Bore Coffi Macmillan yn C1V 

Staff i gofio anwyliaid a chodi arian at achos da’r dydd Gwener yma.

Trefnwyd y digwyddiad gan Natalie Taylor sy’n gynrychiolydd Gwasanaeth Cwsmer a oedd eisiau godi arian at achos da.

"Mae ychydig o staff yn y swyddfa wedi colli anwyliaid a ffrindiau i ganser felly roedden ni eisiau cael y bore coffi yma i fyfyrio a rhannu ein hatgofion annwyl am anwyliaid ac annog pobl i gyfrannu at achos da."

Mae'r digwyddiad yn agored i unrhyw un ac yn dechrau o 10am ymlaen ddydd Gwener 6 Hydref. 

 

Macmillan Welsh PictureBydd amrywiaeth o bethau blasus ar gael gan gynnwys cacennau, bisgedi, te PG Tips, siocled poeth Galaxy, lattes, coffi ac ati.

Y pris fydd £1 am gacennau a 50 ceiniog am ddiod boeth.  Bydd y staff yn C1V a'r Hwb Iechyd yn rhoi cacennau/bisgedi, a bydd ambell un yn gwisgo ffedog ac yn pobi danteithion cartref yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Gall y rhai na all fod yn bresennol ond a hoffai gyfrannu wneud hynny yma 

Rhagor o fanylion isod:

  • Lleoliad: Canolfan Gyswllt Un Fro
  • Uwchben Canolfan Hamdden y Barri, mynediad drwy’r maes parcio yn y cefn
  • Dyddiad: Dydd Gwener 6 Hydref 2023
  • Amser: O 10am