Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2024: Diwrnod 1 - Micro-ymosodedd

3.REW24Logo.jpgYdych chi byth yn clywed rhywun yn dweud rhywbeth amhriodol yn y gweithle a fyddai'n cael ei ystyried yn ymddygiad micro-ymosodol, ond yn aros i rywun arall godi llais?

Beth yw Micro-ymosodedd?

‘Mae micro-ymosodedd yn ffurf gynnil o ragfarn sy’n aml yn anfwriadol. Mae'n aml ar ffurf sylw heb feddwl, jôc ddiofal neu sarhad coeglyd.' (Psychology Today)

Dyma rai enghreifftiau:

  • "Dw i ddim yn gweld lliw."
  • "Does dim angen bod mor flin."
  • "Rwyt ti mor rhugl."
  • "Galla’ i gyffwrdd â dy wallt?"
  • "O ble rwyt ti’n dod mewn gwirionedd?"
  • "Alla’ i ddim ynganu dy enw; Alla’ i dy alw’n X yn fyr? "

"I mi mae micro-ymosodedd fel marwolaeth drwy 1,000 o doriadau. Mae'n groniad o achosion ar draws wythnosau, misoedd a blynyddoedd." Mark Lomas, Pennaeth Diwylliant, Banc Lloyd's.

"Gallai’r digwyddiadau bob dydd hyn, ar yr wyneb, ymddangos yn ddigon diniwed a dibwys, neu gael eu disgrifio fel "sarhad bach," ond mae ymchwil yn dangos eu bod yn cael effaith bwerus ar les seicolegol grwpiau ymylol ac yn effeithio ar eu safon byw trwy greu anghydraddoldebau mewn gofal iechyd, addysg a chyflogaeth." - Derald Wing Sue, Athro Doethuriaeth Seicoleg ac Addysg, Prifysgol Columbia

Mewn arolwg barn diweddar, dywedodd 83% o'r ymatebwyr eu bod yn profi micro-ymosodedd yn y gweithle. Ac eto, dim ond 16% a ddywedodd fod cydweithwyr yn codi llais yn erbyn micro-ymosodedd yn rheolaidd neu'n eithaf aml.

Dywedodd 69% ei fod oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod beth i'w ddweud a

Dywedodd 59% nad oedd pobl yn gwybod sut.

Mater i gynghreiriaid yw ymateb ac nid y rhai y mae'r micro-ymosodedd yn effeithio arnynt. Gellir gwneud hyn mewn ffordd sy’n osgoi gwrthdaro trwy ofyn yn syml, "Beth oeddet ti’n ei olygu wrth hynny?" Neu "Alla’ i wirio beth oeddet ti'n ei olygu?" neu ddefnyddio cwestiwn arall nad yw'n achosi gwrthdaro yr ydych chi'n fwy cyfforddus ag ef.

Diben hyn yw rhoi cyfle i'r person fyfyrio, neu ar adegau i gywiro iaith drwsgl, amhriodol neu hyd yn oed niweidiol. Mae hefyd yn galluogi pawb i fod yn ymwybodol o beth yw micro-ymosodedd. Bydd hyn yn creu diwylliant a fydd yn galluogi newid ystyrlon.

Gweler #ItsNotMicro 

 

  • Agoriad llygad heddiw mewn - 30 eiliad

    Os ydych chi’n dyst i rywun yn disgrifio menyw ddu yn berson blin pan mai dim ond siarad yn angerddol am bwnc yr oedd hi, a fyddech chi fel arfer yn:

    • Ei anwybyddu gan nad oeddech chi’n gwybod ei fod yn ymddygiad micro-ymosodol.
    • Ei anwybyddu gan eich bod chi am osgoi bod yn rhan.
    • Aros am rywun arall i godi llais.
    • Ar adeg briodol, siarad â rhywun arall sy'n gallu ei gwestiynu.
    • Cwestiynu’r person ar yr adeg honno.
    • Holi ef yn breifat, ar ôl iddo ddigwydd.
    • Holi ef ar yr adeg honno, ond siarad hefyd â'r cydweithiwr yr effeithiwyd arno'n breifat pan fo'n briodol
  • Fideo – 3 Munud

     

    Pam mae micro-ymosodedd yn teimlo fel mil o doriadau bach?

     

    Gwyliwch y fideo hwn i gael gwybod mwy:

     

    All The Little Things (3:28)

  • Cam gweithredu – 2 funud

    Yn y gwaith, mae'n hanfodol gweithredu pan welwn neu pan glywn micro-ymosodedd, yn hytrach na gwneud dim.

    • Anogwch eich sefydliad i ymuno ag ymgyrch #ItsNotMicro Race Equality Matters, sy'n ceisio normaleiddio codi llais yn erbyn micro-ymosodedd.
    • Treuliwch amser yn dysgu mwy am ficro-ymosodedd. Fe welwch adnoddau defnyddiol isod.
    • Meddyliwch am effaith unrhyw ragfarnau sydd gennych a'r iaith y gallwch fod yn ei defnyddio.
    • Codi llais/delio â micro-ymosodedd – awgrymiadau: (Cymdeithas Seicolegol America):
    1. Cynlluniwch ymlaen llaw - meddyliwch am ffyrdd y gallech chi ymyrryd.
    2. Teilwrwch eich agwedd tuag at y sefyllfa.
    3. Siaradwch drosoch eich hun, meddyliwch am eich teimladau a'ch persbectif eich hun.
    4. Targedwch yr ymddygiad, nid yr unigolyn - dylech osgoi galw’r cyflawnwr yn hiliol neu ymosod ar ei gymeriad.
    5. Gall fod yn fwy effeithiol neu'n fwy diogel dweud rhywbeth y tu ôl i ddrysau caeedig.
    6.  Ceisiwch gefnogaeth allanol.
    • Gofynnwch i'r person a oedd yn destun y micro-ymosodedd os yw'n iawn.
    • Ceisiwch ddefnyddio mân gadarnhadau - gweithredoedd cynhwysol a charedig. e.e. gofyn i gydweithwyr sut hwyl sydd arnyn nhw, nodio a gwenu, gwneud cyswllt llygaid, gofyn i eraill am eu barn, a rhoi clod i syniadau pobl eraill. Gweler yr adnoddau ychwanegol i gael rhagor o awgrymiadau

     

 

Adnoddau Ychwanegol

 

Adnoddau Fideo Ychwanegol

 

Adnoddau Cydraddoldeb Hiliol