"Dyma fy Man Diogel": Curtis Griffin ar y Rhwydwaith Amrywiaeth Staff

25 Hydref 2023

Curtis Griffin 2Ymunodd Curtis Griffin â'r Cyngor yn ôl yn 2020 fel Mentor Cyflogaeth, gan helpu pobl â rhwystrau i gyflogaeth.

Ymunodd â'r Rhwydwaith Amrywiaeth yn gynnar yn 2021, rhwydwaith staff sy'n hyrwyddo cydraddoldeb hiliol i aelodau'r Mwyafrif Byd-eang.

Wedi'i ffurfio yn 2020, nod y Rhwydwaith Amrywiaeth yw hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu cefndiroedd amrywiol staff a'r rhai sy'n byw o fewn ein cymunedau. 

Mae'n ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb ac yn cynnig amgylchedd cymdeithasol a chefnogol i'r aelodau. 

Ymunodd Curtis â’r Rhwydwaith i gyfarfod a rhwydweithio gyda staff a oedd yn rhannu profiadau bywyd tebyg iddo.

Curtis Griffin 5

"Ches i ddim y dechrau gorau mewn bywyd. Dwi'n meddwl mod i'n taro pob ystrydeb o ran dod o'r ardal anghywir, y cefndir anghywir, a dod drwy’r system ofal. Doedd y gefnogaeth na'r arweiniad gen i gael y cychwyn gorau mewn bywyd, ac fe wnes i ddrifftio i lawr y llwybr anghywir pan o’n i’n iau.

"Es i i'r brifysgol fel myfyriwr aeddfed lle wnes i radd chwaraeon. Roedd yn anodd bod yn fyfyriwr aeddfed a dechrau fy ngyrfa yn ddiweddarach mewn bywyd. 

"Ar ôl graddio, roeddwn i'n gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon gyda Sir Casnewydd, ond o ran gyrfa doedd e ddim yn grêt. Roedd y cyflog yn isel ac nid oedd llawer o ddatblygiad gyrfa.

"Yn 2020 ymunais â Chyngor y Fro, a dyna lle dechreuais fy ngyrfa mewn cyflogadwyedd.  Ers bod yn y rôl hon rwyf wedi bod cysylltu â phobl a allai fod o gefndir tebyg ac yn y bôn rwy’n rhwydweithio gyda fy nghydweithwyr a'm cyfoedion.

"Pan ddechreuais i, fy rheolwr llinell a ddywedodd wrthyf gyntaf am y Rhwydwaith Amrywiaeth.

"Gyda chyflogwyr blaenorol, roedd mentrau i recriwtio pobl o gefndiroedd amrywiol ond doedd dim cefnogaeth fewnol i staff amrywiol fel sydd gennym yn y Fro. Felly, yn bersonol, mae cael man lle gallaf gysylltu â phobl â chefndiroedd tebyg a phrofiadau byw tebyg yn bwysig i'w gael. Mae'n hanfodol." 

Curtis Griffin 4

Ar ôl ymgymryd â'i radd meistr mewn AD yn ddiweddar, mae Curtis wedi datblygu gwybodaeth fanwl am gynhwysiant amrywiaeth, a pham ei bod mor bwysig i sefydliad fel y Cyngor fod yn gyflogwr agored a chynhwysol.

"Mae'n debyg mai recriwtio a chadw staff yw rhai o'r materion mwyaf rydyn ni'n eu trafod yn y Rhwydwaith Amrywiaeth.

"Dwi'n edrych ar fy nghefndir fy hun a dwi'n gweld lot o bobl sy'n dod o'r un ardal â fi, maen profiadau bywyd tebyg i fi ganddynt, ac maen nhw'n diweddu yn mynd lawr y ffordd anghywir yn y pen draw. Os gallwn roi cyfleoedd ehangach i bobl o gefndiroedd amrywiol o ran cyflogaeth a dilyniant gyrfa, gallwn o bosib newid bywydau pobl.

"Mae cynhwysiant amrywiaeth yn lle da i ddechrau, ond nid yw'r gwaith yn dod i ben yn fanna. Mae angen i ni edrych ar sut y gallwn gadw pobl o gefndiroedd amrywiol a sut y gallwn ddatblygu a meithrin eu talent.

"Yn bersonol, nid wyf yn credu bod digon o unigolion o gefndiroedd amrywiol mewn rolau uwch.  Pan nad ydych chi'n gweld llawer o bobl sy'n edrych fel chi yn y mathau hynny o ofodau, gall deimlo nad yw hynny i chi.

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cynnig cyfleoedd cydradd i bobl o gefndiroedd amrywiol ac yn eu meithrin â'r hyder i gymryd y swyddi hyn."

Wrth i'r Rhwydwaith Amrywiaeth edrych ar ffyrdd y gall y Cyngor ddenu a recriwtio pobl ifanc o'r Mwyafrif Byd-eang, maent hefyd yn ceisio cynyddu eu hymgysylltiad â phobl ifanc yn y Fro.

"Mae'n 2023, rydyn ni'n hoffi meddwl bod pobl ifanc yn fwy goddefgar, ond nid yw hynny bob amser yn wir. Dim ond yn ddiweddar roeddwn i'n sefyll y tu allan i'r tŷ ac roedd grŵp o fechgyn a oedd yn adnabod fy mab yn cerdded heibio, wedi galw ei enw a gweiddi sarhad hiliol. Doedd e ddim y tu allan hyd yn oed. Dim ond tair ar ddeg oed yw e, a phan ddwedais i wrtho beth oedd wedi digwydd, roedd e mor siomedig.

"Felly yn bersonol, mae'r gwaith rydyn ni'n ei wneud gydag ysgolion a'r ymgysylltiad rydyn ni'n dechrau ei gael gyda phobl ifanc yn ein cymunedau yn hanfodol.  Mae angen i ni addysgu a chefnogi ein pobl ifanc." 

Yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad i adrannau ar draws y Cyngor, un o brif swyddogaethau'r Rhwydwaith Amrywiaeth yw gweithredu fel piler o gefnogaeth i staff o gefndiroedd amrywiol.

Curtis Griffin 3

"I mi, mae’r Rhwydwaith Amrywiaeth yn lle diogel. Mae popeth a ddwedaf mewn cyfarfod yno neu wrth aelodau eraill yn cael ei gadw’n gyfrinachol sy'n rhoi'r rhyddid i mi ddweud fy nweud.

"Gallaf siarad am y pethau cadarnhaol rydw i wedi'u profi yn fy ngwaith a'm bywyd personol, yn ogystal â rhai o fy rhwystredigaethau. 

"Gallaf ddweud yn hyderus nad wyf oes unrhyw faterion personol yr wyf wedi siarad amdanynt mewn cyfarfodydd amrywiaeth wedi cael eu rhannu mewn mannau eraill - dyma fy man diogel lle gallaf fod yn fi fy hun a chysylltu ag eraill.

"Mae cael rhwydwaith gyda phobl y gallaf uniaethu â nhw, sy'n fy neall, yn bwysig. Ond mae hefyd yn bwysig ymgysylltu â staff nad ydynt o gefndiroedd amrywiol fel y gallant ddeall ein brwydrau, ein rhwystredigaethau a'r problemau a wynebwn yn well."

Er bod y Rhwydwaith eisoes wedi cael effaith gadarnhaol o ran cychwyn y sgwrs ynghylch cydraddoldeb a chynhwysiant hil, mae Curtis yn edrych ymlaen at weld beth y gall y grŵp ei gyflawni yn y dyfodol.

"Mae'n bwysig ein bod yn cael y gefnogaeth barhaus gan Uwch Arweinwyr er mwyn cyflawni newid - mae'r rhwydwaith yn cynnig llwyfan i’n lleisiau gael eu clywed a gweithredu i greu gweithle mwy cynhwysol.

"Fe wnaeth Covid ein bwrw ni nôl dipyn - dy'n ni ddim yn rhwydwaith newydd ond dim ond yn y flwyddyn ddiwethaf neu ddwy yr ydym wedi gallu rhoi rhai o'n syniadau ar waith. Rwy'n credu mai'r hyn rwy'n edrych ymlaen ato fwyaf yw gweld sut mae’r Rhwydwaith yn parhau i dyfu a'r mentrau y gallwn eu hysbrydoli i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r rhai o gefndiroedd ethnig mewn gwaith ac yn ein cymunedau."

Mae’r Rhwydwaith yn agored i unrhyw un. Gallwch ddysgu mwy am y Rhwydwaith Amrywiaeth a chael gafael ar ffurflen aelodaeth ar eu tudalen Staffnet