Staffnet+ >
Cyngor yn helpu i gefnogi Prosiect Coginio Banc Bwyd y Fro
Cyngor yn helpu i gefnogi Prosiect Coginio Banc Bwyd y Fro
Yn ystod yr argyfwng costau byw, mae'r Cyngor wedi cyflwyno ystod o gymorth i helpu pobl sy'n cael trafferth ymdopi â phrisiau cynyddol.
Mae cymorth ariannol ar gael, crëwyd mannau cynnes wrth i filiau ynni godi, tra bod yr Awdurdod hefyd wedi bod yn ymwneud ag amrywiaeth o gynlluniau bwyd.
Defnyddiodd Banc Bwyd y Fro gyfraniad ariannol gan y Cyngor i sefydlu prosiect coginio mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Prawf.
Wedi'i leoli yn Eglwys Coastlands yn Colcot, mae'n cynnig cyfle i bobl sydd ar brawf baratoi a gweini prydau bwyd i'r rhai sydd eu hangen.
Yn ddiweddar, cyrhaeddodd y fenter hon garreg filltir arwyddocaol wrth i'r 1000fed plât gael ei weini.
Fel Rheolwr Strategol, mae Becky a grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr yn helpu i redeg prosiect Coginio Banc Bwyd y Fro, sy'n bwydo hyd at 50 o bobl yr wythnos.
"Roedd y prosiect yn syniad a ddaeth allan o'n perthynas â'r gwasanaethau prawf. Maen nhw'n ein helpu gyda thir yr eglwys, a sbardunodd sgyrsiau ynghylch sut arall y gallem weithio gyda'n gilydd i helpu pobl ar brawf i roi ‘nôl i'r gymuned yn fwy uniongyrchol," meddai.
"Rob Robins, rheolwr ardal prawf y Fro, feddyliodd am y syniad i ddechrau a, thrwy sgyrsiau pellach ac asesiadau risg, daeth yn realiti.
"Pwrpas y prosiect yw i bobl ar brawf ddysgu sgiliau newydd tra'n gwasanaethu'r gymuned. Mae llawer o bobl sydd wedi dod drwy'r prosiect wedi cael cymorth ar ryw adeg gan y banc bwyd. Mae'r ffaith eu bod yn rhoi rhywbeth ‘nôl ac yn helpu pobl yn uniongyrchol drwy goginio prydau bwyd yn golygu bod ymwelwyr â’n banciau bwyd yn cael pryd poeth i fynd gyda nhw yn ogystal â'u parsel bwyd. Mae hynny wedi bod o gymorth mawr i lawer o bobl, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw.
"Fy rôl yn y prosiect yw ei oruchwylio a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth. Rwy'n gallu mynychu'r prosiect ar foreau Iau a sgwrsio â'r bobl sydd ar brawf. Rydw i wedi eu gweld yn tyfu i greu bwydlenni, gweithio gyda'i gilydd fel tîm a gweld y canlyniadau gwych ar y diwedd gyda phrydau hyfryd, blasus."
Soniodd Rachel, sydd ar brawf ac sydd wedi bod yn helpu gyda’r prosiect, am yr effaith y mae wedi'i chael arni.
Mae hi wedi helpu i ddylunio bwydlenni, prynu, paratoi a choginio bwyd, a chyfrannu at agweddau iechyd a diogelwch a hylendid bwyd y cynllun.
"Mae’r profiad wedi bod yn grêt gan fy mod i’n rhoi rhywbeth ‘nôl i'r gymuned. Mae'n gwneud i fi deimlo'n dda ein bod ni'n helpu eraill," meddai Rachel.
"Rydw i wedi dysgu sgiliau coginio newydd ac mae fy sgiliau cymdeithasol wedi gwella trwy weithio gydag eraill mewn tîm."
Mae'r effaith y mae'r prosiect wedi'i chael ar y bobl sy'n ei ddefnyddio hefyd yn glir.
Mae Ruth yn ymweld i gasglu bwyd iddi hi a'i theulu.
"Y tro cyntaf i mi wybod am y prosiect oedd pan ddes i i'r banc bwyd a chael pryd o fwyd poeth yn ogystal â pharsel bwyd. Roeddwn i mor ddiolchgar," meddai.
"Mae’n wych bod pobl weithio gyda'i gilydd i helpu pobl, mae’n syniad gwych.
"Roedd cael pryd o fwyd poeth i fynd gyda fi ar gyfer fy nheulu yn goron ar fy niwrnod."
Mae rhagor o wybodaeth am gymorth costau byw ar gael ar wefan y Cyngor.