Yn anffodus, mae Peter Clinton, Gofalwr yr Hen Neuadd wedi marw

Yn drwm ein calon, rydym yn cyhoeddi marwolaeth Peter Clinton, ein Gofalwr yn yr Hen Neuadd, yr wythnos diwethaf. Rhoddodd Peter 25 mlynedd o wasanaeth i'r Cyngor.

pete clifton 1

Disgrifiodd ei reolwr, Sally Perini, a fu’n gweithio'n agos gydag ef drwy’r cyfnod hwnnw, yn drysor gwirioneddol.

Bydd pawb yn gweld eisiau gwaith caled Peter, ei ymroddiad i'r Hen Neuadd, a'i ofal am y tiwtoriaid a'r dysgwyr yn fawr.

Er gwaethaf wynebu heriau personol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, arhosodd Peter yn gadarn yn ei ymrwymiad. Roedd disgwyl iddo ymddeol ym mis Mai eleni.

Rydym yn cydymdeimlo â’i deulu a’i ffrindiau ar yr adeg anodd hon.