Newidiadau i ailgylchu yn y gweithle - Popeth sydd angen i chi ei wybod

O 6 Ebrill 2024, bydd yn rhaid i bob gweithle yng Nghymru wahanu eu gwastraff i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o gartrefi’n ei wneud nawr.  

Beth sydd wedi newid?

Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau newydd, mae gan yr Alpau, Swyddfeydd y Dociau a Swyddfeydd Dinesig gynwysyddion ailgylchu ar wahân bellach.

New recycling containers

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Bydd gofyn i staff ddidoli eu gwastraff ailgylchadwy yn ôl:

  • papur

  • poteli a jariau gwydr

  • metelau, plastigion a chartonau bwyd a diod

  • Papur brown a chardfwrdd

  • gwastraff bwyd

Pa eitemau y gallaf eu hailgylchu?

Ychydig iawn o eitemau na allwn eu hailgylchu dan y system newydd, plastigau meddal, pecynnau brechdanau wedi'u gorchuddio â phlastig a chwpanau coffi yw rhai ohonynt.

Os nad ydych chi’n siŵr a ellir ailgylchu eitem ai peidio, neu pa gynhwysydd y dylid ei rhoi ynddo,  gallwch gyfeirio at ein canllawiau A-Y ar-lein.

Mae rhai eitemau a ddefnyddir yn gyffredin o amgylch y swyddfa yn cynnwys: 

  • Papur gwyn (nad yw’n gyfrinachol) – paper container
  • Cylchgronau a thaflenni gwybodaeth – paper container
  • Ffoil – metals, plastics and cartons container
  • Caniau diod – metals, plastics and cartons container
  • Cartonau a photeli plastig – metals, plastics and cartons container
  • Papur brown a chardfwrdd – Dylid torri cardfwrdd a'i roi yn y cynhwysydd papur brown a chardfwrdd.
  • Bwyd dros ben / Pilion bwyd – cadi gwyrdd

  • Bagiau te a gwaddodion coffi - cadi gwyrdd

  • Pecynnau creision - Mae gan rai adeiladau finiau ailgylchu pecynnau creision pwrpasol. (Os nad oes biniau o’r fath yn eich adeilad chi, gallwch eu rhoi yn y gwastraff cyffredinol.)

Golchwch yr holl becynnau bwyd a diod cyn eu hailgylchu. 

Beth ddylwn i ei wneud pan fydd y biniau ailgylchu yn llawn?

Swyddfeydd y Dociau a Swyddfeydd Dinesig

Cysylltwch â'r Swyddogion Safle pan fydd y biniau'n llawn, a byddant yn trefnu iddynt gael eu gwagio.

Sylwch nad yw'r biniau ailgylchu newydd wedi'u leinio â bagiau.

Alpau

Mae staff yn gyfrifol am wagio'r biniau ailgylchu. Pan fydd y biniau yn eich ardal waith yn llawn, gwagiwch nhw yn y biniau allanol.

Sylwch na ddylid rhoi’r deunydd ailgylchu mewn bag pan gânt eu gwagio i'r biniau allanol cyfatebol.