Oes gyda chi gerbyd trydan?
09 Ebrill 2024
Mae’r Tîm Prosiect Gwefru Cerbydau Trydan yn chwilio am gydweithwyr sy'n gweithio yn yr Alpau neu'n ymweld yn rheolaidd - ac sy'n berchen ar gerbyd trydan/hybrid, i gymryd rhan mewn treial.
Mae nifer o bodiau gwefru cerbydau trydan yn yr Alpau lle gallwch wefru eich cerbyd personol pan yn ymweld â'r safle.
Wrth i ni weithio i gyflwyno cyfleusterau gwefru trydan ehangach i safleoedd eraill a chaniatáu i aelodau'r cyhoedd ddefnyddio'r podiau, hoffem i chi roi adborth i'r tîm ar ôl eu defnyddio fel y gallwn ddatrys unrhyw broblemau cyn agor i’r cyhoedd.
Os oes gennych ddiddordeb yn y treial, cysylltwch â Thîm Prosiect Gwefru Cerbydau Trydan:
evcharging@valeofglamorgan.gov.uk