Yr Wythnos Gyda Rob 

22 Medi 2023

Annwyl gydweithwyr,

Waterfront - residents event

Yr wythnos hon, rwyf wedi gallu gweld gyda fy llygaid fy hun yr effaith y mae ein gwaith yn ei chael ar gymunedau yn y Fro a pha mor werthfawr yw'r cymorth yr ydym yn ei gynnig.

Nos Lun, cynhaliais gyfarfod cyhoeddus ynghyd ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Burnett, ein Cyfarwyddwr Lleoedd, Marcus Goldsworthy, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai Miles Punter, a Phennaeth Datblygu Cynaliadwy, Ian Robinson. Daeth dros gant o breswylwyr draw i drafod methiant y consortiwm o adeiladwyr tai sy'n datblygu'r safle i gyflawni'r cyfleusterau a'r seilwaith cymunedol y maent wedi ymrwymo iddo.

Roedd rhwystredigaeth y rhai yn yr ystafell yn amlwg. Fodd bynnag, yr hyn ddaeth i'r amlwg fwyaf yn y cyfarfod oedd bod llawer o bobl yno yn gweld y Cyngor fel sefydliad i droi ato am gefnogaeth a gweithredu. Er na allwn orfodi adeiladwyr tai i weithredu yn anffodus, mae sawl ffordd y gallwn roi pwysau arnynt ac rydym bellach yn defnyddio'r cryfaf o'r rhain. Fis diwethaf, cyhoeddwyd ein bod yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn Consortiwm y Glannau ac roeddwn yn falch o allu tawelu meddwl y rhai a fynychodd ddydd Llun trwy rannu bod y gwaith o gyflwyno gwaharddeb i’r consortiwm bellach wedi dechrau.

Waterfront - residents event at Academy

Yn ogystal â'r camau cyfreithiol, fe gafodd y cwynion a glywsom ddydd Llun eu rhoi yn uniongyrchol i gynrychiolwyr y consortiwm mewn cyfnewidfa onest iawn yn swyddfa'r Arweinydd fore Mercher. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld cynnydd hir-ddisgwyliedig yn awr a gall y rhai sy'n byw yn yr ardal fwynhau'r cyfleusterau a addawyd iddynt pan brynwyd eu cartrefi.

Ar nodyn mwy cadarnhaol mae hon wedi bod yn wythnos arall o lwyddiannau i ysgolion y Fro. Mae'r gwobrau bellach yn dod i mewn mor gyflym i athrawon a staff cymorth y Fro fy mod yn dechrau meddwl efallai y bydd angen bwletin ar wahân ar gyfer y rhain!

International school award

Mae Ysgol Gynradd Parc Jenner wedi ennill Gwobr fawreddog Ysgol Ryngwladol y Cyngor Prydeinig. Mae'r wobr yn dathlu cyflawniadau ysgolion sy'n gwneud gwaith eithriadol mewn addysg ryngwladol a chydnabuwyd yr ysgol am eu gwaith yn rhoi dimensiwn rhyngwladol i addysgu a dysgu.

Mae'r tîm ym Mharc Jenner wedi helpu’r disgyblion i ymweld â Sbaen a Gwlad Groeg i ddysgu am fywyd y tu allan i'r DU ac wedi croesawu disgyblion o'r ddwy wlad i'r Barri. Bydd hyn wedi rhoi boddhad mawr i'r plant a'r bobl ifanc oedd wedi gallu cymryd rhan ac mae'r gydnabyddiaeth genedlaethol o waith yr ysgol yn haeddiannol iawn. Llongyfarchiadau.

Mental health and wellbeing Wales awards

Yn y cyfamser, mae Ysgol Sant Richard Gwyn wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Effaith Eithriadol mewn Addysg Gwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru. Amlygwyd gwaith yr ysgol i gefnogi lles disgyblion a staff yn y cyfryngau yn gynharach eleni ac mae'n wych ei gweld yn derbyn clod ehangach nawr.

Ynghyd ag Arweinydd y Cyngor, cwrddais â'r Pennaeth David Blackwell ddydd Mercher i drafod y pwysau cyllidebol sylweddol sy'n wynebu ein hysgolion i gyd.  Buom hefyd yn trafod y cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer ysgol a chyfleusterau newydd sbon ar y safle. Does dim amheuaeth bod y cyfyngiadau ariannol ar bob gwasanaeth yn waeth nag erioed ond mae'r cynigion rydym yn gobeithio eu datblygu yn dangos na ddylai fod unrhyw gyfyngiadau ar ein huchelgeisiau ac na ddylem fyth roi'r gorau i chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi'r rhai sydd ein hangen.

Rwy'n falch iawn, gyda heriau o'r fath o'n blaenau, bod y berthynas rhwng swyddogaethau cymorth y Cyngor a'n hysgolion yn parhau i dyfu'n gryfach. Diolch i waith cydweithwyr yn ein timau Cyllid ac Adnoddau Dynol, rydym wedi ymestyn cymorth cyflogres i Ysgol Stanwell ac Ysgol Gyfun y Bont-faen yn ddiweddar. Ysgrifennodd Matt Bowmer yn ei neges ddiweddar am bwysigrwydd gwaith di-glod yn aml y cydweithwyr hynny sy'n gweinyddu ein cyflogres ac rwy'n falch iawn o wybod y bydd hyd yn oed mwy o gydweithwyr nawr yn gallu dibynnu ar y gwasanaeth rhagorol hwn.

Infuse logo

Mae cydweithio bob amser yn thema allweddol yn rhaglen ddatblygu Infuse. Mae'r Fro wedi cael nifer o gydweithwyr yn graddio ym mhob un o'r tair carfan hyd yma a dim ond pethau da yr wyf wedi eu clywed am ddigwyddiad Infuse 2023 a fynychwyd gan lawer ddydd Mercher. Nod y digwyddiad oedd dod ag unigolion o'r un anian ynghyd mewn un ystafell i ddathlu cyflawniadau rhaglen Infuse ac ysbrydoli arloesi a chydweithio ledled Cymru. Mae yna lawer y gallwn ni ei ddysgu gan ein cyfoedion bob amser, ac yn sicr mae llawer o arfer da yn y Fro y gallwn ei rannu. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n cael cyfle i ymgysylltu â rhwydweithiau proffesiynol fel Infuse i wneud hynny er mwyn i ni allu parhau i rannu syniadau blaengar ledled y Fro.

Ddiwedd fis diwethaf, ysgrifennais i ddiolch i gydweithwyr o'n tîm Tai fu'n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o Gyngor Caerdydd a phartneriaid eraill i gefnogi ffoaduriaid Affganistan wrth iddynt geisio adeiladu bywydau newydd yng Nghymru. Ddoe cefais lythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, a hoffwn rannu rhan ohono gyda chi. 

"Hoffwn ddiolch o waelod calon ar ran Llywodraeth Cymru am eich cefnogaeth anhygoel a gwaith caled eithriadol eich swyddogion dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn cefnogi wrth Affganiaid mewn gwestai yng Nghymru.

"Er eich bod wedi gweithio'n ddiflino yr holl amser i gefnogi ac adsefydlu’r holl deuluoedd o Affganistan, gwn fod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol wrth ddod o hyd i lety addas i gynifer o aelwydydd mewn cyfnod byr. Mae eich gwaith yn dod o hyd i lety a sicrhau’r llety hwnnw o dan amgylchiadau mor anodd wedi bod yn drawiadol ac wedi ysbrydoli.

"Mae eich sefydliadau wedi chwarae rhan hanfodol yn sicrhau y gall Cymru gyflawni ein huchelgais o fod yn Genedl Noddfa, ac mae eich ymdrechion wedi dangos dull gweithredu 'Tîm Cymru' go iawn."

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog bod y gwaith hwn wedi ysbrydoli. Yn gynharach eleni, nododd Arweinydd y Cyngor ein bwriad i'r Fro gael ei chydnabod fel Sir Noddfa ac mae'r gwaith hwn yn dangos ein bod eisoes yn gwireddu'r uchelgais hwn.

Ogmore Village Hall - ribbon cutting

Ar ôl dechrau'r wythnos yn trafod cyfleusterau cymunedol oedd yn ddiffygiol iawn, roedd hi'n braf gorffen yr wythnos drwy ymweld â dau leoliad cymunedol sydd ar agor ac yn gwneud gwahaniaeth mawr, diolch i gefnogaeth y Cyngor.

Bore 'ma, mynychais agoriad swyddogol Neuadd Bentref Aberogwr. Mae’r cyfleuster, sydd yn cynnwys caffi, ystafell ddosbarth, a neuadd gymunedol sydd ar gael ar gyfer ystod eang o weithgareddau, yn bosibl trwy £332,000 o gyllid A106 a sicrhawyd gan ein tîm Cynllunio. Mae'r prosiect wedi cael ei arwain yr holl amser gan Gymdeithas Neuadd Bentref hynod ysbrydoledig Aberogwr ac mae'n enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cefnogi cymunedau i weithio gyda'i gilydd. Derbyniodd y grŵp gyllid hefyd gan Gronfa Grant Cymunedau Cryf y Cyngor.

Yna, prynhawn ‘ma, dadorchuddiwyd y ffenestri gwydr lliw newydd yng nghanolfan gymunedol Sant Paul ym Mhenarth. Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd lawer gyda Chymdeithas Tai Newydd ar ailddatblygu adeilad oedd yn adfail ar un adeg, yn floc newydd o dai fforddiadwy a chanolfan gymunedol sydd ei hangen yn fawr. Cymerwyd gofal mawr i gynnal ffasâd yr adeilad gwreiddiol. Mae'r ffenestri a ddadorchuddiwyd heddiw, a ddyluniwyd gan blant a phobl ifanc lleol, wedi aros yn driw i'r rhai gwreiddiol ac yn uchafbwynt gwych i’r datblygiad. Rydym i gyd yn gwybod pa mor ddifrifol yw'r angen am dai fforddiadwy a chyfleusterau cymunedol mewn sawl rhan o'r Fro ac felly roedd yn wych gweld prosiect arall i fynd i'r afael â hyn yn cael ei orffen. 

Draft Annual Self Assesment

Cyn i mi orffen fy neges yr wythnos hon, hoffwn dynnu eich sylw at y gwaith ymgysylltu diweddaraf ar ganfyddiadau’r Hunanasesiad Blynyddol. Nod yr adroddiad yw dangos i Lywodraeth Cymru, ein Rheoleiddwyr, dinasyddion Bro Morgannwg a rhanddeiliaid eraill sut rydym yn perfformio, ein bod yn gwneud penderfyniadau mewn ffordd agored, ac yn defnyddio ein harian ac adnoddau eraill yn effeithiol i gyflawni ymrwymiadau ein Cynllun Cyflawni Blynyddol a chyfrannu at y nodau Lles cenedlaethol.

Yn olaf, hoffwn annog yr holl staff i gwblhau’r arolwg gwobrau a buddion sy’n cau ddydd Llun. Mae'r arolwg yn dilyn yr adborth a gafwyd yn y fforwm gwobrau a buddion sydd newydd ei sefydlu a bydd yn helpu i lywio ystod newydd o wobrau a buddion i'w cynnig i staff. Mae’n cymryd munudau yn unig i gwblhau’r arolwg.

Diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon.  Diolch o galon. 

Rob.