Message From the Chief Executive and Leader

Annwyl gydweithwyr,

Cyfarfu’r UDA a'r Cabinet yn gynharach heddiw i drafod strategaeth ariannol y Cyngor. Bydd pob un ohonoch yn ein bod wedi bod yn gweithio mewn hinsawdd economaidd heriol iawn ers cryn amser. Cyn Datganiad Hydref Llywodraeth San Steffan ym mis Tachwedd a Chyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, mae disgwyl i gyfarfodydd pennu cyllideb ffurfiol y Cyngor ei hun ar gyfer 2024/25 ddechrau wythnos nesaf. Yn y cyd-destun hwn, roeddem am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein sefyllfa ariannol bresennol a'n cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf.

Cytunwyd ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ym mis Mawrth, gyda gofyniad ar yr Awdurdod i bontio diffyg ariannol o £9.7 miliwn cyn mis Ebrill nesaf. Daeth hyn yn bennaf yn sgil prisiau ynni, chwyddiant a chyfraddau llog cynyddol, tra bod darparu gwasanaethau hanfodol ond drud i boblogaeth sy'n heneiddio a nifer cynyddol o ddisgyblion ysgol ag anghenion dysgu ychwanegol yn cynyddu costau hefyd.

Bydd yr arbedion a nodwyd eisoes o £7.4 miliwn a’r defnydd gofalus o'n cronfeydd wrth gefn yn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyllid yn 2023/24 ac rydym yn ddiolchgar i waith yr holl gydweithwyr am helpu i gyflawni'r arbedion hyn. Fodd bynnag, mae'r ffactorau y tu ôl i'n costau cynyddol yn parhau i effeithio arnom ac mae'r rhain yn dod yn fwy difrifol mewn rhai meysydd.

Mewn adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Gorffennaf amcangyfrifwyd y byddai bwlch cyllid tebyg yn bodoli ar gyfer 2024/25. Mae llawer o bobl yn dibynnu ar ein gwasanaethau ac felly ni allwn sefyll yn ein hunfan. Rydym yn ymateb yn gyson i heriau newydd. Bydd yn amlwg i bob un ohonoch sy'n gweithio ar reng flaen darparu gwasanaethau bod galw cynyddol am lawer o'r hyn a wnawn, ac mae anghenion y rhai yr ydym yn eu cefnogi yn dod yn fwyfwy cymhleth. Yn unol â hyn, yn ystod y misoedd diwethaf mae wedi dod i'r amlwg hefyd fod costau sylweddol ychwanegol wrth ddarparu rhai o'n gwasanaethau mwyaf hanfodol.

Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol iawn y bydd yn rhaid i ni ddiwygio ein cynlluniau ariannol ar gyfer eleni yn ogystal â pharatoi ar gyfer cyllideb anodd iawn ar gyfer 2024/25. Roedd y trafodaethau a gynhaliwyd heddiw yn un o nifer i'n galluogi ni fel sefydliad i baratoi ar gyfer hyn.

Bydd cynigion arbedion ar draws pob maes cyfrifoldeb y Cyngor yn cael eu hystyried ym mis Hydref a mis Tachwedd, ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, nid ydym yn bwriadu mynd i’r afael â'r heriau ariannol sy'n ein hwynebu drwy dorri darpariaeth yn syml. Hwn fyddai'r dull anghywir, ni fyddai'n darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar drigolion y Fro a byddai'n anghymwynas i'r holl gydweithwyr hynny y gwyddom eu bod yn gweithio'n galetach nag erioed i gefnogi ein cymunedau.

Mae amrywiaeth o fesurau y gallwn eu hystyried ond os ydynt am fod yn llwyddiannus bydd angen cefnogaeth yr holl gydweithwyr ymhob rhan o’r Cyngor.

Yn y gwanwyn fe wnaethom, fel sefydliad, fabwysiadu sefyllfa o ddim gwariant nad yw'n hanfodol. Ni waeth pa mor fach yw'r penderfyniad neu'r swm o arian, rhaid i'r egwyddor hon dreiddio trwy bopeth a wnawn. Yn fwy nag erioed mae angen i bob aelod o staff feddwl yn ofalus am bob penderfyniad a dod o hyd i ffyrdd o leihau gwariant lle bynnag y bo modd.

Rhaid inni hefyd fod yn fwy mentrus o ran sut rydym yn defnyddio'r arian sydd ar gael i ni. Un o'r meysydd yr ydym wedi cael llwyddiant gwirioneddol ynddynt dros y blynyddoedd diwethaf yw defnyddio cyllid grant i gefnogi busnes craidd. Rhaid inni barhau i wneud cais am y cyllid sydd ar gael, ond dim ond pan fydd hynny'n ein cynorthwyo i gefnogi ein gwasanaethau mwyaf hanfodol a phan nad yw'n arwain at gostau parhaus a heb eu hariannu.

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer eleni yn parhau heb eu newid. Dylai ein holl waith fod yn cyfrannu at gefnogi trigolion a chydweithwyr yn ystod yr argyfwng costau byw, gan adeiladu Cyngor mwy cydnerth ar gyfer y dyfodol, a Phrosiect Sero. Mewn llawer o achosion, bydd bod yn greadigol o ran sut rydym yn gweithio a dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfyngu ar wariant yn cyfrannu'n uniongyrchol at y rhain ac yn ein helpu i gadw unrhyw gostau ychwanegol yn isel i ddefnyddwyr gwasanaeth wrth sicrhau ein bod yn parhau i ymateb i faterion ehangach fel yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae'r cyfnod hwn o'r flwyddyn yn un o ansicrwydd bob amser. Ni fydd pa mor heriol fydd bwlch ariannol y flwyddyn nesaf yn glir tan ddiwedd y flwyddyn. Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd pob tîm rheoli'r gyfarwyddiaeth yn ystyried sut i gyfyngu ar wariant a nodi arbedion newydd. Byddant yn croesawu pob awgrym gan gydweithwyr ar sut i wneud hynny. Yna byddwn yn symud i'r prosesau pennu cyllideb ffurfiol ar gyfer 2024/25 gydag adroddiadau cychwynnol i'r Cabinet, ein pwyllgorau craffu, a'r Cyngor Llawn fis nesaf.

Er gwaethaf yr amgylchiadau eithriadol o heriol hyn, nid ydym wedi colli ein huchelgais a byddwn yn parhau i archwilio ffyrdd newydd ac arloesol o fuddsoddi yn ein cymunedau.  Byddwn yn sicrhau bod y rhai sydd ein hangen yn cael gofal priodol a bod ein cymunedau'n tyfu'n gryfach. Byddwn yn gwneud hyn drwy barhau i ail-lunio'r ffordd yr ydym yn gweithio ac ym mha ffordd y caiff ein gwasanaethau eu darparu, gan sicrhau eu bod yn gweithredu mor effeithlon â phosibl, wrth hefyd ymchwilio i ffyrdd creadigol o wasanaethu ein trigolion orau a chefnogi ein gweithwyr. Bydd eich cefnogaeth a'ch syniadau chi yn hanfodol i'r dull hwn.

Diolch i chi gyd ymlaen llaw am eich gwaith caled a'ch cefnogaeth barhaus. Diolch o galon.

Rob Thomas, Prif Weithredwr

Y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor