Yr Wythnos Gyda Rob
15 Medi 2023
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn.
Er mai dim ond ers ychydig wythnosau y mae ein hysgolion wedi bod yn ôl ar ôl gwyliau'r haf, mae’n deg dweud eu bod yn bendant yn ôl gyda bang. Mae cymaint yn digwydd yn barod a llawer o newyddion cadarnhaol iawn i'w adrodd.
Yn gyntaf, mae A Special School, rhaglen ddogfen y BBC sy'n cofnodi'r gwaith gwych sy'n digwydd yn Ysgol y Deri, wedi cael ei henwebu am wobr BAFTA Cymru.
Roedd gan y rhai sy'n gweithio i'r Cyngor syniad eithaf da yn barod gymaint o ysbrydoliaeth yw Ysgol y Deri, a daeth hynny i’r amlwg mewn gwaith ffilmio emosiynol a dyrchafol.
Mae'r pennaeth Chris Britten a'i dîm yn gwneud gwaith anhygoel yn helpu plant ag anghenion arbenigol ac wedi creu ysgol sy'n gosod y safonau yn ei maes.
Da iawn i bawb sy'n chwarae eu rhan yn gwneud yr ysgol yn un mor wych a phob lwc ar gyfer 15 Hydref pan gaiff yr enillwyr eu cyhoeddi.
Ddydd Mercher, cyhoeddwyd bod Ysgol Gynradd Tregatwg yn dal yn y ras am wobr fyd-eang fawreddog.
Mae'r ysgol wedi cyrraedd rhestr fer Ysgol y Flwyddyn y Byd yn y categori Goresgyn Trallod ar gyfer cyfres o fentrau cymunedol.
Maen nhw yn erbyn ysgol o Balesteina ac un arall o India gyda chyfle i ennill $50,000.
Yn ystod y pandemig, cysylltodd Tregatwg â Fair Share i ddarparu gwasanaeth dosbarthu bwyd i aelodau o'r gymuned sy’n agored i niwed, menter yr oedd llawer o aelodau eraill o staff yn gysylltiedig â hi hefyd.

Sefydlodd yr ysgol hefyd siop fwyd 'talu fel y mynnwch' a golchdy cymunedol, sy'n gweithredu ar sail debyg.
Bu prosiectau arloesol hefyd i ddysgu disgyblion a'r gymuned am fwyta'n iach, bod yn egnïol ac i annog dysgu.
Mynychais gyflwyniad yn yr ysgol ddoe i ddysgu popeth am y ffordd y mae Tregatwg wedi croesawu model Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru.
Mae honno'n fenter sydd â’r nod bod ysgolion yn creu cysylltiadau agos â theuluoedd, eu hardaloedd a gwasanaethau eraill.
Mae cynlluniau cymunedol Ysgol Gynradd Tregatwg wedi cael effaith sylweddol ar nifer fawr o breswylwyr, llawer ohonynt wedi bod yn ei chael hi'n anodd, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae'r Pennaeth Janet Hayward a'r Rheolwr Cymunedol Hannah Cogbill-Davies wedi ysbrydoli gyda’r gweithgareddau hyn yn yr un modd â holl staff yr ysgol.
Da iawn i bawb oedd yn gysylltiedig.
Dywedwyd wrthyf, pe bai Tregatwg yn fuddugol, y byddant yn defnyddio'r arian i wella'r neuadd chwaraeon gymunedol.
Pob lwc, mae pawb yn y Cyngor yn eich cefnogi.
Ond, beth bynnag fydd y canlyniad, does dim amheuaeth am yr effaith sylweddol a pharhaol y mae mentrau cymunedol yr ysgol wedi'i chael ar y rhai sy'n byw yn lleol.

Yn ystod argyfwng y coronafeirws a'r cyfnod heriol a ddilynodd, mae staff a disgyblion Ysgol Gynradd Tregatwg wedi bod yno i gefnogi'r rhai oedd ei angen fwyaf.
Mae hynny'n fddugoliaeth enfawr yn fy marn i, waeth beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Rwy'n gwybod y gwahaniaeth y mae'r ymdrechion hynny'n parhau i'w wneud a chymaint y maent yn cael eu gwerthfawrogi.
Da iawn i bawb oedd yn gysylltiedig. Fel sefydliad, rydym yn hynod falch o'ch cyflawniadau. Dangoswch eich cefnogaeth drwy fewngofnodi a phleidleisio dros Ysgol Gynradd Tregatwg.
Diolch yn fawr iawn, llongyfarchiadau a phob lwc.
Gan aros gydag Addysg, ddoe cawsom y pleser o groesawu Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i'r Barri i ymweld â dau adeilad ysgol o'r radd flaenaf a gwblhawyd yn ddiweddar.

Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad â safle ysgol Derw Newydd sydd newydd ei gwblhau yn hen Depo Court Road yn y Barri, lle ymunodd Chris Britten a'i dîm o staff ymroddedig, cydweithwyr Dysgu a Sgiliau, sydd wedi cyflawni'r cynllun yn llwyddiannus, a'r Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, â ni.
Bydd yr ysgol arbenigol hon yn cynnig darpariaeth bwrpasol i ddisgyblion sydd angen cymorth ar gyfer anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol cymhleth.
Caiff ei rheoli gan Ysgol y Deri ac mae'n disodli Y Daith yn y Bont-faen ac Y Daith Ymddiriedolaeth Fferm Amelia, gan gynyddu’r capasiti cyffredinol ar gyfer disgyblion.
Mae gan yr adeilad lawer o nodweddion arloesol i helpu disgyblion i fanteisio i'r eithaf ar eu cyfnod yno.

Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cegin arlwyo lawn.
- Neuadd fwyta gyda gwydr o'r llawr i'r nenfwd a wal y gellir ei phlygu yn ôl i greu ardal fwy o faint.
- Ystafell technoleg bwyd lle gall disgyblion ddysgu paratoi prydau bwyd a byw’n annibynnol.
- Ystafell ffitrwydd
- Ystafell gymunedol fawr i ddisgyblion gael eu man dynodedig eu hunain.
- Ystafelloedd un i un
Ar y safle, mae tair uned benodol hefyd sy'n darparu addysg arbenigol mewn Dylunio a Thechnoleg, Adeiladu a Mecaneg.

Mae gan yr ysgol Ardal Chwaraeon Amlddefnydd (AChA) ac ardaloedd cynefin sy'n caniatáu i ddisgyblion ddysgu am fioamrywiaeth.
Rwy'n deall mai'r cyfleuster yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru a bod y cyfleusterau sydd ar gael yn wirioneddol ysbrydoledig.
Derw Newydd yw datblygiad diweddaraf y Cyngor i fod yn Garbon Sero-net o ran Gweithrediad drwy ddyluniad yr adeilad, gan ei wneud yn eithriadol o ecogyfeillgar.
Mae'n defnyddio paneli solar gyda batris storio; pympiau gwres ffynhonnell aer, sy'n tynnu gwres o'r atmosffer; insiwleiddio gwell; a mannau gwefru Cerbydau Trydan.
Dyma'r darn diweddaraf o waith yn ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy'n parhau i drawsnewid cyfleusterau ysgolion ledled y Fro.

Yna ymlaen i safle newydd adeilad Ysgol Sant Baruc ar Lannau’r Barri, sydd hefyd â chyfleusterau hynod fodern, lle ymunodd Mrs Rhian Andrew a'r Cyngor Ysgol â ni hefyd am daith o amgylch yr ysgol newydd.
Mae llawer o waith caled wedi mynd i ddarn mor helaeth a chymhleth o waith â'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Mae Trevor Baker a Kelly Williams yn flaenllaw gyda’r ymdrechion hynny, sy'n rhoi'r llwyfan gorau ar gyfer llwyddiant i blant y Fro.
Mae hwn yn waith pwysig sy'n cael effaith gadarnhaol iawn ar ran mor bwysig o'n cymunedau. Mae'n bwysig hyrwyddo'r Gymraeg o fewn cymunedau presennol a chymuned newydd Glannau’r Barri. Diolch i Mrs Andrew a diolch hefyd i Gyngor yr Ysgol am y croeso cynnes. Diolch Mrs Andrew a diolch hefyd i'r Cyngor Ysgol am eu croeso cynnes.

Da iawn i bawb sy'n cymryd rhan – gwerthfawrogir eich ymdrechion yn fawr.
Mae adeilad blaenorol Sant Baruc bellach yn cael ei ddefnyddio gan Ysgol y Deri y Barri dros dro tra bod adeilad newydd yn cael ei adeiladu yn Cosmeston.
Roedd angen llawer o waith i baratoi'r adeilad ar gyfer derbyn y disgyblion newydd a dim ond chwe wythnos i'w gwblhau.
Roedd angen creu mynedfa newydd â ramp, gosod system teledu cylch cyfyng a chegin newydd.
Roedd yn rhaid bocsio rheiddiaduron a phibellau lefel isel hefyd, ailosod y toiledau, gosod system rheoli mynediad, codi ffensys, ailosod cwteri, addurno’n helaeth, heb sôn am greu chwe ystafell ddosbarth, ystafell ymneilltuo ac ystafell technoleg bwyd!
Efallai fod hynny'n swnio'n uchelgeisiol, ond wynebodd y staff dan sylw yr her i baratoi’r ysgol ar ei newydd wedd yn gyflym iawn.
Diolch yn fawr i gydweithwyr o TGCh, Ysgol y Deri, Gwasanaethau Adeiladau a Big Fresh am chwarae eu rhan yn y gweddnewidiad cyflym hwnnw.
Aeth Neil Stokes, Mark Slocombe, Simon Jones a'r tîm y tu hwnt i’r disgwyliadau, gan weithio'n ddiflino i fodloni'r terfyn amser a darparu amgylchedd dysgu gwych i ryw 60 o blant ei ddefnyddio tra bod eu lleoliad hirdymor yn cael ei orffen.
Newyddion trist nesaf wrth i angladd Phil Southard gael ei gynnal ddydd Mercher.

Roedd Phil yn aelod poblogaidd iawn o’r staff ac roedd ei farwolaeth sydyn yn sioc i bawb. Nid oedd yn syndod felly gweld cymaint o gydweithwyr yn yr angladd ac wedi hynny ym Mhafiliwn Penarth. Roedd yn deyrnged addas i'r effaith gafodd Phil ar fywydau pobl eraill.
Rydym eisoes wedi enwi ystafell yn y Pafiliwn, adeilad yr oedd mor hoff ohono ar ôl chwarae rhan fawr yn ei adfywiad diweddar, er cof am Phil. Mae'r ystafell ddosbarth, ers 13 Medi, wedi ei enwi’n Southard Classroom – Dosbarth Southard.
Unwaith eto, hoffwn annog unrhyw un sydd angen cymorth i gysylltu â'n gwasanaeth cwnsela, Gofal yn Gyntaf.
Gellir eu cyrraedd drwy ffonio 0800 174 319 ac mae cydweithwyr Iechyd Galwedigaethol hefyd wrth law i helpu.
Wrth i dymor yr haf dynnu at ei derfyn, mae adran dwristiaeth y Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall sut mae trigolion y Fro yn ystyried twristiaeth.

Mae ein Sir, ynghyd â Gwynedd a Sir Benfro, wedi ffurfio partneriaeth gyda Croeso Cymru ac eisiau clywed gan breswylwyr lleol ar y pwnc hwn a'i effaith ar ardaloedd penodol.
Mae arolwg wedi cael ei lansio i gael barn pobl ar fanteision ac anfanteision twristiaeth i sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n gynaliadwy.
Defnyddir y canfyddiadau i lywio polisi yn y dyfodol i ddiwallu anghenion y cymunedau dan sylw orau.
Mae’r arolwg wedi'i anelu at breswylwyr y Fro, ac mae hynny'n cynnwys aelodau o staff sy'n byw yma.
Os oes gennych unrhyw amser rhydd, rhannwch eich barn a gellir gwneud hynny’n ddienw.
Lansiwyd ymgyrch Dweud eich Dweud eleni yr wythnos hon hefyd.

Lansiwyd Hyb Dweud eich Dweud yn 2022 i godi ymwybyddiaeth o bolisi chwythu'r chwiban y Cyngor a'i gwneud hi'n gyflym ac yn hawdd i staff roi gwybod am bryderon trwy ffurflen ar-lein, llinell ffôn neu e-bost (yn gyfrinachol os yw'n well gennych).
Gofynnwyd hefyd i staff awgrymu beth fyddai'n eu helpu i ddeall y polisi yn well yn yr Arolwg Dweud eich Dweud, gwybodaeth a ddefnyddiwyd i'w ddiweddaru.
Mae'r gweithdy hyrwyddo eleni yn cynnwys animeiddiad cryno ’polisi ar dudalen’, tra bod datblygiad modiwl iDev hefyd ar y gweill.
Mae dweud eich dweud neu 'chwythu'r chwiban' yn cael effaith gadarnhaol ar y sefydliad, gan ddiogelu cyllid ac enw da'r Cyngor tra'n cadw cydweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel.
Mae gan ein holl staff, parhaol a thros dro, Cynghorwyr, partneriaid, gweithwyr asiantaeth a chontractwyr rôl bwysig i'w chwarae yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau rhagorol i breswylwyr.
Rydym yn disgwyl i bawb ymrwymo i'n safonau uchel sy'n seiliedig ar egwyddorion gonestrwydd, bod yn agored ac atebolrwydd.
Mae polisi chwythu'r chwiban y Cyngor yn croesawu'r holl bryderon gwirioneddol ynghylch camymarfer yn y sefydliad ac yn trin materion a adroddir o ddifrif. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o faterion Chwythu'r Chwiban ar yr Hyb Dweud eich Dweud.
Gorffennaf, fel arfer, trwy ddiolch i bob un ohonoch am eich ymdrechion yr wythnos hon.
Maent yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
Gobeithio y cewch benwythnos braf a hamddenol.
Diolch yn fawr iawn,
Rob