Dweud eich dweud yn adolygiad y Fro o Etholaethau, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio.

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg ddyletswydd i rannu’r ardal awdurdod lleol yn ardaloedd pleidleisio a dynodi man pleidleisio ar gyfer pob ardal pleidleisio berthnasol. 

Dweud eich dweud yn adolygiad y Fro o Etholaethau, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio.

Nod yr adolygiad yw sicrhau:

  • bod gan bob etholwr gyfleusterau ymarferol ar gyfer pleidleisio
  • bod mannau pleidleisio yn addas i'w defnyddio gan bob sector o'r gymuned
  • bod mannau pleidleisio yn hygyrch i bob etholwr
  • bod mannau pleidleisio wedi eu lleoli mewn ardal o'r etholaeth gyfatebol oni bai bod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud yn ddymunol i ddynodi ardal sydd y tu allan i'r etholaeth yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

Edrychwch ar y newidiadau arfaethedig a chyflwynwch eich sylwadau erbyn 27 Hydref.