Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 12 Ebrill 2024
Yr Wythnos Gyda Rob
12 Ebrill 2024
Annwyl gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau'r wythnos hon trwy ddymuno Eid Mubarak i'n holl gydweithwyr a ddathlodd ddiwedd Ramadan yr wythnos hon. Gobeithio eich bod chi i gyd wedi gallu treulio amser gyda'ch teuluoedd.

Yr wythnos hon, cyhoeddwyd darn o waith a fydd yn hanfodol wrth lywio sut mae ein sefydliad yn newid yn y blynyddoedd i ddod. Ddydd Iau cafodd canlyniadau'r arolwg Beth am Siarad am Fywyd yn y Fro eu hadrodd i'r Cabinet a chyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud y byddai'n newid sylweddol i’r ffordd rydyn ni'n gweithio.
Cafodd arolwg Beth am Siarad am Fywyd yn y Fro ei gynnal mewn partneriaeth â Data Cymru i ddeall profiadau preswylwyr o fywyd ym Mro Morgannwg a'u blaenoriaethau.
Dylem fod yn falch o wybod bod 80% o bobl yn dweud y byddent yn argymell Bro Morgannwg fel lle i fyw a bod y canlyniadau hefyd yn dangos bod blaenoriaethau'r Cyngor yn cyd-fynd yn fras â rhai'r trigolion.
Dywedodd 78% o'r ymatebwyr eu bod naill ai'n bryderus iawn neu'n weddol bryderus am yr argyfwng costau byw, roedd 68% naill ai'n bryderus iawn neu'n weddol bryderus am yr argyfwng hinsawdd, ac roedd 65% naill ai'n bryderus iawn neu’n weddol bryderus am yr argyfwng natur. Mae'r rhain eisoes wedi'u nodi fel heriau hanfodol yn y Cynllun Cyflawni Blynyddol.
Roedd gallu cael mynediad hawdd at wasanaethau gofal a gofal iechyd a gallu prynu neu rentu cartref o ansawdd da yn cael eu hystyried yn brif flaenoriaethau ac mae'r meysydd hyn o'n gwaith yn ganolog i strategaeth y gyllideb newydd.
Fodd bynnag, mae angen mwy o ffocws ar rai meysydd o’n gwaith yn ôl canlyniadau’r arolwg. Mae byw mewn cymdogaeth sy'n lân ac yn daclus yn flaenoriaeth arall ymhlith ein preswylwyr. Mae'r cyfyngiadau ariannol rydym yn gweithio ynddynt bellach yn golygu bod hwn yn faes o'n gwaith na allwn ei ariannu i'r un lefel ag a wnaethom ar un adeg. Mae hwn yn faes lle mae trawsnewid yn allweddol. Bydd ffyrdd newydd o ddarparu'r gwasanaethau hyn. Mae newidiadau diweddar i gasgliadau gwastraff yn y Gwasanaethau Cymdogaeth yn dangos ein bod yn gallu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn ffyrdd newydd a gwell ac am gost is. Bydd llawer mwy o hyn i ddod o'r rhan hon o'r Cyngor.
Mae'r canlyniadau hefyd yn dangos bod yn rhaid i ni wneud mwy i esbonio i breswylwyr sut rydym yn gwneud penderfyniadau am ein gwasanaethau a sut y gallant lunio'r penderfyniadau hyn. Mewn rhai achosion, mae angen i ni fod yn gliriach ynghylch beth mae’r Cyngor yn gallu ei wneud a beth nad yw'n gallu ei wneud, hyd yn oed pan fyddwn yn gwybod efallai na fydd hyn yn boblogaidd. Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni barhau i ddod o hyd i ffyrdd o siarad â'n cymunedau a sicrhau ein bod yn ceisio barn bobl o bob rhan o'r Fro.
Un o’r canfyddiadau sydd o ddiddordeb arbennig yn yr adroddiad yw cyfran y bobl sydd am gymryd rhan mewn gwirfoddoli. Yr her i ni yw meithrin y perthnasoedd sydd gennym i rymuso cymunedau i helpu i ddiogelu'r gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd bwysicaf iddynt.
Fel bob amser, mae llawer i'w wneud. Mae ein Cyngor ni wedi ymrwymo i annog cyfranogiad y cyhoedd ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Nawr, mwy nag erioed, mae gennym ddealltwriaeth gliriach o'r anghenion hyn ac edrychaf ymlaen at rannu manylion yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod am y prosiectau a fydd yn mynd i'r afael â hyn.
Ysgrifennais fis diwethaf am y newyddion chwerw-felys bod ein tîm Cyfarpar Diogelu Personol yn cael ei ddileu. Yn ystod y pandemig daeth y tîm i symboleiddio popeth oedd yn dda am ein hymateb sefydliadol a pha mor bwysig oeddem wrth gefnogi ein cymunedau yn ystod y cyfnod anodd hwnnw. Ddydd Llun cefais gyfle i ddweud hynny yn bersonol wrth rai o'r tîm mewn digwyddiad cyflwyno dan arweiniad Sharon Miller. Roedd y digwyddiad yn un o’r radd flaenaf ac yn ffarweliad teilwng â'r tîm. Diolch yn fawr unwaith eto i bawb yno ac i Sharon am arwain y dathliadau.
Mae gweld yn uniongyrchol y gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn un o'r manteision niferus o weithio mewn llywodraeth leol. Yn rhy aml, nid yw'r gwaith hwn yn cael ei gydnabod. I'r rhai ohonoch sy'n gweithio'n agos gyda grwpiau cymunedol, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn clywed bod Gwobrau Cymunedol Bro Radio yn ôl i ddathlu'r gorau o gymuned, chwaraeon ac unigolion y Fro. Mae'r orsaf yn chwilio am gynifer o enwebiadau â phosib gan y gymuned leol.
Bydd y gwobrau'n cydnabod enwebeion mewn digwyddiad tei du fis Mehefin eleni, felly os ydych chi'n adnabod grŵp neu unigolyn sy'n haeddu rhywfaint o gydnabyddiaeth yna enwebwch nhw yn www.broradio.fm/awards. Bydd yr enwebiadau yn cau ar 3 Mai.
Fel rhan o'n gwaith i gyflawni ein hymrwymiadau Prosiect Sero, mae tîm prosiect Codi Gwefru Cerbydau Trydan yn chwilio am gydweithwyr sy'n berchen ar gerbyd trydan neu hybrid ac sy'n gweithio yn yr Alpau neu'n ymweld â'r Alpau yn rheolaidd i gymryd rhan mewn treial.

Mae nifer o bodiau gwefru cerbydau trydan yn yr Alpau lle gallwch wefru eich cerbyd. Wrth i ni weithio i gyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan yn ehangach i safleoedd eraill a chaniatáu i aelodau'r cyhoedd ddefnyddio'r podiau, hoffem gael adborth ar sut mae'r system yn gweithio cyn ei lansio i breswylwyr ac ymwelwyr.
Hoffwn atgoffa pawb mai dydd Llun yw'r dyddiad cau i'r holl staff adolygu a diweddaru eu manylion personol. Mae'r holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn gyfrinachol a dim ond defnyddwyr awdurdodedig o'n timau Adnoddau Dynol a Chyllid sy'n defnyddio'r data at ddibenion adrodd a phrosesu sy’n gallu ei gweld. Bydd cael proffil cyfredol o'n staff yn galluogi gwell ymgysylltiad â staff, yn cefnogi gwaith ein rhwydweithiau mewnol, ac yn helpu ein tîm Adnoddau Dynol i gymhwyso'r polisïau corfforaethol sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel. Rhowch amser i adolygu a diweddaru eich gwybodaeth chi.

Yn olaf, hoffwn longyfarch Arweinydd y Cyngor, Lis Burnett, ar godi bron i £3000 i elusen trwy gerdded adenydd awyren yr wythnos diwethaf. Gwirfoddolodd Lis i chlymu ei hun i adenydd awyren ddwbl am daith pymtheg munud er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith elusen Big Moose sy'n codi arian ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Dywedodd Lis wedyn ei bod yn "brawf bod merched aeddfed, llond eu croen yn gallu ei gwneud hi o hyd!" Gallwch wylio fideo o'r hediad a gwybodaeth am sut i gyfrannu arian ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith caled yr wythnos hon. Diolch yn fawr iawn,
Rob.