Staffnet+ >
Ydych chi am ymddeol yn gynharach gyda mwy o arian yn eich cronfa bensiwn?
Ydych chi am ymddeol yn gynharach gyda mwy o arian yn eich cronfa bensiwn?
Fel aelod Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), gallwch fanteisio ar gynllun buddion cyflogeion gwerthfawr - Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol Rhannu Cost Ildio Cyflog (CGYau Rhannu Cost).
I ddysgu mwy, cadwch eich lle drwy fynd i’r dudalen digwyddiadau ar blatfform CGY Rhannu Cost eich cyflogwr.
Byddwch yn dysgu sut y gallech ymddeol gyda mwy o arian, ac o bosibl yn gynharach.

Bydd archebu eich lle yn eich cofrestru'n awtomatig am gyfle i ennill 1 o 5 cerdyn eRodd £50 mewn cystadleuaeth wobrau unigryw. Os mai dyma'r tro cyntaf i chi fynychu gweminar AVC Wise, byddwch yn derbyn 2 gynnig!*
Nodwch 11-15 Medi 2023 yn eich dyddiadur fel Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn – dyma'ch cyfle i gael ateb i’ch cwestiynau sy'n ymwneud â phensiynau a chael trefn ar bopeth.
Yn cyflwyno 'Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn: Mae gwybodaeth yn rhoi dewis i chi' - mae'r weminar unigryw hon wedi'i chynllunio'n benodol i roi cipolwg amhrisiadwy i chi ar eich pensiwn ac CGYau Rhannu Cost gan arbenigwyr y diwydiant.
*Telerau ac amodau’n berthnasol.
- Dylech ystyried eich fforddiadwyedd cyn gwneud neu ddiwygio eich Cynllun CGY Rhannu Cost.
- Bydd angen i chi ystyried pa gynnyrch buddsoddi sy'n addas i chi. Siaradwch â chynghorydd ariannol annibynnol os oes angen cyngor ariannol arnoch.
- Mae CGYau Rhannu Cost ar gael i aelodau gweithredol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn unig.
- Ni ellir defnyddio CGYau Rhannu Cost tan eich bod yn 55 oed, gan godi i 57 oed o 2028.
- Mae triniaeth dreth yn seiliedig ar amgylchiadau unigol a gall newid yn y dyfodol.
- Buddsoddiad hirdymor yw Pensiwn, gall gwerth y gronfa amrywio a gall fynd i lawr. Gall eich incwm yn y pen draw ddibynnu ar faint y gronfa ar adeg ymddeol, cyfraddau llog yn y dyfodol a deddfwriaeth dreth.
|
|