Cyfle i logi cabanau glan môr!

Bob blwyddyn, rydym yn gwahodd staff a thrigolion i gystadlu am gyfle i logi un o’n cabanau glan môr am flwyddyn ar Bromenâd Dwyreiniol Ynys y Barri.

Barry Island Beach Huts Eastern PromenadeMae chwech o gabanau mawr a chwech o rai bach ar gael i’w llogi am y flwyddyn:

Ar gyfer tymor 2024/25, y ffi am gaban bach yw £683 y flwyddyn.
Ar gyfer tymor 2024/25, y ffi am gaban mawr yw £927 y flwyddyn.

(Mae’r holl ffioedd yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.)

Bydd y tocynnau i ennill cyfle i logi caban eleni yn cael eu tynnu yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 04 Mawrth.

Cofrestrwch eich diddordeb erbyn 01 Mawrth, 12pm i gael cyfle i ennill tocyn  Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.

Yn sgil y galw uchel ni all y rhai sy’n llogi caban glan môr am y flwyddyn ar hyn o bryd (2023/24) wneud cais am un y tymor canlynol (2024/25).