Staffnet+ >
Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2024: Diwrnod 4 - Diwylliant o Berthyn
Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2024: Diwrnod 4 - Diwylliant o Berthyn
Sut gallwn ni lwyddo a ffynnu os nad yw bod yn ni ein hunain yn cyd-fynd â diwylliant disgwyliedig sefydliad?
Agoriad llygad heddiw mewn - 30 eiliad
Ydych chi erioed wedi bod yr unig berson sy'n edrych, yn swnio neu’n siarad fel chi mewn swyddfa/ystafell?
-
Byth
-
Yn anaml
-
Yn achlysurol
-
Yn aml
Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 81.7% o boblogaeth Cymru a Lloegr yn wyn tra bod 9.3% yn Asiaidd, 4.0% yn ddu a 2.9% o gefndir cymysg (govuk, 2021).
Mae hyn yn golygu, yn y gweithle, mae bob amser y tebygolrwydd y gallai cydweithiwr ethnig amrywiol fod yr unig un yn yr ystafell neu leiafrif yn y sefydliad. Gall bod yr unig gydweithiwr ethnig amrywiol yn yr ystafell deimlo'n unig, ac weithiau mae'n gwneud i unigolyn feddwl tybed a yw’n perthyn.
Mae'n gwaethygu os oes ganddynt nodwedd warchodedig ychwanegol, e.e. heb fod yn wrywaidd, anabl neu gyfeiriadedd rhywiol. Dyna pam mae’n bwysig creu amgylcheddau sy'n annog perthyn.
Mae gormod o bobl yn teimlo'n unig, yn ynysig ac yn anghyfforddus os nad ydyn nhw'n cael teimlo bod croeso iddyn nhw a'u bod nhw'n perthyn.
Os nad ydym yn gwneud i gydweithwyr deimlo eu bod yn perthyn neu'n cael eu gwerthfawrogi, bydd cynrychiolaeth wael o unigolion amrywiol yn parhau i fod yn fater o drefn. Ers llawer rhy hir, mae unigolion wedi gorfod cydweddu i sefydliad.
Mae hyn yn aml wedi golygu gorfod 'ymddwyn neu fod yn wahanol' a pheidio â bod yn wir eu hunain - mae'n golygu na allant ffynnu na bod ar eu gorau ac mae hyn yn effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles.
Yn hytrach, mae angen i sefydliadau gyd-fynd ag unigolrwydd a gwahaniaethau eu pobl. Dyma pryd rydym yn perthyn yn wirioneddol.
"Mae perthyn yn elfen allweddol o gynhwysiant. Pan gaiff gweithwyr eu cynnwys, maent yn teimlo bod y sefydliad yn gofalu amdanynt fel unigolion — ar eu ffurf go iawn" Ania Krasniewska, Is-lywydd y Grŵp yn Gartner.
Dyma un cam y gallwch ei gymryd fel uwch arweinydd:
Dylech arwain trwy esiampl. Cofrestrwch eich sefydliad i roi cynnig ar un o atebion Race Equality Matters fel ffordd o greu amgylchedd cynhwysol, fel #FyEnwIYw. Neu hwyluso grwpiau gwrando staff gan ddefnyddio atebion Egwyl Te neu Safe Space Plus Race Equality Matters a gweithredu i greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn.
Wythnos Diwylliannau yn Ysgol Gyfun Sant Cyres: Enghraifft o Ymgysylltu Rhyngddiwylliannol
Yn Sant Cyres, mae tua chwarter (26%) poblogaeth yr ysgol yn blant o gefndiroedd mwyafrif byd-eang. Mae 46 o ieithoedd heblaw Saesneg yn cael eu siarad gartref. Fel rhan o gynllun gweithredu gwrth-hiliaeth yr ysgol sy'n nodi bod "angen i ysgolion gefnogi myfyrwyr yn weithredol i fynegi eu hunaniaethau diwylliannol", fe wnaethon nhw gynnal dathliad diwylliant wythnos o hyd ym mis Hydref.
Yn ystod Wythnos Diwylliannau, cyflwynodd athrawon agwedd ddiwylliannol fer ar y pwnc y maent yn ei addysgu, gan gyflwyno disgyblion i'r syniad nad yw addysg yn 'Gymraeg gwyn' i gyd, ac yn tynnu sylw at wahanol ddylanwadau a chyfraniadau diwylliannol at addysg.
Cynhaliodd yr ysgol Sioe Noswaith Diwylliannau. Perfformiodd y myfyrwyr gymysgedd o ganu, dawnsio a barddoniaeth o wledydd ledled y byd, gan gynnwys Cymru. Daeth y noson i ben gyda sioe ffasiwn wrth i ddisgyblion fodelu dillad o bob cwr o'r byd.
Ar y dydd Gwener cafwyd diwrnod dim gwisg ysgol, lle cafodd disgyblion a staff eu hannog i wisgo dillad sy’n cynrychioli eu priod ddiwylliannau. Sbardunodd y digwyddiad gwestiynau a sgwrs, gan rannu syniadau ar agweddau ar ddiwylliant, hunaniaeth, ethnigrwydd a pherthyn.
Mae staff a disgyblion wedi creu fideo sy'n dangos digwyddiadau'r wythnos, a'r hyn yr oedd yn ei olygu iddyn nhw o ran dysgu a pherthyn:
Adnoddau Ychwanegol
Adnoddau Cydraddoldeb Hiliol