Cyfarfod Diverse: Dydd Mawrth 26 Medi

Bydd y Rhwydwaith Diverse yn cyfarfod rhwng 3 a 4.30pm ddydd Mawrth 26 Medi yn Ysgol Gynradd Heol Holltwn.

Croeso’n ôl i dymor ysgol newydd!

Fe wnaethon ni gyfarfod ddiwethaf ym mis Gorffennaf, cyn seibiant haeddiannol dros wyliau'r haf. Nawr, rydyn ni’n edrych ymlaen i weld aelodau a thrafod ein cynlluniau ar gyfer tymhorau'r Hydref / Gaeaf.

Ddydd Mawrth yma, byddwn ni hefyd yn edrych i drafod cynlluniau ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, sy'n rhedeg o 1 - 31 Hydref.

Mae Diverse bob amser yn agored i aelodau newydd, gan gynnwys staff sy'n gweithio yn yr ysgol, a dyna pam rydyn ni’n anelu at gwrdd ar ddiwedd y diwrnod ysgol.

Edrychwn ni ymlaen at gwrdd â chi ar ddydd Mawrth!

Rydyn Ni Eisiau Clywed Gennych Chi!

Os na allwch chi ddod i'n cyfarfod yn bersonol, bydden ni wrth ein bodd yn clywed am eich syniadau, unrhyw ddigwyddiadau rydych chi'n meddwl y gallai Diverse fod â diddordeb ynddynt neu bynciau trafod yr hoffech i ni eu hystyried.

Llenwch y ffurflen isod i rannu eich syniadau gyda ni:

Ffurflen Syniadau Grŵp Diverse

Ymunwch â Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff

Ffurlen Aelodaeth Arlein