Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 06 Hydref 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
06 Hydref 2023
Annwyl gydweithwyr,
Ynghyd ag Arweinydd y Cyngor, ysgrifennais at yr holl gydweithwyr ddoe i amlinellu sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor a'r gwaith sydd ar y gweill i baratoi ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yng nghyd-destun yr heriau hynny mae'r wythnos hon wedi bod yn un sydd wedi rhoi optimistiaeth wirioneddol i mi ar gyfer y dyfodol.
Dechreuodd yr wythnos yn gynt na'r arfer gyda'r cyhoeddiad i'w groesawu’n fawr brynhawn Sul o £20 miliwn o gyllid i'r Barri fel rhan o Gronfa Trefi Llywodraeth y DU. Yna, ynghyd â'r Arweinydd a chydweithwyr eraill, cefais gyfarfod cychwynnol â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fore Llun. Roedd y swyddogion a oedd yn bresennol yn gallu rhoi gwybodaeth i ni am y cynllun. Mae'r arian wedi'i ddarparu i'n helpu i weithio gyda phartneriaid lleol eraill i ganolbwyntio ar adfywio canol tref y Barri dros y deng mlynedd nesaf. Er ein bod yn dal i aros am fwy o fanylion, mae'n ymddangos y bydd y buddsoddiad yn ein galluogi i ehangu ein cynllun creu lleoedd arfaethedig ar gyfer y Barri.
Mae gan swm o'r maint hwn y potensial i alluogi rhywbeth gwirioneddol drawsnewidiol i dref fwyaf y Fro. Mae gennym hanes rhagorol o gyflawni cynlluniau adfywio effeithiol yn seiliedig ar leoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae trawsnewid promenâd Ynys y Barri, y rhaglen gwella golwg Heol Holton Uchaf, a'r datblygiadau Pumphouse a Goodsheds yn y Glannau, wedi newid edrychiad a theimlad lleoliadau allweddol yn y Barri. Bydd defnyddio’r hyn rydym wedi'i ddysgu o'r gwaith hwn, yn ogystal â'r prosiectau a gyflwynwyd yng Ngorllewin y Fro gan ein tîm Cymunedau Gwledig Creadigol gynt, mewn prosiectau yng nghanol y Barri, yn ein rhoi mewn sefyllfa dda.
Gyda’r cyllid hwn a fydd ar gael o'r flwyddyn nesaf a’r newyddion a ddisgwylir yn ystod y misoedd nesaf am ein cais am gyllid o gronfa arall gan Lywodraeth y DU i ddatblygu marina a chanolfan chwaraeon dŵr ar gyfer y dref, rwyf wedi cyffroi’n fawr i weld beth allwn ei ddarparu nesaf i'r Barri.

Mae gweithio gyda chymunedau i nodi blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn ganolog i'n dull o adfywio ac rwy'n gwybod bod cydweithwyr yn ein timau Lleoedd yn edrych ymlaen at weithio gyda busnesau lleol a'r gymuned ehangach i archwilio ein hopsiynau yn y dyfodol agos. Yn yr un ysbryd hwn, ymunais â chydweithwyr yn ein timau Polisi a Chyfranogiad a Gwasanaeth Ieuenctid y Fro i hwyluso Sgwrs Hinsawdd gyda dwsinau o blant a phobl ifanc ym Memo y Barri ddydd Mercher.
Daeth y digwyddiad ymgysylltu ynglŷn â newid yn yr hinsawdd, wedi’i gyd-gynllunio gan bobl ifanc, â phobl ifanc a llunwyr penderfyniadau o bob rhan o'r Fro ynghyd er mwyn trafod eu profiadau o weithredu dros yr hinsawdd, eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn eu helpu i gyflawni hyn. Chwaraeodd ein Cyngor Ieuenctid ran bwysig wrth gynllunio'r digwyddiad hefyd a helpodd i nodi'r ddau brif bwnc trafod: gwastraff (ailgylchu a bwyd) a thrafnidiaeth.
Yn sicr, rhoddodd y digwyddiad well dealltwriaeth i mi o bryderon pobl ifanc am newid yn yr hinsawdd. Yr adborth rydyn ni wedi'i gael hyd yma gan y rhai a oedd yn bresennol yw eu bod yn falch o glywed ein bod yn gwneud cymaint yn y maes hwn a bod y sesiynau holi ac ateb wedi helpu i chwalu ambell i chwedl. Gallwch weld rhai o uchafbwyntiau'r dydd ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Diolch yn fawr i bawb a fynychodd ac a rannodd eu barn, ac yn arbennig i'n cydweithwyr a wnaeth iddo ddigwydd. Mae llais pobl ifanc yn un y mae'n rhaid ei glywed wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae arnaf i ofn fod gen i newyddion trist i'w rannu hefyd yr wythnos hon. Bu farw Kevin Hartery, cydweithiwr hir a phoblogaidd iawn yn ein tîm Gwasanaethau Cymdogaeth, fis diwethaf. Roedd Kevin wedi gweithio i'r Cyngor ers mis Awst 1979. Yn fwyaf diweddar, bu’n gweithio fel Gweithiwr Adeiladu yn ein tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd. Yn anffodus roedd Kevin wedi bod i ffwrdd o'r gwaith ers cryn amser ac mae cydweithwyr yn adran yr Amgylchedd a Thai yn gweld ei eisiau'n fawr. Mae ei flynyddoedd o wasanaeth yn dangos y bu Kevin yn was cyhoeddus gwirioneddol a hoffwn hefyd estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i'r rhai y mae ei farwolaeth yn effeithio arnynt.
Ysgrifennais yr wythnos diwethaf am y sesiwn Question Time ar-lein gydag arweinwyr ein rhwydwaith staff - Lee, Carl, Laura, a Colin - a'r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Tom Bowring, ddydd Mawrth. Cafwyd presenoldeb da iawn yn y cyfarfod. Gwn fod pawb a ymunodd â'r sesiwn wedi mwynhau clywed mwy am gydweithwyr sy'n gwneud gwaith mor ysbrydoledig a'r hyn a'u hysgogodd i gymryd rhan. Os nad oeddech yn gallu ymuno ond yr hoffech ddysgu ychydig mwy, bydd y sesiwn ar gael i'w gwylio yn iDev yn fuan. Hoffwn ddiolch i'n harweinwyr rhwydwaith am fod mor agored yn ystod y sesiwn, ac i bob un ohonoch a gymerodd yr amser i wrando a dysgu.
Rhannu ein profiadau a'n gwersi yw un o'r ffyrdd y byddwn yn dod o hyd i ffyrdd newydd a mwy effeithiol o weithio. Er mwyn ein helpu ni i gyd i wneud hyn, mae ein tîm Datblygu Sefydliadol a Hyfforddiant yn ail-lansio'r Caffi Dysgu ddydd Llun. Bydd mwy o wybodaeth am y fenter newydd yn cael ei rhyddhau yn ystod yr wythnos.
Prif bwrpas y rhwydwaith yw creu amgylchedd llawn hwyl, deinamig a chynhwysol sy'n dod â phobl ynghyd o bob rhan o'r sefydliad i gydweithio, rhannu syniadau, gofyn cwestiynau, a chefnogi datblygiad ei gilydd. Mae'n agored i'r holl staff, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio yn ein hysgolion.
Fel noddwr, byddai'n wych gweld cymaint ohonoch â phosibl yn y sesiynau hyn. O ystyried yr angen i bob un ohonom feddwl yn barhaus am sut y caiff gwasanaethau eu darparu, mae gwerth cymryd amser i ffwrdd i ddysgu a datblygu ac i rannu meddyliau a syniadau â chydweithwyr yn amhrisiadwy ac ni ddylid ei anwybyddu. Diolch i Natalie Jones, Cynorthwyydd Datblygu Sefydliadol a Dysgu am ei gwaith ar y rhwydwaith. Diolch Natalie.
Cadwch lygad am negeseuon e-bost drwy gydol yr wythnos i gael gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan ac ymunwch â ni ar y daith hon. Yr wythnos nesaf byddaf yn tynnu sylw at elfennau newydd eraill y Caffi Dysgu, gan gynnwys yr 8 thema newydd a dull newydd o anfon e-byst dysgu yn y sefydliad.
Yng nghyd-destun syniadau newydd, rhannwyd enghraifft wych o brosiect effeithiol â mi ddechrau'r wythnos pan dderbyniodd y Cyngor ein llyfryn seremonïau newydd mewn fformat digidol a chopi caled. Mae'r llyfryn wedi'i gynllunio i ategu ein gwefan a bydd y 1000 o gopïau caled sydd wedi'u hargraffu'n gynaliadwy yn arbennig o ddefnyddiol i'n tîm seremonïau mewn ffeiriau priodas a digwyddiadau eraill. Mae'r gost argraffu wedi'i thalu’n gyfan gwbl drwy ffioedd a dalwyd gan hysbysebwyr, felly mae'r llyfryn wedi'i gynhyrchu heb unrhyw gost i'r awdurdod. Da iawn i Rachel Protheroe a'r tîm sydd wedi gweithio ar hyn ac wedi gallu darparu cynnyrch proffesiynol iawn a fydd yn rhoi'r tîm mewn sefyllfa dda yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn hefyd rannu rhywfaint o newyddion sydd newydd ein cyrraedd wrth i mi ysgrifennu'r neges hon. Rydym newydd ddarganfod bod Bro Morgannwg wedi llwyddo i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang WHO ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn. Fel aelod, bydd Bro Morgannwg yn rhan o fudiad byd-eang cynyddol o gymunedau, dinasoedd a lefelau llywodraeth is-genedlaethol eraill sy'n ymdrechu i ddiwallu anghenion eu trigolion hŷn yn well.
Hoffwn ddiolch i Sian Clemett-Davies am ei gwaith diflino fel swyddog y Fro sy'n Dda i Bobl Hŷn a'r holl gydweithwyr a phartneriaid hynny sydd wedi cefnogi'r gwaith i ni gyrraedd mor bell â hyn. Diolch i chi i gyd.
Yn olaf, hoffwn atgoffa pob cydweithiwr bod brechiadau ffliw yn dal i fod ar gael trwy ein tîm Iechyd Galwedigaethol. Mae brechiadau ar gael i'r holl staff. Argymhellir y rhai sydd â chyflwr iechyd cronig, menywod beichiog, gofalwyr, a'r rhai sy'n debygol o fod â chysylltiadau agos â pherson ag imiwnedd gwan i gael eu himiwneiddio. Gallwch archebu ar-lein nawr.
Diolch fel bob amser i’r holl gydweithwyr am eu gwaith caled yr wythnos hon. Thank you very much
Rob.