Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2024: Diwrnod 5 - Yr Addewid Mawr

3.REW24Logo.jpgFyddwch chi'n ymuno â miliynau o bobl eraill heddiw i droi geiriau a meddyliau'n weithredoedd?

Diwrnod yr Addewid Mawr

Dros y pedwar diwrnod diwethaf, rydym wedi archwilio ambell fater allweddol sy’n codi bob dydd sydd yn peri loes a niwed i’ch cydweithwyr, ffrindiau cymunedol, a theuluoedd ethnig amrywiol, ac yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod wedi eu hymylu (ac rydym yn sylweddoli y gallai llawer ohonoch chi fod wedi ei brofi'n uniongyrchol eich hunain).

Ydyn ni'n camu'n ôl, cerdded i ffwrdd, anwybyddu, neu weithredu?

Yr unig ffordd i sicrhau tegwch a chydraddoldeb i bawb yw i bob un ohonom weithredu. Thema Wythnos Cydraddoldeb Hiliol eleni yw #GwrandoGweithreduNewid.

Dros y pedwar diwrnod diwethaf, rydym wedi rhannu'r materion a wynebwyd, effaith peidio â gweithredu a chamau gweithredu syml y gallwch eu cymryd i wneud gwahaniaeth mawr.

Mae’n amser i:

  • Wrando ar yr hyn sydd angen ei wneud

  • Gweithredu ar yr hyn rydych chi wedi'i glywed a'i ddysgu

  • Creu a bod y Newid wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol!

Os ydym i gyd yn ymrwymo i #GwrandoGweithreduNewid, yna gall newid go iawn ddigwydd. Mae'n bryd gwneud eich Addewid Mawr ac ymrwymiad fydd yn cael effaith hirhoedlog!

Pam yr Addewid Mawr?

Cynhaliodd Race Equality Matters gyfweliadau ac ymchwil manwl, a oedd yn dangos bod y mwyafrif o weithwyr ethnig amrywiol yn teimlo mai ychydig iawn o gamau gweladwy sydd wedi bod i symud tuag at y newid dyfnach a mwy ystyrlon sydd ei angen i ysgogi cydraddoldeb hiliol.

Bu’r ewyllys a’r galw am weithredu gan arweinwyr a sefydliadau, yn enwedig tair blynedd yn ôl (2020), ond mae'n amlwg i lawer o sefydliadau, nad yw profiadau eu cyflogeion o ran annhegwch, anghydraddoldeb a phoen wedi newid yn gyffredinol.

Er bod rhai sefydliadau sydd wedi dechrau gwneud cynnydd, sy'n cael eu gyrru gan ychydig o unigolion fel arfer, bydd newid ystyrlon ond yn digwydd os bydd pawb yn cymryd rhan ac yn ymrwymo i sbarduno newid. #MaenFusnesiBawb #GwrandoGweithreduNewid.

Cynhaliodd Race Equality Matters gyfweliadau un i un a gweithdai grŵp gyda'r gymuned Race Equality Matters a chydweithio gyda'r fforwm llywodraethu a Dr Karl George MBE. Roedd hyn yn cynnwys adolygu 15 siarter hil a arweiniodd at gyfanswm o 200 a mwy o ymrwymiadau ac addewidion wedi’u hawgrymu. Gyda'r gymuned, gwnaethom nodi addewidion y mae rhaid eu gwneud ac sy'n fesuradwy, atebol, tryloyw ac a fydd yn creu newid ystyrlon.

Maen nhw'n cael eu hadnabod fel yr Addewid Mawr.

 

  • Cam gweithredu - 2 Munud

    Er mwyn eich helpu i wneud yr ymrwymiad hwnnw, rydym wedi nodi casgliadau pwrpasol o saith addewid ar gyfer:

     

    • Byrddau, Pwyllgorau Gweithredol a Rheolwyr Gweithredol
    • Uwch Arweinwyr
    • Cynghreiriaid
    • Cydweithwyr ethnig amrywiol

    Mae'r casgliadau o saith addewid wedi eu datblygu'n benodol fel y bydd pob un yn cael effaith wirioneddol ar gydraddoldeb hil yn y gweithle.

     

     Os gwnaethoch chi eich Addewid Mawr yn 2023, cymerwch amser i adolygu a myfyrio ar eich cynnydd a phenderfynu a ydych chi am ddewis addewid arall eleni.

     

    • Dewiswch eich Addewid / Addewidion Mawr.
    • Hyrwyddwch eich Addewid Mawr
    • Cadwch eich Addewid Mawr.

     

    Anogwch eich tîm i wneud Addewid Mawr a rhannu gyda nhw eich bod chi'n gwneud Addewid hefyd.

 

Sut i wneud eich Addewid Mawr

  • Ewch i: 

    Yr Addewid Mawr

  • Llenwch y ffurflen ddigidol

  • Dewiswch eich addewid

  • Byddwch yn atebol Cyhoeddwch eich addewid

  • Dewiswch: “Download the Big Promise Social Template”, dilynwch y cyfarwyddiadau

  • Rhannwch eich cerdyn post ac addewidion ar y cyfryngau cymdeithasol

  • Cofiwch ein tagio gan ddefnyddio @RaceEquality_UK gan ddefnyddio #YrAddewidMawr #DangoswchEichAddewid

  • Unwaith y byddwch wedi gwneud eich Addewid Mawr, gallwch hefyd eu cyflwyno i web@valeofglamorgan.gov.uk i gynnwys eich Addewid Mawr ar Staffnet.

 

Adnoddau Ychwanegol