Mis Hanes LHDT+: Arloeswyr yn y Maes Meddygol

LGBT History Month

Yn rhan o fis Hanes LHDT+, mae'r fideos isod wedi'u creu i daflu goleuni ar brofiadau a chyfraniadau unigolion LHDT+ yn y maes meddygol.   Gallwch ddod o hyd i lawer o fideos llawn ysbrydoliaeth o unigolion LHDT+ yn mynd ati i wneud gwahaniaeth yn y maes meddygol trwy ymweld â Mis Hanes LGBT+ 2024. Mae un o'r enghreifftiau isod.

Sophia Jex Blake

Roedd Sophia Jex-Blake yn feddyg arloesol yn yr Alban ac yn eiriolwr blaenllaw dros hawliau menywod ym maes meddygaeth.  Ganwyd Jex-Blake yn Lloegr, a daeth yn arloeswr yn ei hymgais i chwalu rhwystrau rhyweddol yn y proffesiwn meddygol. Er iddi wynebu cryn wrthwynebiad a gwahaniaethu, daeth yn un o'r menywod cyntaf i fynychu ysgol feddygol ym Mhrydain, gan astudio ym Mhrifysgol Caeredin yn y 1860au.  Wedi hynny, ymgyrchodd yn yr un modd dros hawliau menywod i ymarfer meddygaeth, gan gyd-sefydlu Ysgol Meddygaeth i Fenywod Caeredin.  Yn dilyn ei marwolaeth yn 1912, rhoddodd ei phartner bywyd Margaret Todd ei bywgraffiad at ei gilydd.

 

Datblygiadau Meddygol

Cafodd y pandemig HIV effaith ddifrifol ar y gymuned LHDTC+ ers y dyddiau cynharaf. Cafodd HIV/AIDS effaith ddinistriol ar y gymuned LHDTC+, yn enwedig dynion hoyw a deurywiol. Yn y blynyddoedd cynnar, bu diffyg ymwybyddiaeth, dealltwriaeth feddygol, a systemau cymorth, gan arwain at gyfraddau uwch o heintiau a marwolaethau.  Ers hynny, bu datblygiadau sylweddol mewn ymchwil a thriniaethau’n fyd-eang.  Gellir gweld rhai o'r datblygiadau isod: 

  • Therapi Gwrth-retrofirol (ThGR):  Mae cyflwyno a mireinio Therapi Gwrth-retrofirol yn barhaus wedi bod yn rhan ganolog o reoli HIV. Mae ThGR yn helpu i reoli'r feirws, gan ganiatáu i unigolion sydd â HIV fyw bywydau iach a lleihau'r risg drosglwyddo.  Yn y DU, mae mynediad at y therapi wedi dod yn fwy cyffredin, gan gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwell i'r rhai sy'n byw gyda HIV.

  • Proffylacsis Cyn Heintio (PrEP): Mae PrEP yn ddull ataliol lle mae unigolion sy'n HIV-negyddol yn cymryd meddyginiaeth i leihau'r risg o ddal y feirws. Yn y DU, cymeradwywyd PrEP i'w ddefnyddio, ac mae mentrau wedi'u gweithredu i gynyddu ymwybyddiaeth a hygyrchedd.

  • Triniaeth Ataliol (TasP): Mae'r cysyniad o driniaeth ataliol yn golygu dechrau triniaeth HIV yn gynnar i leihau'r llwyth firaol yn y corff, gan wneud unigolion yn llai tebygol o drosglwyddo'r feirws i eraill.  Mae'r strategaeth hon wedi'i hyrwyddo a'i gweithredu yn y Deyrnas Unedig.

  • Gwell Profion a Diagnosis:  Mae datblygiadau mewn technolegau profi wedi caniatáu diagnosis cyflymach a mwy cywir o HIV.  Mae mwy o hygyrchedd profion, gan gynnwys citiau hunan-brofi a mentrau yn y gymuned, wedi cyfrannu at ganfod a thrin yn gynharach. 

  • Lleihau Stigma a Gwahaniaethu: Mae ymdrechion i leihau stigma a gwahaniaethu cysylltiedig â HIV wedi bod yn sylweddol. Nod ymgyrchoedd addysg, megis Methu Canfod = Methu Trosglwyddo a rhaglenni allgymorth cymunedol yw hyrwyddo dealltwriaeth a chymorth i unigolion sy'n byw gyda HIV.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru i ddarparu mwy o wybodaeth am HIV isod:

Llwybr Cyflym Caerdydd a’r Fro

Cynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru 2023-26