Staffnet+ >
Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2024: Diwrnod 3 - Canmoliaeth yn Gyhoeddus
Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2024: Diwrnod 3 - Canmoliaeth yn Gyhoeddus
Ydych chi'n canmol rhai pobl yn fwy nag eraill?
Agoriad llygad heddiw mewn - 30 eiliad
Os yw rhywun yn gwneud rhywbeth da yn y gweithle, a ydych chi'n eu canmol yn gyhoeddus waeth beth yw eu hil?
-
Rwy'n aml yn canmol cydweithwyr yn gyhoeddus yn y gweithle, waeth beth fo'u hil.
-
Rwy'n aml yn canmol cydweithwyr yn breifat yn y gweithle, waeth beth fo'u hil.
-
Rwy'n canmol cydweithwyr ethnig amrywiol yn gyhoeddus yn llai aml nag eraill.
-
Rwy'n canmol cydweithwyr ethnig amrywiol yn breifat yn llai aml nag eraill.
-
Anaml fydda i’n canmol unrhyw un./Dydw i byth yn canmol unrhyw un.
-
Anaml fydda i’n canmol cydweithwyr ethnig amrywiol./Dydw i byth yn canmol cydweithwyr ethnig amrywiol.
Cydnabod rhywun yn gyhoeddus yw'r ffurf ag iddi’r effaith fwyaf o gydnabod gweithwyr ac mae'n creu trosiant is yn y gweithle (AD ar-lein, 2019).
Canfu arolwg diweddar gan ApolloTechnical fod dros 91% o weithwyr proffesiynol AD yn credu bod cydnabyddiaeth a gwobrwyo yn gwneud gweithwyr yn fwy tebygol o aros.
Yn ogystal, gofynnodd astudiaeth gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth i 1,000 o weithwyr ledled y DU nodi un peth sy'n eu cymell i wneud mwy yn y gwaith a dywedodd 31% ohonynt 'gwell triniaeth gan eu cyflogwr', 'mwy o ganmoliaeth' a 'mwy o ymdeimlad o gael eu gwerthfawrogi'. Mae'r astudiaethau hyn yn dangos pa mor effeithiol y gall canmol yn gyhoeddus yn y gweithle fod.
Fodd bynnag, gall cydweithwyr ethnig amrywiol deimlo’n aml fel pe bai'n rhaid iddynt weithio'n galetach na chydweithwyr eraill i gael eu cydnabod yn gyhoeddus. Er enghraifft, dangosodd astudiaeth ymchwil gan Coqual yn 2022 bod mwy na thri gweithiwr proffesiynol du yn y DU o bob pedwar yn teimlo bod yn rhaid iddynt weithio'n galetach nag eraill i symud ymlaen o fewn eu cwmni.
Yr effaith eurgylch yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio sut, ar adegau, y gall gwahanol nodweddion sydd gan unigolion, boed hynny'n gymwysterau neu eu diddordebau, eu gwneud yn fwy neu'n llai tebygol o dderbyn cydnabyddiaeth gyhoeddus neu arfarniadau cadarnhaol.
Mae hyn yn dangos i ni y gall ein rhagfarnau, boed yn fwriadol ai peidio, ddylanwadu ar sut rydym yn trin ein cydweithwyr. Dyna pam ei bod yn bwysig canmol cydweithwyr yn gyhoeddus yn deg!
Mae cydberthynas hefyd rhwng canmol yn gyhoeddus a dyrchafiadau, cyfleoedd a datblygiad gyrfa.
Dyma un cam y gallwch ei gymryd fel uwch-arweinydd:
Dylech arwain trwy esiampl. Dylech hyrwyddo diwylliant gwaith lle mae pawb yn cydnabod cyflawniadau pobl eraill. Gofynnwch i'ch adroddiadau uniongyrchol sut yr hoffent gael eu cydnabod a'u hannog i wneud yr un peth i'r rheini y maent yn eu rheoli.
Adnoddau Ychwanegol
Adnoddau Cydraddoldeb Hiliol