Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 05 Ebrill 2024
Yr Wythnos Gyda Rob
05 Ebrill 2024
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod wedi mwynhau gwyliau’r Pasg. Gobeithio bod y nosweithiau goleuach a heulwen achlysurol iawn yn y gwanwyn wedi rhoi hwb wrth i ni ddychwelyd i'r gwaith.
Nid oedd gan bawb amser i ffwrdd, wrth gwrs, a hoffwn ddiolch i'r rhai a weithiodd dros gyfnod y Pasg, boed hynny ar y rheng flaen yn ein parciau a'n canolfannau, ar rowndiau gwastraff neu’n rhoi cymorth i'n dinasyddion mwyaf agored i niwed – Diolch.
Fel bob amser, mae digon wedi bod yn digwydd ar draws y Cyngor dros y pedwar diwrnod diwethaf.
Hoffwn ddechrau diweddariad yr wythnos hon trwy sôn am gynllun pwysig y mae amrywiaeth eang o gydweithwyr wedi bod yn rhan ohono.
Mae cynllunio ar gyfer dyfodiad Pobl â Hawl o Afghanistan i ganolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan wedi bod yn mynd ymlaen ers peth amser.
Mae hynny wedi gweld staff o adrannau Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Cyfathrebu ac adrannau eraill yn cydweithio â chymheiriaid o Lywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref, y Bwrdd Iechyd a'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod yr holl drefniadau angenrheidiol yn eu lle.
Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch eisoes yn ymwybodol o'r mater hwn gan iddo ymddangos yn aml ar y teledu, y radio ac mewn papurau newydd dros benwythnos gŵyl y banc.
Er bod y sylw hwnnw'n gytbwys ac yn gywir ar y cyfan, yn anffodus mae lleiafrif bach yn ein cymdeithas sy'n ceisio cam-gynrychioli sefyllfaoedd fel hyn i hyrwyddo eu hagendâu eu hunain.
Dyna pam ei bod yn bwysig bod yn glir am y ffeithiau.
Mae'r bobl sydd wedi cyrraedd Sain Tathan yn Bobl â Hawl. Mae hynny’n golygu bod ganddynt yr hawl i fyw a gweithio yn y DU.
Mae'r statws hwn wedi'i roi i gydnabod y cymorth y gwnaethant ei roi i Luoedd Arfog Prydain yn Afghanistan.
Mae pob person wedi teithio i Sain Tathan fel rhan o uned deuluol, ac mae pob un wedi cael eu gwirio'n helaeth o ran diogelwch.
Byddant yn aros yno yn y tymor byr cyn symud ymlaen i lety eraill ledled y DU.
Mae arnom ddyled o ddiolchgarwch i'r unigolion hyn am eu hymdrechion i gynorthwyo'r Wlad dramor, gwasanaeth sydd yn aml wedi eu rhoi mewn perygl eithafol ac wedi golygu eu bod wedi gwneud aberth personol mawr.
Ymwelodd Arweinydd y Cyngor â Sain Tathan yn gynharach yr wythnos hon i weld y ddarpariaeth sydd wedi'i rhoi ar waith a chwrdd â rhai o'r rhai sydd wedi teithio o Afghanistan.
Rwy'n gwybod bod eu straeon personol a'r caledi y maent wedi ei ddioddef wedi cyffwrdd â hi.
Cyn bo hir, bydd gwybodaeth am y ffordd y gall pobl gynnig cymorth i'r grŵp hwn, llawer ohonynt wedi symud i'r wlad hon heb fawr mwy na'r dillad ar eu cefnau. Byddaf yn trosglwyddo'r manylion hyn pan fyddant gennyf.
Mae'n bwysig cofio bod Cymru a Bro Morgannwg yn Wlad ac yn Sir Noddfa.
Mae hynny'n golygu ein bod yn rhan o rwydwaith sy'n credu mewn darparu cymorth, urddas a chroeso i bobl sydd wedi profi dadleoli gorfodol ac sydd wedi ymrwymo i gynnal gwerthoedd cynwysoldeb, undod a thosturi.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r ymgyrch hwn.
Mae helpu'r rhai mewn angen yn greiddiol i Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Nid yw'r ymdrechion hynny yn weladwy ar unwaith bob amser, ond yn yr achos hwn bydd yn sicr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer iawn o fywydau.
Da iawn a diolch i bawb sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn. Diolch yn fawr i chi i gyd.
Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Cyngor ei Gynllun Cyflawni Blynyddol, sy'n nodi ein heriau a'n meysydd ffocws allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Y prif nodau yn y cynllun, a nodwyd ôl ymgynghori'n eang, yw cefnogi preswylwyr yn yr argyfwng costau byw, ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, a sicrhau bod y sefydliad yn gallu cyflawni ar gyfer dinasyddion yn y tymor hwy.
Caiff ei lunio gan bedwar Amcan Lles y Cyngor, sy'n feysydd blaenoriaeth a amlygir yng Nghynllun Corfforaethol 2020-25.
Y rhain yw:
- Gweithio gyda a thros ein cymunedau
- Cefnogi dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy
- Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned
- Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd.
Dyma'r bumed flwyddyn a'r flwyddyn olaf o gyflawni camau gweithredu i fodloni'r amcanion hyn, gyda Chynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2025-2030 i'w ddatblygu dros y 12 mis nesaf sy'n cynnwys blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Fel sefydliad, mae'n bwysig bod gennym lasbrint clir a rennir ar gyfer y flwyddyn nesaf fel bod pawb yn deall yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni, pa rwystrau a allai fod yn y ffordd a sut y gallwn eu goresgyn.
Mae'r cynllun hwn yn adlewyrchu egwyddorion craidd y Cyngor i fod yn Uchelgeisiol, yn Falch, Gyda'n Gilydd ac yn Agored, a byddwn yn annog pob cydweithiwr i ymgyfarwyddo ag ef.
Bydd cynnydd yn erbyn amcanion y cynllun yn cael ei adrodd i Bwyllgorau Craffu'r Cyngor bob chwarter i roi diweddariadau a chyfle i Gynghorwyr ddadansoddi’r gwaith hwn.
Gall aelodau'r cyhoedd hefyd gymryd rhan mewn cyfarfodydd pwyllgor yn ogystal ag ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori sy'n gysylltiedig â mentrau'r Cyngor.
Yn ddiweddar, bu ein Swyddogion Bro Oed-gyfeillgar a Gwerth yn y Fro yn gweithio gyda Chanolfan Gymunedol Belle Vue a Chyngor Caerdydd i gyflwyno sgyrsiau am ddim i aelodau'r cyhoedd am hanes Ynys Echni.
Ar ôl agoriad mawreddog Canolfan Gymunedol Belle Vue ym Mhenarth y llynedd, mae Rheolwr y Ganolfan, Nicola Pangano, wedi bod yn awyddus i’w hyrwyddo fel man cymunedol i drigolion lleol ei ddefnyddio.

Gofynnwyd i Swyddog Oed-gyfeillgar y Fro, Sian Clemett-Davies a fyddai unrhyw grwpiau pobl hŷn lleol eisiau ddefnyddio'r gofod ar gyfer cyfarfodydd, a arweiniodd at Nicola a Sian yn sicrhau preswyliad wythnosol i Gymunedau MHA Penarth, grŵp lleol o bobl dros 55 oed.
Bu Nicola hefyd yn gweithio gyda Swyddog Gwerth yn y Fro Lianne Young, a chydweithwyr mewn Addysg Oedolion, i gynnig dosbarthiadau wythnosol yn Belle Vue.
Gwnaeth y gofod cymunedol argraff dda ar Lianne a Sian a threfnwyd sgyrsiau ar gyfer pobl leol, gan gynnwys gwirfoddolwyr Gwerth yn y Fro, y Rhwydwaith Oed-gyfeillgar a Fforwm 50+ y Fro.
Mynychodd llawer y ddwy sgwrs oedd am ddim, am 'Dreftadaeth Adeiledig a Hanes Naturiol Ynys Echni', darn o dir sy'n adnabyddus i bobl leol y gellir ei weld oddi ar yr arfordir lleol.
Da iawn i'r rhai fu'n rhan o drefnu'r digwyddiadau hyn - mae'n swnio fel bod pawb wedi cael amser gwych.
Yn olaf, hoffwn dynnu eich sylw at gwrs sylfaen Cymraeg newydd fydd yn dechrau ar brynhawn dydd Gwener (12 Ebrill) ac yn rhedeg am 30 wythnos.
Mae'r sesiynau, a gynhelir dros zoom, yn rhad ac am ddim i'r holl staff a gellir eu cyfrif fel rhan o'r diwrnod gwaith gyda chymeradwyaeth rheolwr llinell.
Gellir cael mwy o wybodaeth trwy gysylltu â’r cydlynydd Iaith Gwaith Sarian Thomas-Jones neu’r Swyddog Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg Elyn Hannah.
Rwy’n gorffen fel arfer gyda diolch diffuant am eich ymdrechion yr wythnos hon – maent yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
Diolch yn fawr iawn,
Rob.