Staffnet+ >
Llwyddiant Sgyrsiau Hanes Ynys Echni yng Nghanolfan Gymunedol Belle Vue o Ganlyniad i Weithio mewn Partneriaeth
Llwyddiant Sgyrsiau Hanes Ynys Echni yng Nghanolfan Gymunedol Belle Vue o Ganlyniad i Weithio mewn Partneriaeth
05 Ebrill 2024
Yn ddiweddar, bu ein Swyddogion Bro Oed-gyfeillgar a Gwerth yn y Fro yn gweithio gyda Chanolfan Gymunedol Belle Vue a Chyngor Caerdydd i gyflwyno sgyrsiau am ddim i aelodau'r cyhoedd am hanes Ynys Echni.
Ar ôl agoriad mawreddog Canolfan Gymunedol Belle Vue ym Mhenarth y llynedd, mae Rheolwr y Ganolfan Gymunedol, Nicola Pangano, wedi bod yn awyddus i hyrwyddo'r ganolfan fel man cymunedol i drigolion lleol ei ddefnyddio.
Ar ôl cysylltu â’r Swyddog Bro Oed-gyfeillgar, Sian Clemett-Davies, ynghylch a fyddai unrhyw grwpiau pobl hŷn lleol yn dymuno defnyddio'r lle ar gyfer cyfarfodydd, sicrhaodd Nicola a Sian breswyliad wythnosol ar gyfer Cymunedau MHA Penarth.
Roedd Nicola hefyd yn gysylltiedig â’r Swyddog Gwerth yn y Fro Lianne Young, ac addysg oedolion, sydd hefyd yn cynnig dosbarthiadau wythnosol gan Belle Vue.
Cafodd y man cymunedol argraff dda ar Lianne a Sian a threfnwyd sgyrsiau ar gyfer pobl leol, gan gynnwys gwirfoddolwyr Gwerth yn y Fro, y Rhwydwaith Oed-gyfeillgar a Fforwm 50+ y Fro.
Gan weithio gyda Sarah Morgan, Swyddog Ymgysylltu o Gyngor Caerdydd, trefnwyd a chynhaliwyd dwy sgwrs am ddim am 'Treftadaeth Adeiledig a Hanes Naturiol Ynys Echni', sef tirfas sy'n adnabyddus i bobl leol ac y gellir ei weld ychydig oddi ar arfordir Penarth.
Ynys Echni: Taith Drwy Amser: prosiect a ariennir gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn cydweithrediad ag Awdurdod Harbwr Caerdydd. Un o nodau'r prosiect yw dod â'r ynys i'r cymunedau na allant gyrraedd Ynys Echni.
Daeth llawer o bobl i’r digwyddiad, ac nid oedd y mwyafrif ohonynt wedi ymweld â'r caffi cymunedol o'r blaen. Cefnogodd gwasanaeth Big Fresh y digwyddiad hefyd drwy ddarparu cacen gri am ddim gyda phob diod boeth a brynir. Roedd gwirfoddolwyr Gwerth yn y Fro hefyd yn gallu defnyddio eu gwobrau i gael coffi am ddim, gan fod Canolfan Gymunedol Belle Vue yn un o bartneriaid niferus y cynllun Gwerth yn y Fro.
Cafwyd adborth cadarnhaol gan y sawl oedd yn bresennol, a ddywedodd: “Diddorol iawn, byddai wedi bod yn dda petai’n hirach” ac “roedd yn wych, fe wnes i fwynhau'r sgwrs yn fawr iawn.”
Dywedodd y Swyddog Oed-gyfeillgar, Sian: “Roedd y sgyrsiau yn gyfle gwych i ddod â phobl at ei gilydd mewn lleoliad cymdeithasol a chynnig cyfle i ddysgu a chysylltu dros baned. Roedd pobl leol yn mwynhau hel atgofion am ymweld â'r ynys a chlywed y cyrn dros y môr cyn iddyn nhw gael eu tawelu yn yr wythdegau.”
Dywedodd Lianne, Swyddog Gwerth yn y Fro: “Ar ôl cysylltu â Sarah ar brosiectau blaenorol o fewn ein cynlluniau gwarchod, roeddem yn eithaf sicr y byddai'r sgyrsiau hyn o ddiddordeb i'r gymuned leol a'n gwirfoddolwyr. Nid yn unig roedd y trafodaethau'n llwyddiant, ond wrth eu cynnal yn Belle Vue, roeddem yn gallu cynnig cyfle i'n gwirfoddolwyr i gael coffi am ddim drwy eu cyfrifon. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith partneriaeth hwn yn y dyfodol.”
Dywedodd Rheolwr Canolfan Gymunedol Belle Vue, Nicola: “Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ni arddangos ein lleoliad fel caffi cymunedol a man cyfarfod. Roeddem wedi cyffroi i groesawu cwsmeriaid nad oeddent wedi ymweld â Big Fresh yn Belle Vue o'r blaen.
“Yn ogystal â chynnydd mewn gwerthiannau ar y diwrnod, rydym hefyd wedi croesawu ein cwsmeriaid newydd yn ôl ynghyd â'u ffrindiau a'u teulu sy'n golygu y gellir buddsoddi mwy o elw yn ôl yn y busnes ac ysgolion Bro Morgannwg.”
Mae Cymunedau MHA Penarth yn grŵp lleol ar gyfer pobl 55 oed hŷn. Gyda'u preswyliad newydd yn Belle Vue, byddant yn cynnig gweithgareddau, lluniaeth a chinio gan wasanaeth arlwyo Big Fresh bob dydd Gwener. Cewch ragor o wybodaeth ar eu gwefan.
Mae Rhwydwaith Oed-gyfeillgar y Fro yn gweithio i wneud y Fro yn lle gwell i bobl dyfu'n hŷn ac heneiddio'n dda. Os hoffech gydweithio â'r rhwydwaith Oed-gyfeillgar ar brosiect neu os hoffech ddysgu mwy am beth maen nhw'n ei wneud, cysylltwch â Sian am fwy o wybodaeth yn snclemettdavies@valeofglamorgan.gov.uk. Mae Sian hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Fforwm Strategaeth y Fro 50+, sy'n rhoi llais i bobl hŷn ym Mro Morgannwg.
Mae Gwerth yn y Fro yn elusen sy'n cefnogi gwirfoddolwyr ledled y Fro ac yn cynnig rhaglen wobrwyo i wirfoddolwyr am eu hamser a'u harbenigedd gwerthfawr. I ennill gwobrau neu i gofrestru fel sefydliad partner, cysylltwch â Lianne yn hello@valueinthevale.com.