Cadwch eich lle ar Ddigwyddiad Rhwydweithio Teuluoedd yn Gyntaf

 

Families First Networking Event poster CYMae tîm Teuluoedd yn Gyntaf Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal digwyddiad rhwydweithio yn y Memo ar 07 Mawrth, 10am – 2pm.

Wedi'i anelu at y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a phlant, bydd gweithwyr proffesiynol o'r gwasanaethau cymdeithasol, sefydliadau addysg a'r trydydd sector yn y digwyddiad i rannu gwybodaeth am y gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i ddysgu am yr ystod eang o gymorth sydd ar gael i deuluoedd a phobl ifanc yn y Fro a sut i gyfeirio preswylwyr tuag ato.

Cadwch eich lle

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â Laura Ellis.