Yr Wythnos Gyda Rob

16 Chwefror 2024

Annwyl Gydweithwyr,

Rwy'n ôl ar ddyletswydd neges diwedd wythnos heddiw ar ôl cymryd gwyliau dydd Gwener diwethaf pan ddaeth Tracy i’r adwy.

Rhoddodd ddiweddariad ardderchog ar ddatblygiadau a chyflawniadau diweddar sydd wedi fy ngadael â thasg anodd i'w dilyn.

Yn ffodus, nid yw'r ffrwd ddiderfyn o newyddion ac enghreifftiau o berfformiad staff rhagorol yn dod i ben felly mae gen i ddigon i roi gwybod i chi amdano y prynhawn yma.

Paula-HamWedi dweud hynny, hoffwn ddechrau gyda chyhoeddiad mawr gan yr Uwch Dîm Arwain. Bydd Paula Ham, ein Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, yn ymddeol yr haf hwn.

Bydd colli Paula yn ergyd fawr. Mae wedi chwarae rhan bwysig ac allweddol yn ein Uwch Dîm Arwain, a'r Awdurdod Lleol yn ei gyfanrwydd, ers dechrau yn ei rôl bresennol yn 2016.

Mae'r cyfnod hwnnw wedi gweld newid sylweddol mewn addysg, yn bennaf oherwydd ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (ysgolion yr 21ain ganrif yn flaenorol), sydd wedi gweld cyfleusterau ysgol yn cael eu trawsnewid ar draws y Sir. Mae'r buddsoddiad yn ein hysgolion wedi bod yn sylweddol ac yn uchelgeisiol ac mae wedi gweld gwelliant enfawr yn amgylchedd dysgu ein pobl ifanc.

Mae sgiliau trefnu Paula wedi bod yn ganolog i lwyddiant y gwaith hwnnw. Bydd yn gadael gan wybod bod yr ymdrechion hynny wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddisgyblion y Fro, un a fydd yn sicr o fudd iddynt yn y dyfodol.

Ymunodd Paula â'r Cyngor 15 mlynedd yn ôl gyda chefndir mewn cyllid, yn dilyn swyddi ym maes Iechyd a Llywodraeth Leol cyn hynny.

Yn ystod y degawd a hanner hwnnw, mae Paula wedi bod yn gaffaeliad gwirioneddol i'r Cyngor, bydd colled fawr ar ei hôl a bydd yn anodd iawn ei dilyn.  Diolch Paula am eich ymroddiad a’ch ymrwymiad i addysg yn y Fro.

Nid yw ymadawiad Paula yn digwydd yn syth - mi fydd gyda ni tan fis Mehefin - a gwn y bydd hi a'i chydweithwyr ar draws y Gyfarwyddiaeth a thu hwnt yn hynod brysur o ystyried ein bod yn cael dau arolygiad cyn bo hir. Mae'r cyntaf o'n gwasanaeth Ieuenctid, ac yna arolygiad Estyn o'n gwasanaeth Addysg yn fuan wedi hynny.  Gwn fod Paula a'i thîm wedi paratoi'n drwyadl, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd ein gwaith rhagorol yn y meysydd hyn yn cael ei gydnabod gan yr arolygwyr.

Waste transfer station 1

Ymunodd Paula â mi a gweddill yr UDA ar ymweliad â'r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd yn y Barri ddydd Mawrth.

Mae'r cyfleuster hwn ar Ystâd Fasnachu’r Iwerydd yn helpu'r Cyngor i brosesu ailgylchu sy’n cael ei greu trwy ein system gwahanu yn y ffynhonnell sydd bellach ar waith ledled y Fro.

Waste transfer station 2

Mae hwn yn fersiwn mwy o faint, mwy modern o'r cyfleuster yn y Bont-faen, lle gellir didoli eitemau a'u gwasgu yn barod i'w cludo a'u prosesu ymhellach.

Mae cael ein gorsaf trosglwyddo gwastraff ein hunain yn golygu bod gennym fwy o reolaeth dros ble mae gwastraff yn mynd a beth sy'n digwydd iddo.

Mae perfformiad ailgylchu yng Nghymru gyda’r gorau yn y byd ac mae'r Fro yn agos at frig y tabl o ran siroedd Cymru yn rheolaidd.

Diolch yn fawr iawn i Colin Smith a Bethan Thomas am y daith, ac i'r holl Dîm Gwastraff am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i weithredu newidiadau mor arwyddocaol dros y blynyddoedd diwethaf, gwelliannau sydd wedi cyflawni canlyniadau ardderchog.

Mewn mannau eraill, mae Cwmni Arlwyo Big Fresh yn parhau i ddarparu ar gyfer ein cymunedau.

Nid yn unig mae ei holl elw yn cael ei fuddsoddi'n ôl i mewn i ysgolion, mae amod wrth weithio mewn partneriaeth â'r cwmni hefyd wedi arwain at gwmnïau'n cyfrannu at Fanc Bwyd y Barri.

Yn fwyaf diweddar, mae'r contractwr glanhau ceginau y maent yn gweithio gydag ef wedi addo rhywfaint o arian, gyda £430 yn mynd tuag at fwydo'r newynog.

Da iawn i Carole Tyley a phawb yn Big Fresh. Mae'r model busnes hwn wedi bod o fudd mawr i'n preswylwyr ac mae'n enghraifft o'r math o ddull arloesol o ddarparu gwasanaethau y mae'n rhaid i ni ei fabwysiadu i’r dyfodol.

shared livesMae ffilmio ar gyfer fideo i hyrwyddo'r Cynllun Bywydau a Rennir hefyd wedi digwydd yr wythnos hon.

Mae’r fenter hon yn gosod oedolion bregus gyda gwesteion cymeradwy, sy'n darparu cefnogaeth ac yn gweithredu fel eu gofalwyr.

Mae CeriAnn Gratton, ein Gweithiwr Prosiect Bywydau a Rennir, yn flaenllaw yn y gwaith pwysig hwn. Diolch iddi hi a phawb sydd wedi neilltuo amser i'r prosiect hwn – mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn i grŵp o bobl hynod haeddiannol.

Mae'r gwasanaeth Bywydau a Rennir ar hyn o bryd yn chwilio am ofalwyr sy'n gallu cynnig y math o gymorth a nodir uchod.

Os oes gennych ystafell sbâr ac yn fodlon ystyried darparu cymorth sesiwn, arosiadau seibiant neu leoliad hirdymor, e-bostiwch y tîm.

Dementia_Friends LogoTra’n sôn am ofalu am breswylwyr mwyaf agored i niwed ein cymuned, mae Tîm Gwerth yn y Fro y Cyngor yn gweithio tuag at ennill Statws Deall Dementia i helpu i hybu dealltwriaeth a gwneud ei waith yn fwy cynhwysol.

Mae Gwerth yn y Fro yn brosiect a ariennir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Llywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle i bobl ennill gwobrau am roi o'u hamser i helpu gyda phrosiectau cymunedol. Caiff ei gyflwyno gan Cartrefi’r Fro, gwasanaeth tenantiaid tai'r Cyngor.

Trwy ddod yn sefydliad sy’n Deall Dementia, mae sefydliadau'n cydnabod pwysigrwydd creu amgylchedd cefnogol i unigolion y mae dementia yn effeithio arnynt.

Maent hefyd yn ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr cyffredin a heriol hwn.

Mae dementia yn derm ar y cyd ar gyfer amrywiaeth o anhwylderau niwrolegol sy’n gwaethygu sy'n effeithio ar y cof, gweithrediad gwybyddol, a'r gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd.

Amcangyfrifir bod miliynau o bobl ledled y byd, a nifer sylweddol o fewn ein cymuned leol, yn byw gyda dementia. Wrth i'r boblogaeth heneiddio, disgwylir i nifer y bobl â dementia godi, gan ei gwneud yn hanfodol i brosiectau fel Gwerth yn y Fro gymryd camau rhagweithiol i Ddeall Dementia yn well.

Y Swyddog Ymgysylltu a Chynhwysiant Digidol, Lianne Young fu'r sbardun y tu ôl i ymdrechion timau Gwerth yn y Fro yn y maes hwn.

Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd ag Agenda sy’n Dda i Bobl Hŷn y Cyngor, a osodwyd gan Jo Beynon a Sian Clement Davies, a gwaith dementia a wnaed gan Reolwr Canolfan Ddydd Pobl Hŷn, Miles Utting.

Mae gweithio i ddod yn sefydliad sy’n Deall Dementia yn golygu cael dealltwriaeth o unigolion sy'n byw gyda'r cyflwr a gweithredu strategaethau cyfathrebu i gyflawni rhyngweithio cadarnhaol.

Trwy groesawu mentrau sy’n Deall Dementia, nod Gwerth yn y Fro yw creu amgylchedd lle mae unigolion â dementia yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu deall a'u cynnwys.

Age friendly vale logoMae'r dull hwn hefyd yn cyfrannu at Siarter y Fro sy'n Dda i Bobl Hŷn Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro, sy'n nodi sut y bydd partneriaid ar draws y sir yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pobl yn y Fro yn heneiddio'n dda.

Cafodd y Siarter a'r ymrwymiad i ddod yn gymuned sy'n dda i bobl hŷn ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd pan ddyfarnwyd statws sy'n dda i bobl hŷn i'r Fro ddiwedd y llynedd.

Am fwy o wybodaeth am y ffordd y gallech chi a'ch tîm weithio tuag at Ddeall Dementia, cysylltwch â Lianne neu Miles.

Cymraeg Gwaith Feb 2024 coursesYn olaf, hoffwn dynnu eich sylw at y cwrs Cymraeg diweddaraf, sy'n dechrau ddydd Llun.

Mae hwn ar gael yn rhad ac am ddim i staff ac Aelodau'r Cyngor a gellir ei wneud fel rhan o'r diwrnod gwaith cyhyd â bod eich rheolwr yn cytuno.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r cydlynydd Iaith Gwaith a’r tiwtor Cymraeg Sarian Thomas-Jones, neu’r Swyddog Cydraddoldeb a'r Gymraeg Elyn Hannah.

Diolch i bawb am eich ymdrechion yr wythnos hon – maent yn cael eu gwerthfawrogi bob amser.

 Mwynhewch y penwythnos.