Yr Wythnos Gyda Rob 

01 Medi 2023

Annwyl gydweithwyr,

O ganlyniad i ŵyl y banc bydd yr wythnos hon wedi bod yn fyrrach i lawer ohonoch, ond rwy’n gwybod na fyddai’n llai prysur.

Cymraeg Gwaith Award Presentation Aug 2023

Gwych oedd gallu dechrau'r wythnos fyrrach yn cyfarfod cydweithwyr a oedd wedi cwblhau ein cyrsiau Gwaith Cymraeg yn ddiweddar. Ochr yn ochr â'r Arweinydd a Sarian, ein Cydlynydd Iaith Gwaith, cyflwynais y tystysgrifau i'r grwpiau cyntaf o ddysgwyr i gwblhau'r cyrsiau y gwnaethom eu lansio y llynedd. Roedd yn ddiddorol iawn clywed gwahanol gymhellion pobl dros ddysgu Cymraeg ac yn galonogol gweld cynifer o bobl yn dysgu yn y gwaith.

Llongyfarchiadau eto i Ellyn, Marie, Matt, Nick a Sharon am rannu eu straeon â ni, a hefyd i Aaron, Chris, Elyn, Elinor, Imogen, June, Kate, Laura a oedd yn methu ag ymuno â'r dathliad. Os hoffech chi ddysgu Cymraeg yn y gwaith mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud hynny, cysylltwch â Sarian neu edrychwch ar yr wybodaeth ar StaffNet.

The opening of Belle Vue

Ddydd Mercher roeddwn i'n ddigon ffodus i gael mynychu agoriad Pafiliwn Belle Vue newydd ei adnewyddu ym Mhenarth. Roedd y digwyddiad yn gyfle i drigolion lleol weld y cyfleuster newydd ac roedd yn wych cael clywed yn uniongyrchol gan lawer o bobl gymaint o welliant ydyw.

Dechreuodd y gwaith o ailwampio'r adeilad ym mis Mehefin y llynedd. Wedi'i ariannu drwy gyfraniadau A106 a sicrhawyd gan ein tîm Cynllunio, prosiect a reolir gan y tîm Prosiectau Mawr, ac a oruchwylir gan y Gwasanaethau Cymdogaeth, mae'r ganolfan gymunedol newydd, a fydd yn cael ei rheoli i ddechrau gan Gwmni Arlwyo Big Fresh, yn enghraifft berffaith o Dîm y Fro yn gweithio gyda'i gilydd. Ar ben hynny, mae'r Pafiliwn yn eistedd mewn gerddi a dirluniwyd yn ddiweddar ym Mharc Belle Vue ac wrth ochr yr ardal chwarae sydd wedi'i huwchraddio'n ddiweddar.

Roedd yr adeilad newydd yn hollol lân i groesawu trigolion lleol ddydd Mercher. Yn ogystal â chydweithwyr o’r timau y soniwyd amdanynt uchod roedd ein tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae yn bresennol hefyd ac yn cynnal gemau a gweithgareddau yn y parc drwy’r dydd.

Teams who helped organise belle vue pavillion launch

Roedd llawer o wynebau hapus a chymaint o sylwadau hyfryd yn ystod y dydd. Efallai mai'r ganmoliaeth fwyaf cofiadwy oedd gan Ellenor, trigolyn lleol ac ymwelydd cyson â'r parc sy'n defnyddio cadair olwyn.

Mae gan yr adeilad newydd le newid cwbl hygyrch i ddefnyddwyr anabl. Dyma'r trydydd yn y Fro, gyda’r lleill yn Cosmeston ac yn Ynys y Barri. Dywedodd Ellenor wrth y tîm ei fod yn un o'r cyfleusterau gorau yr oedd hi wedi'i weld ers amser maith. 

Mae sefydlu lleoliad cymunedol newydd sy'n wirioneddol agored i bawb yn rhywbeth y dylai pawb a fu’n rhan o'r prosiect ymfalchïo’n fawr ynddo. Hoffwn ddiolch i bawb a'i gwnaeth yn llwyddiant, gan gynnwys y rhai a weithiodd y tu ôl i'r llenni gan sicrhau bod popeth yn gweithio drwy gydol y prosiect. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai yn ein tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd a roddodd o'u hamser ddydd Iau i ymuno ag ymgyrch lanhau enfawr ar Afon Ogwr.

Ogmore river clean up

Daeth cannoedd o drigolion lleol ynghyd â thimau o Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, y Fro a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus. Trefnwyd yr ymdrech yn dilyn adroddiadau bod teiars a phentyrrau o rwbel yn cronni. Gyda chymorth cloddwyr a thractorau, yn ogystal â llawer o ymdrech ac egni tynnwyd bron i 2,000 o deiars allan o'r afon, ynghyd â thunelli o hen drolïau, beiciau a metel sgrap. Er ei bod yn amlwg yn hynod rwystredig y byddai masnachwyr diegwyddor yn gadael gwastraff masnachol mewn man harddwch, roedd yr ymgyrch lanhau yn wych i’n hatgoffa bod llawer mwy o bobl allan yna sy'n poeni am eu cymuned ac yn dymuno cymryd rhan. Y gobaith yw y bydd y gwaith glanhau bellach yn caniatáu i fwy o bobl ddefnyddio'r afon ar gyfer gweithgareddau mwy cadarnhaol.

Enforcement vehicle at JOS A48

Mae nifer o fentrau partneriaeth tebyg wedi eu cynnal dros yr haf. Mae cydweithwyr o amrywiaeth o asiantaethau partner, gan gynnwys Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, wedi bod yn rhan o weithrediadau ar y cyd i gadw pobl yn ddiogel yn ein cyrchfannau fel rhan o Ymgyrch Elstree.

Hefyd, yn gynharach y mis hwn, arweiniodd ein tîm Gorfodi ymgyrch ar yr A48 i darfu ar weithgareddau cludwyr gwastraff anghyfreithlon a amheuir ac i nodi gwastraff troseddol a throseddau eraill. Llwyddodd y tîm i weithredu yn erbyn nifer o gludwyr gwastraff anghyfreithlon a amheuir ac atafaelwyd sawl cerbyd gan yr Heddlu. Diolch yn fawr i'n holl Swyddogion Gorfodi a gymerodd ran.

Miles Punter Playing Guitar

Byddaf yn gwrthsefyll y demtasiwn i wneud jôcs am hen drolïau, teiars sbâr neu gludwyr gwastraff wrth symud ymlaen i fy niweddariad nesaf, sef rhannu'r newyddion bod Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai y Cyngor, wedi pasio’r garreg filltir 40 mlynedd o wasanaeth llywodraeth leol yn ddiweddar.

Rydw i wedi gweithio gyda Miles ers blynyddoedd lawer. Yn ogystal â bod yn was gwych a ffyddlon i lywodraeth leol a thrigolion Bro Morgannwg, mae hefyd wedi bod yn gydweithiwr a ffrind hynod gefnogol. Mae ei yrfa drawiadol hyd yma yn dyst i'w waith caled, ei gred ym mhwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus, a’i ymrwymiad i wella'r cymunedau y mae wedi gweithio i'w gwasanaethu erioed.

Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn cyhoeddi cyfweliad â Miles ar StaffNet lle rwy'n siŵr y bydd yn rhannu rhywfaint o'i stori a'r hyn y mae wedi'i ddysgu ar hyd y ffordd. Cyn hyn roeddwn i eisiau mynegi’n gyhoeddus fy niolch personol am bopeth y mae wedi'i roi i'r Fro. Diolch Miles. 

Tracy and Laura Baton of Hope

Yn olaf, hoffwn i drosglwyddo diolch a gefais yn gynharach yr wythnos hon wedi'i gyfeirio at y Cyngor am ei gefnogaeth i'r ras gyfnewid Baton of Hope a basiodd drwy'r Fro yn gynharach yn yr haf. Diolchodd y trefnwyr i ni am helpu i godi ymwybyddiaeth a gwybodaeth am salwch meddwl. Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr wybodaeth y gwnaethom ei rhannu a'r rhai a'i throsglwyddodd i gydweithwyr a ffrindiau.

Diolch fel bob amser i bawb am eu hymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb. Rwy'n cymryd seibiant byr yr wythnos nesaf ac felly’n trosglwyddo awenau’r neges diwedd wythnos i Matt Bowmer, ein Pennaeth Cyllid. Rwy'n edrych ymlaen at glywed y newyddion diweddaraf pan fyddaf yn dychwelyd.

Diolch yn fawr bawb.

Rob.