodol unwaith y bydd adroddiad Arolwg y Gwasanaeth Ieuenctid wedi'i gwblhau a'i gyhoeddi.

Mae'r broses arolygu yn sicr yn drylwyr. Mae 35 o gyfweliadau pellach gyda staff wedi'u trefnu pan fydd tîm Estyn yn dychwelyd fis nesaf i barhau â'r arolwg o’r Gwasanaethau Addysg Lleol. Edrychaf ymlaen at rannu diweddariad pellach gyda chi i gyd unwaith y bydd yr ail wythnos arolygu hon wedi'i chwblhau. Unwaith eto, hoffwn ddweud fy mod yn croesawu'r cyfle i ddangos peth o'r gwaith rhagorol yr ydym yn ei wneud yma yn y Fro a chlywed unrhyw awgrymiadau ar sut y gallwn weithio ar lefel hyd yn oed yn uwch.

Waste transfer station 2

Efallai fod rhai ohonoch wedi gweld maes arall o berfformiad uchel yn y Fro yn cael ei amlygu y penwythnos diwethaf. Nodwyd perfformiad ailgylchu'r Fro gan y Sunday Times fel un o'r goreuon yn y DU. Nid gor-ddweud yw dweud bod Cymru, o ran ailgylchu, gyda'r gorau yn y byd ac mae'r Fro yno fel un o'r goreuon yng Nghymru! Soniais yn fy neges yr wythnos diwethaf fy mod wedi gweld o lygad y ffynnon sut y gallwn ailgylchu cymaint o'r deunydd y mae ein preswylwyr yn ei roi allan i gael ei gasglu, wrth ymweld â'r ganolfan adnoddau gwastraff newydd yn y Barri. O ganlyniad, roeddwn yn gallu rhoi gwybodaeth fanwl am y ffordd y mae canlyniadau mor wych yn cael eu cyflawni i bawb a anfonodd y ddolen i’r stori ataf dros y penwythnos. Diolch unwaith eto i bawb yn ein tîm Gwasanaethau Cymdogaeth y mae eu gwaith yn gwneud hyn yn bosibl ac wrth gwrs i breswylwyr y Fro sydd wedi croesawu'r trefniadau ailgylchu newydd yr ydym wedi'u rhoi ar waith.

Seel park

Rydym wedi gweld enghraifft arall o arloesi yn y ffordd yr ydym yn gweithio o’r rhan honno o'n sefydliad i gyflawni mwy o lwyddiant yn ddiweddar hefyd. Mae'r cytundeb i drosglwyddo Parc Seel, Dinas Powys i'r Cyngor Cymuned ar brydles o 99 mlynedd bellach wedi'i gwblhau.

Mae ein parciau a'n mannau gwyrdd yn un o asedau gorau'r Fro, ac mae rhai o'r rhai mwyaf trawiadol yn cael eu cefnogi a'u cynnal a'u cadw yn rhannol gan grwpiau cymunedol lleol. Yn yr achos hwn, mae Cyngor Cymuned Dinas Powys a Grŵp Cyfeillion Parc Seel yn awyddus i wneud gwelliannau ac mewn sefyllfa well na'n Cyngor i ariannu hyn, trwy allu cael gafael ar ystod eang o grantiau a chyfleoedd ariannu eraill. Bydd y trosglwyddiad yn eu galluogi i wella'r parc i breswylwyr ac ymwelwyr ei fwynhau a bydd y weithred gyflwyno a roddir arno gan Feysydd Chwarae Cymru fel rhan o'r broses yn sicrhau ei fod yno i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.

Yr wythnos hon hefyd gwelwyd trosglwyddo gwahanol iawn yn y Swyddfeydd Dinesig gyda'r timau Adnoddau Dynol a Chyflogres yn symud ystafelloedd fel rhan o brosiect Eich Lle, y diweddaraf i wneud hynny. Mae gwneud gwell defnydd o'n gofod swyddfa a'i resymoli lle bynnag y bo modd yn bwysicach i'n sefydliad nag erioed. Mae llawer iawn o gynllunio ac egni yn mynd i mewn i bob un o’r rowndiau symud. Fel y bydd unrhyw un sydd wedi symud tŷ yn gwybod, mae yna ambell rwystr ar hyd y ffordd bob amser, ond mae ysbryd Tîm y Fro wedi ein helpu i oresgyn y rhain. Diolch yn fawr iawn i'r holl dîm Eiddo am reoli'r symud mor effeithiol ac i gydweithwyr yn Adnoddau Dynol a’r Gyflogres am groesawu’r newid. Fe wnaeth ein timau TGCh a Gwella Busnes chwarae rhan allweddol hefyd. Mae'r rownd nesaf o symudiadau yn cael eu gohirio tra bod Estyn yn y Swyddfeydd Dinesig ond unwaith y bydd yr arolwg wedi'i gwblhau, bydd y timau’n gweithio'n galed i ddod â chydweithwyr yn ein tîm Canolfan Gyswllt Un Fro i galon yr adeilad.

IWD 2024

Yn olaf, wrth edrych ymlaen at y mis nesaf, mae 8 Mawrth yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Yn 2023, cynhaliwyd ein digwyddiad mwyaf erioed i ddathlu menywod a merched yn y Fro. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i gydweithwyr ar bob lefel o'r sefydliad rannu eu profiadau, rhwydweithio ac ysbrydoli ei gilydd.

Eleni bydd Arweinydd y Cyngor yn dod â phobl at ei gilydd unwaith eto, y tro hwn i edrych ar yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i gefnogi ein hunain a'n gilydd ac ysbrydoli cynhwysiant. Mae'r digwyddiad yn addo bod yn un gwych arall ac os hoffech fod yn rhan ohono, gallwch gofrestru eich diddordeb nawr.

Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith caled yr wythnos hon. Diolch yn fawr iawn. 

Rob.