Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 13 Hydref 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
13 Hydref 2023
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod i gyd yn iawn ar ddiwedd yr wythnos.

Hoffwn ddechrau'r wythnos hon gyda newyddion yr wyf newydd ei dderbyn a chanmoliaeth i dîm Arlwyo Big Fresh, sydd wedi derbyn dim llai na naw enwebiad yng ngwobrau LACA eleni. Gyda'u model busnes arloesol a'r nifer gynyddol o fentrau masnachol, mae'r tîm yn parhau i herio disgwyliadau a stereoteip llawer o bobl o wasanaeth arlwyo awdurdod lleol, ac wrth wneud hynny byth yn colli golwg ar eu gwaith gwerthfawr yn darparu prydau iach i ddisgyblion ysgol yn y Fro. Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 26 Hydref a byddai'n wych eu gweld yn dod adref â rhai o’r gwobrau, er gwaethaf y gystadleuaeth gref ar draws pob categori. Pob lwc bawb.
Mae'r tîm yn cael ei arwain gan yr anorchfygol Carole Tyley. Carole yw un o'r bobl fwyaf ysbrydoledig yr wyf wedi gweithio gyda nhw yn y Fro. Mae Carole wedi bod gyda Thîm y Fro ers blynyddoedd lawer. Ar ôl dechrau ei gyrfa yn golchi llestri mewn ceginau ysgol, trwy waith caled, cariad, tosturi ac ymroddiad i'w chydweithwyr, mae hi bellach yn gyfrifol am dros 230 o staff a thros 15,000 o brydau bwyd bob dydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Big Fresh.
Yn 2015, wrth wynebu’r angen i arbed £400,000, roedd gan Carole y dewis o redeg y gwasanaeth oedd mor bwysig iddi i lawr, neu arloesi. Ers sefydlu Cwmni Arlwyo Big Fresh, mae ein cwmni wedi buddsoddi dros £1 miliwn mewn cynhwysion a rhaglenni gwell ar gyfer ysgolion, gan gynnwys canolfannau lles, cyrsiau bwyd, a chynlluniau cyfalaf. Mae'r effaith y mae Carole wedi'i chael ar blant a phobl ifanc yn sylweddol. Nid yw'n syndod felly ei bod hi ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau Womenspire Chwarae Teg.
Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gyda gwobrau â chyrhaeddiad cenedlaethol, roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig, ac fe gafodd Carole ei threchu ar y funud olaf. Wedi dweud hynny, ni ddylai ddigalonni gan fod cyrraedd y rhestr fer mewn digwyddiad mor fawreddog yn gyflawniad enfawr ac yn llwyddiant mawr ynddo'i hun.
Llongyfarchiadau Carole. Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r noson. Rwy'n falch iawn o weithio gyda chi ac mae eich llwyddiant yn haeddiannol tu hwnt.
Hefyd i gyd-fynd â'n hymrwymiadau i adeiladu cymunedau cryfach a helpu preswylwyr y Fro i fyw bywydau iachach a hapusach, rwy'n falch iawn o rannu ein bod wedi agor dau gyfleuster chwaraeon o'r radd flaenaf yn ystod yr wythnos a hanner diwethaf.

Cafodd Parc Sglefrio Coffa newydd Richard Taylor yng Ngerddi’r Cnap yn y Barri ei agor yn swyddogol fore Sadwrn gan yr Arweinydd, nifer o gydweithwyr, a chefnogwyr Cronfa Goffa Richard Taylor. Mae'r parc sglefrio newydd yn enghraifft berffaith o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid yn y sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol yn cydweithio. Codwyd dros £300,000 ar gyfer y prosiect gyda chyfraniadau gan Chwaraeon Cymru, Cronfa Goffa Richard Taylor, Sefydliad Waterloo, Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ogystal â’r Cyngor.
Arweiniwyd datblygiad y parc sglefrio newydd gan ein tîm Gwasanaethau Cymdogaeth a ddatblygodd y dyluniad ynghyd â phreswylwyr lleol a'r sglefrwyr a oedd yn defnyddio'r parc coffa gwreiddiol yn rheolaidd. Roedd y dorf oedd yn bresennol yn dangos pa mor gysylltiedig y mae’r gymuned wedi bod, a’r hyn sy’n rhoi’r pleser mwyaf yw bod pobl o bob oed a gallu wedi mynd ar y rampiau newydd ar ôl torri’r rhuban.
Roeddwn yn siomedig i golli agoriad y cyfleuster newydd gwych hwn ac fel gyda chymaint o brosiectau mawr, mae'n amhosibl diolch i bawb sydd wedi chwarae rhan, ond hoffwn roi sylw arbennig i Jonathan Green a fu'n rheoli'r prosiect a Hannah Rapa a arweiniodd y gwaith i ymgysylltu â'r gymuned a threfnu'r digwyddiad agoriadol y penwythnos hwn. Diolch yn fawr iawn i chi'ch dau a phawb arall a weithiodd i wneud y cyfleuster newydd hwn yn realiti.

Mae'r prosiect hwn yn dangos nad dim ond siarad am gydgynhyrchu yr ydym yn ei wneud yn y Fro ac yn wir, roed yn digwydd yn fuan iawn ar ôl agor cyfleuster gwych arall. Agorwyd Ardal Gemau Amlddefnydd Cwrt-Y-Vil (MUGA) ym Mhenarth, sydd hefyd wedi ei dylunio gan y gymuned y mae’n ei gwasanaethu, yn swyddogol ddydd Mercher 04 Hydref gyda pharti a gynhaliwyd gan Gweithredu Ieuenctid Penarth (PYA).
Roedd PYA yn ganolbwynt haeddiannol i’r digwyddiad. Cafodd y safle ei nodi gan y grŵp ar ôl iddynt gynnal eu prosiect ymgysylltu lleol eu hunain. Bydd nawr yn rhoi lle i bobl ifanc o'r ardal chwarae a chymdeithasu. Mae cyfleusterau fel hyn wir yn gwneud gwahaniaeth i'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc. Y prosiect £100,000 yw'r diweddaraf mewn cyfres hir o waith adnewyddu mannau chwaraeon a chwarae yn y Fro, megis ardaloedd chwarae Dewi Sant a Belle Vue ym Mhenarth, Windmill Lane yn Llanilltud Fawr, a Clos Peiriant a’r Parc Canolog yn y Barri. Yr hyn sy'n gwneud yr un yma’n unigryw efallai yw'r ymdeimlad o berchnogaeth gan y bobl ifanc a gymerodd ran yn y prosiect o'r dechrau. Wrth gwrs, cawsant eu cefnogi'n fedrus yr holl amser gan ein Gwasanaeth Ieuenctid rhagorol yn y Fro ac hoffwn ddiolch yn arbennig i Weithiwr Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth, Kristan Smart, a oedd, yn ôl bob sôn, yn allweddol wrth hwyluso'r prosiect. Mae llwyddiant y prosiect yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn buddsoddi arian ac amser yn ein cymunedau. Diolch yn fawr.
Roedd yr enghreifftiau hyn o'r effaith y gall ein gwasanaethau ei chael ar flaen fy meddwl yr wythnos hon wrth i gydweithwyr y Tîm Arweinyddiaeth Strategol a minnau barhau i ystyried ein hopsiynau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Yr wythnos hon, gwelwyd y gweithgorau cyllideb cyntaf, lle mae pwysau costau ac arbedion posibl ar gyfer pob cyfarwyddiaeth yn cael eu hadolygu. Wrth gwrs, nid yw'r sesiynau hyn byth yn hawdd, ond maent wedi bod yn adeiladol ac, ynghyd â'r Cabinet, rydym yn datblygu dull ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r cyfarwyddwyr bellach yn gweithio ar y dull o ymdrin â'r flwyddyn nesaf ac fel bob amser, gwerthfawrogir pob awgrym gan ein timau.

Fel y soniais wythnos diwethaf, ail-lansiwyd The Learning Café ddydd Llun. Fel noddwr balch, rwy'n falch iawn o weld lefel yr ymgysylltiad yr ydym eisoes wedi'i chael gyda'r fenter ac yn methu aros i'w gweld yn datblygu dros y misoedd nesaf.
Prif bwrpas y rhwydwaith yw creu amgylchedd llawn hwyl, deinamig a chynhwysol sy'n dod â phobl ynghyd o bob rhan o'r sefydliad. Mae'r caffi'n cynnig lle i gydweithio, rhannu syniadau, gofyn cwestiynau, a chefnogi datblygiad ein gilydd. Mae'n agored i'r holl staff, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio yn ein hysgolion, ac os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, gallwch gofrestru nawr. Fel rhan o'r fformat newydd ar gyfer y Learning Café, gallwch hefyd gofrestru ar gyfer negeseuon e-bost wedi'u teilwra sy'n gysylltiedig ag wyth thema allweddol. Mae'r rhain yn darparu ar gyfer diddordebau personol a phroffesiynol a byddant yn cynnig yr olwg gyntaf ar gyfleoedd dysgu mewnol ac allanol yn ogystal â rhannu rhai o'r syniadau diweddaraf.
Mae'r Learning Café wedi'i gynllunio i fod yn wirioneddol gydweithredol a pho fwyaf o fewnbwn sydd gennym i gyd, y mwyaf effeithiol fydd y rhaglen yn cefnogi ein datblygiad a datblygiad y sefydliad. Os oes gennych syniadau neu wybodaeth i’w cyfrannu at y Learning Café, rhowch wybod i ni. Diolch yn arbennig i Natalie Jones am ei gwaith yn datblygu cam nesaf y Learning Café ac am fynd â fi a’r Tîm Arweinyddiaeth Strategol drwy'r cynlluniau mor dda yn ddiweddar.
Gan gadw at thema dysgu a datblygu, rwy'n falch hefyd o allu rhannu, fel rhan o raglen Eich Lle, ein bod wedi creu gofod newydd ar gyfer dysgu ac arloesi yn y Swyddfeydd Dinesig.

Mae Hyb Dysgu 1 wedi'i leoli ar y 3ydd llawr ac mae'n ofod deinamig sydd wedi'i gynllunio i feithrin creadigrwydd, cydweithredu ac arloesi. Mae'n enghraifft dda arall ohonom yn buddsoddi yn ein staff a'r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo, ac edrychaf ymlaen at weld yr atebion creadigol sy’n cael eu cynllunio yn yr ystafell hon yn dwyn ffrwyth. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyd-destun presennol ac rydym i gyd yn gwybod o brofiad blaenorol bod y gallu a'r lle i feddwl yn greadigol ac yn arloesol yn hanfodol wrth helpu'r sefydliad i symud ymlaen mewn ffordd wahanol ac yn aml yn fwy cost-effeithiol. Os hoffech ddefnyddio'r ystafell, cysylltwch â'n tîm Datblygu Sefydliadol a Hyfforddiant.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Fairfield am eu rhoddion hael i Bod Bwyd Penarth yr wythnos hon. Rhoddodd yr ysgol y bwyd a gasglwyd fel rhan o’u gwasanaeth cynhaeaf blynyddol. Bydd y detholiad o fwydydd tun a sych yn cael eu derbyn yn ddiolchgar iawn rwy’n siŵr gan y rhai sy’n dibynnu’n rheolaidd ar y pod bwyd, sy’n cael ei redeg gan grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig ac ymroddedig iawn gyda chymorth gan dîm Cartrefi’r Fro. Mae’r pod bwyd wedi cael rhoddion yn y gorffennol gan Ysgol Gynradd Victoria ac ysgol Gynradd Sili hefyd. Diolch yn fawr i chi i gyd.
Diolch i chi fel arfer am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch i bawb.
Rob.