Cydweithwyr yn talu teyrnged i Bill Lucas

Gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi marwolaeth sydyn un o'n Gweithwyr Cymorth Gwasanaeth Dydd, Bill Lucas. 

Bill LucasBu Bill yn gweithio gyda thîm y Gwasanaeth Dydd Anableddau Dysgu am dros 27 mlynedd a chyn ymuno â'r Cyngor bu'n gwasanaethu gyda'r Fyddin Brydeinig yng Nghatrawd Coedwigwyr Swydd Gaerwrangon a Sherwood. 

Dywedodd aelodau tîm Bill: “Roedd Bill yn gydweithiwr a ffrind tawel, meddylgar a chefnogol.  

“Byddwn ni’n trysori ein hatgofion gwych am ei synnwyr digrifwch ffraeth, ei garedigrwydd a'i sgiliau trefnu ynghyd â’i sdeil 'crocs a siorts' bob tywydd.

“Roedd Bill yn mwynhau coginio ac roedd ei ginio llysieuol cartref blasus yn destun eiddigedd y tîm cyfan. 

“Doedd dim pen draw i ymroddiad Bill i'w rôl ac yn ystod y pandemig roedd yn un o wir Arwyr Enfys y Fro, ar ôl cael ei ddargyfeirio i Wasanaethau Adnoddau Cymunedol y Fro pan gaeodd ein canolfannau dydd dros dro.

“Roedd y gefnogaeth a gynigiodd i'w gydweithwyr a'i ffrindiau, yn ogystal â'r dinasyddion y bu'n gweithio gyda nhw, heb ei ail a bydd yn aros gyda ni i gyd. 

"Bydd Bill yn cael ei golli'n fawr gan bawb oedd yn ei adnabod. Gorffwys mewn hedd, Bill."

Bydd dathliad o fywyd Bill yn cael ei gynnal yn Amlosgfa’r Barri ar 16 Chwefror am 4pm. Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y gwasanaeth yn The Cherry Orchard, Barry Road, Y Barri.